Morgeisi gyda Principality
Porwch drwy ein cynhyrchion morgais, dysgwch fwy am gael morgais gyda ni a chael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i reoli eich morgais.
Beth hoffech chi ei wneud?
-
Prynu fy nghartref cyntaf
Camu ar yr ysgol eiddo gydag adnoddau a morgeisi ar gyfer y rhai sy’n prynu cartref am y tro cyntaf.
-
Rheoli fy morgais gyda Principality
Ewch ati i ddewis cytundeb morgais newydd, symud cartref, gordalu, neu fenthyca ychydig mwy o arian.
-
Cael morgais gyda Principality
Newidiwch i ni neu archwiliwch ein morgeisi prynu i osod.
Magu hyder ynghylch morgeisi
Mae morgeisi’n gymhleth. Gadewch i ni symleiddio’r broses fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
Darllen am 3 munud
Crëwyd gan ein harbenigwyr
Wedi’i esbonio mewn camau syml
- Morgais Principality
Pam dewis morgais gyda Principality
Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl brynu a byw yn eu cartrefi ers 1860.
-
Gwasanaeth arobryn
Cawsom ein hethol y gymdeithas adeiladu orau ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid am y 6 blynedd diwethaf gan What mortgage.
-
Hyblygrwydd gwahanol
Rydym yn cynnig atebion i’r rhai sy’n prynu cartref am y tro cyntaf, yr hunangyflogedig, y rhai sy’n prynu cartref a adeiledir o’r newydd a mwy.
-
Rydym yn gwneud pethau’n wahanol
Nid oes gennym gyfranddalwyr, felly gallwn roi yn ôl drwy fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac addysg ariannol. Gwnaethom hefyd roi £1.3 miliwn i grwpiau cymunedol a’n partneriaid elusennol yn 2023.
Amser i siarad am forgeisi?
Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi 0330 333 4002 a
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30am - 5pm neu ddydd Sadwrn 9am - 1pm
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais