Ein Bwrdd
Dyma Aelodau ein Bwrdd sy'n gyfrifol ar y cyd am reolaeth, cyfeiriad a pherfformiad Cymdeithas Adeiladu Principality.
Rôl aelodau ein Bwrdd
Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw bwrdd llywodraethu cyffredinol Cymdeithas Adeiladu Principality. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol ar y cyd am reolaeth, cyfeiriad a pherfformiad Cymdeithas Adeiladu Principality er mwyn sicrhau ei llwyddiant hirdymor.
Mae ein Bwrdd yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol. Ein cyfarwyddwyr Gweithredol sy'n arwain y tîm gweithredol sy'n rheoli gweithrediadau bob dydd. Ein Cyfarwyddwyr Anweithredol sy'n sicrhau ein bod yn gweithredu'n gywir drwy herio penderfyniadau ein cyfarwyddwyr gweithredol.
-
Claire Hafner, ACA, MA
Non-Executive Director | Board member since September 2019
Chair of Audit Committee
I serve as the Chair of Audit Committee and am a member of the Remuneration, Risk and Governance and Nominations Committees. My experience across the different sectors of financial services, payments, professional services, multimedia and telecoms enables me to contribute to the Society's change programme and to the Society's continuing success.
I am a qualified accountant (ACA) and have an MA in Languages and Economics. I trained and qualified at Ernst & Young in the Financial Services audit department followed by a further three years in corporate tax. During my career, I have performed a broad range of roles across multiple sectors including a term of six years as a Non-Executive Director of the West Bromwich Building Society. I also serve as a Non-Executive Director of Glendrake Limited.
-
Debra Williams
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Medi 2019
Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Rwy’n Aelod o’r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol. Bydd fy mhrofiad ym meysydd Technoleg Ariannol ac E-fasnach yn fy ngalluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at weddnewidiad digidol parhaus y Gymdeithas, gan gefnogi darpariaeth barhaus o brofiad nodedig i’n Haelodau.
Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi dal amrywiol swyddi fel Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol, ac wedi gweithio mewn rolau ymgynghorol yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Treuliais bum mlynedd yng Nghymdeithas Adeiladu Britannia, a dalais uwch-rolau yn Tesco Compare a Confused.com.
Rwyf hefyd yn dal rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol Co-Op Insurance, Cyfarwyddwr Anweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Rwy’n Ymddiriedolwr Sefydliad Alacrity, yn Gadeirydd GCRE Ltd, ac yn Gyfarwyddwr Awen Consulting Services Ltd. Rwyf hefyd yn llysgennad balch dros Tŷ Hafan.
-
Iain Mansfield, LLB (Anrh), FCA
Prif Swyddog Ariannol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Rhagfyr 2019
Cefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Ariannol y Gymdeithas ym mis Gorffennaf 2022. Mae fy nghylch gwaith yn ymestyn ar draws Cyllid a Thrysorlys, Benthyca Masnachol, Strategaeth, Pensaernïaeth, Nemo ac Eiddo. Yn wreiddiol, ymunais â'r Gymdeithas ym mis Ionawr 2015 fel Cyfarwyddwr Ariannol Nemo (sef is-gwmni benthyciadau ail arwystl Principality) cyn dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Nemo. Fy swyddogaeth i yw sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn rheoli cyfalaf, hylifedd a chyllid y Gymdeithas er budd hirdymor ein Haelodau a chynaliadwyedd y Gymdeithas.
Cyn fy rôl bresennol, cefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Gweithredu ym mis Hydref 2017ac ymunais â'r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2019.Rwyf hefyd yn gyfarwyddwr a Chadeirydd, Nemo Personal Finance Ltd. Rwy'n Gyfrifydd Siartredig gyda mwy nag 20 o brofiad ym maes bancio manwerthu a busnesau newydd a busnesau gwasanaethau ariannol defnyddwyr sy'n eiddo i ecwiti preifat yn y DU.
Mae gennyf hefyd swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Hafren Dyfrdwy.
-
Jonathan Baum, MBA, MA, Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Gorffennaf 2021
Cadeirydd Pwyllgor Risg y Bwrdd
Mae fy mhrofiad ar draws y sectorau manwerthu, busnes, cyfoeth a chyllid asedau ac mewn swyddogaethau arwain risg yn fy ngalluogi i oruchwylio risgiau presennol ac sy'n dod i'r amlwg a fydd yn sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy i'w Haelodau.
Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes bancio domestig a bancio rhyngwladol mewn sefydliadau byd-enwog gan gynnwys Lloyds Banking Group, Barclays Bank plc a GE Capital. Roeddwn i'n Gyfarwyddwr Anweithredol TransUnion UK a Vanquis Bank. Rwyf hefyd yn dal rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Lendable Limited a FCE Bank plc (yn masnachu fel Ford Credit).
-
Julie-Ann Haines MSc, BA (Hons)
Prif Swyddog Gweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Mai 2016
Cefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Gweithredol yn 2020. Cyn hynny roeddwn wedi bod yn Gyfarwyddwr Cwsmeriaid y Gymdeithas ers 2012. Cyn ymuno â Principality, roeddwn i'n uwch-reolwr gwerthu, marchnata a thechnoleg i gwmnïau fel Sainsbury’s a HBOS. Mae gweithio'n agos gyda chwsmeriaid wedi bod yn rhan hanfodol o fy ngwaith erioed.
Rwy'n angerddol ynghylch y Gymdeithas, gan sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein hethos a'n gwerthoedd cyffredin, sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau. Rwy'n frwd dros ddiwallu'ch anghenion a darparu profiadau gwych i gwsmeriaid. Fy nghyfrifoldeb i yw arwain y Tîm Gweithredol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni strategaeth y Gymdeithas ar gyfer buddiannau hirdymor ein Haelodau a sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn ddidrafferth o ddydd i ddydd, gan gynorthwyo cydweithwyr a datblygu diwylliant cynhwysol a dymunol.
Rwyf hefyd yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Strategol Haen Ganol Cyllid y DU, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol Ysgol Fusnes Caerdydd, yn Ymddiriedolwr Canolfan y Mileniwm ac yn Ddirprwy Gadeirydd yr ASS.
-
Shimi Shah
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Mai 2023
Rwy’n Aelod o’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol, Pwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Rwyf wedi bod wrthi’n adeiladu a rhedeg busnesau, unedau hybu, polisi arloesi, rheoli cronfeydd, a chyfalaf menter ers dros 20 mlynedd ar draws yr Unol Daleithiau, Ewrop, a’r Dwyrain Canol ac rwyf hefyd yn Angel Buddsoddi cynhyrchiol a gweithgar ar draws y tiriogaethau hynny yn fy rhinwedd fy hun. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi adeiladu a rheoli buddsoddiadau a phortffolios sylweddol ac wedi gwasanaethu gyda rhai o gwmnïau Ecwiti Preifat mwyaf blaenllaw Ewrop gyda buddsoddiadau mewn dros 50 o gwmnïau.
Rwy'n dra phrofiadol ym maes uno a chaffael, codi arian, IPOs ac ymadawiadau. Mae gen i brofiad helaeth ar fyrddau (o gwmnïau rhestredig i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd) ac rwy’n gwasanaethu ar dri bwrdd mewn swyddogaeth anweithredol ar hyn o bryd. Rwy’n enwog yn fyd-eang fel arbenigwr ar bolisi arloesi ac unedau hybu, ac ar lywodraethu corfforaethol, ac rwy’n darparu gwasanaethau ymgynghori yn y maes hwn i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau’r llywodraeth ar draws yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Mae gen i enw da hefyd ym maes gwerthusiadau ac asesiadau bwrdd, ac rwy'n gweithio gyda sefydliadau, swyddfeydd teulu, a chronfeydd i ddylunio, adeiladu, a throsoli byrddau i fod yn effeithiol yn eu hamcanion.
Rwyf ar Fyrddau'r Bathdy Brenhinol Cyfyngedig a Carousel Solutions. Rwyf hefyd ar fyrddau cynghori North East Fund (NEF), Miratech Limited a HaysMckintrye, ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Llywydd Ifanc (YPO), ar hyn o bryd yn gwasanaethu ar Bwyllgor y Cabidwl.
-
Simon Moore
Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2024
Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2024, a etholwyd yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2024. Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Aelod o’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector ariannol yn gweithio i Lloyds Banking Group, Chase Manhattan Bank, ABN AMRO a Banc Barclays, gan gynnwys fel Rheolwr Gyfarwyddwr Barclays Masnachol Cymru a De-orllewin Lloegr. Rwy’n gwasanaethu fel cadeirydd sefydliad cydfuddiannol blaenllaw arall, LV=, cwmni yswiriant bywyd y DU, yn ogystal â gwasanaethu ar nifer o fyrddau eraill.
Rwy’n gyfrifol am arwain gwaith y Bwrdd, gan sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol wrth bennu’r strategaeth, goruchwylio perfformiad a phennu parodrwydd y Gymdeithas i dderbyn risg. Rwyf i hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau olyniaeth cadarn ar waith, bod y Gymdeithas yn cynnal y safonau llywodraethu corfforaethol uchaf a bod gennym ddiwylliant agored a thryloyw.
Bydd fy mhrofiad fel cadeirydd bwrdd cwmni cyhoeddus, preifat a chydfuddiannol a’m gyrfa yn y sector ariannol, gyda sylfaen mewn rheoleiddio, llywodraethu, risg, cydymffurfio, perfformiad ariannol, gwasanaeth cwsmeriaid, cydnabyddiaeth swyddogion gweithredol a pherthnasoedd aelodau, yn rhoi’r trosolwg angenrheidiol i mi fel aelod o'r bwrdd ac i gyfrannu at lwyddiant parhaus y Gymdeithas.
Yn ogystal â chadeirydd Liverpool Victoria Financial Services Limited, rwy’n Gyfarwyddwr Anweithredol i W.H. Ireland Group PLC.
-
Karen Maguire LL. B, ACA
Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Medi 2024
Rwy'n gyfrifydd cymwysedig (ACA) gyda gradd yn y Gyfraith. Hyfforddais a chymhwysais gyda KPMG yn Ne Cymru, gan ennill profiad ar draws meysydd archwilio, rheoli risg, archwilio mewnol a llywodraethu, ac ar draws ystod eang o ddiwydiant gan gynnwys gwasanaethau ariannol. Mae fy rolau gweithredol wedi cynnwys Pennaeth Risg a Phennaeth Cysylltiadau Buddsoddwyr yn Admiral Group Plc a Phrif Swyddog Ariannol Confused.com, Penguin Portals a ZPG Group.
Mae fy ngyrfa yn y gwasanaethau proffesiynol yn rhoi profiad eang i mi mewn perfformiad ariannol, rheoleiddio, llywodraethu, risg a chydymffurfio, tra bod fy mhrofiad yn y sector gwasanaethau ariannol yn golygu fy mod yn canolbwyntio ar ganlyniadau cwsmeriaid a thrawsnewid digidol.
Rwyf ar Gyngor Grŵp Coleg Clifton lle rwy'n Cadeirio'r Pwyllgor Archwilio, Risg a Chydymffurfiaeth. Rwyf hefyd yn eistedd ar Gyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. -
Maria Timon Samra
Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Tachwedd 2024
Wedi fy ysgogi gan ddibenion, ac ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd ac Ymddiriedolwr yn flaenorol, cefais y fraint fawr o dreulio’r pedair blynedd diwethaf fel Prif Swyddog Gweithredol Tŷ Hafan, yr Hosbis Plant yn Sili sydd, ynghyd â Thŷ Gobaith yng Ngogledd Cymru, yn cael ei gefnogi’n falch gan bartneriaeth elusennol wych Principality. Cefais wobr ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn’ Sefydliad y Cyfarwyddwyr 2021, a thros fy ngyrfa o 30+ mlynedd rwyf wedi cael profiad eang yn lleol ac yn rhyngwladol. Mewn rolau gweithredol uwch fel Partner Ymgynghorydd Rheoli yn Arthur Andersen ac Unisys, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleientiaid mewn cwmni meddalwedd yn yr Unol Daleithiau, Rheolwr Gyfarwyddwr KPMG, Cyfarwyddwr Trawsnewid Digidol yn Barclaycard, a Phrif Swyddog Gwybodaeth Dros Dro Dŵr Cymru, rwyf wedi bod yn ‘ymarferol' wrth ddarparu rhaglenni trawsnewid busnes a newid diwylliannol cymhleth a alluogir yn ddigidol.
Mae’n fraint i mi gael y cyfle i gyfrannu fy sgiliau a’m profiad i sefydliad gwych arall yng Nghymru. Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol, byddaf yn darparu stiwardiaeth a chefnogaeth i’r tîm Gweithredol dawnus a chydweithwyr ar draws y gymdeithas, y bydd cyflawni’r rhaglen drawsnewid uchelgeisiol yn ffocws allweddol iddynt. Mae hwn wedi’i gynllunio i sicrhau llwyddiant cynaliadwy, hirdymor Principality, gan warchod ac ategu treftadaeth, ethos a gwerthoedd Cymreig balch y sefydliad cydfuddiannol.Mae gennyf hefyd swydd fel Cyfarwyddwr yn Timon Samra Associates Ltd.