Skip to content
Log in

Rheoli eich morgais gyda Principality

Yn barod i newid neu am newid eich cytundeb morgais? Gallwn ni helpu.

A family cross a river in unison while walking on stepping stones.
  • Newid eich morgais

Newid eich morgais

Llai na 6 mis ar ôl ar eich morgais cyfredol gyda Principality ac yn barod i newid? 


Gall ein harbenigwyr morgeisi eich helpu i newid dros y ffôn.

Neu os ydych yn gyfforddus i beidio â chael cyngor, gallwch newid ar-lein. 

  • Cyngor dewisol ar forgeisi wrth newid dros y ffôn

  • Dim ffioedd gweinyddol

  • Ystod eang o gynhyrchion morgais sefydlog ac amrywiol


Rheoli eich morgais yn hyderus

Sicrhewch fod eich morgais yn gweithio i chi. P’un a oes angen i chi fenthyca mwy o arian ar gyfer gwella eich cartref, eisiau symud tŷ neu gael rhywfaint o arian dros ben i ordalu.

A man and 2 women sit together, smiling. They hold pens and a notepad.

Pam aros gyda ni

Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl brynu a byw yn eu cartrefi ers 1860. 

  • Dim ffi weinyddol pan fyddwch yn newid

    Mynnwch gyngor wrth wneud newidiadau i’ch morgais gan gynnwys benthyca mwy a chynyddu neu leihau eich tymor. 

  • Cyngor ar forgeisi am ddim

    Mynnwch gyngor wrth wneud newidiadau i’ch morgais gan gynnwys benthyca mwy a chynyddu neu leihau eich tymor. 

  • Cyn lleied o waith papur â phosibl

    Byddwn yn sicrhau bod cyn lleied o waith papur â phosibl,  ac ni fydd angen gwiriad credyd newydd arnoch os nad yw eich amgylchiadau wedi newid.

Cysylltwch â ni

Mae ein timau yma i’ch helpu chi i reoli eich morgais. 

Ein horiau agor yw: o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:30am - 5pm a dydd Sadwrn 9am - 1pm 

  • Newid eich morgais

    Ffoniwch ein harbenigwyr i newid eich morgais ar-lein hyd at 6 mis cyn i’ch cytundeb cyfredol ddod i ben. Ffoniwch ni: 0330 333 4030

  • Ymholiadau morgais

    Siaradwch ag arbenigwr morgeisi am gludo eich morgais, benthyca mwy, neu gael ail forgais Ffoniwch ni: 0330 333 4002

  • Cymorth gweinyddol

    Gofynnwch am ddatganiad adbrynu, newidiwch eich debyd uniongyrchol, gwnewch ordaliad neu holwch ynghylch eich balans. Ffoniwch ni: 0330 333 4000

  • Pryderon ariannol ac ôl-ddyledion

    Rydym ni yma i wrando. Ffoniwch ni i drafod eich ad-daliadau a’ch cynlluniau ôl-ddyledion. Ffoniwch ni: 0330 333 4020

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais