Skip to content
Log in

Cyfrifon mynediad hawdd

Cynilo’n hyblyg gyda’r rhyddid i fynd at eich arian. Efallai fydd cyfyngiadau ar godi arian.

Two men look at an ipad while shopping in a showroom
Son shows credit card to father while on mobile smartphone

A yw cyfrif mynediad hawdd yn iawn i mi?

Mae cyfrifon mynediad hawdd yn rhoi'r rhyddid i chi gynilo'n hyblyg a chael mynd at eich arian pan fydd ei angen arnoch. Efallai fydd cyfyngiadau ar godi arian. 

  • Dechrau cynilo’n fach

    Gallwch agor y rhan fwyaf o'n cyfrifon mynediad hawdd gyda chyn lleied â £1. 

  • Cynilo mewn ffordd sy'n addas i chi

    Heb unrhyw isafswm adnau bob mis, nid oes pwysau i dalu i mewn i'ch cyfrif os yw arian yn brin. 

  • Gallu mynd at eich arian os oes ei angen arnoch

    Mae eich arian ar gael pan fydd ei angen arnoch. Mae cyfyngiadau ar godi arian yn berthnasol i rai cyfrifon mynediad hawdd. 

Deall cyfrifon mynediad hawdd yn Principality

Cwestiynau cyffredin am gyfrifon mynediad hawdd.

Mae cyfrifon mynediad hawdd yn rhoi'r rhyddid i chi gael gafael ar eich arian pan fydd ei angen arnoch. Y syniad yw y gallwch ennill llog ar yr arian rydych yn ei dalu i mewn i'r cyfrif; ond gallwch hefyd gael gafael ar yr arian hwnnw os oes angen. 


Fodd bynnag, gall fod cyfyngiadau. Mae rhai o'n cyfrifon mynediad hawdd yn caniatáu i chi godi arian heb gyfyngiad. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar godi arian ar eraill. 


Er enghraifft, mae cyfrif 'mynediad dwbl' yn caniatáu ar gyfer codi arian dwywaith bob blwyddyn. Mae cyfrif 'mynediad triphlyg' yn caniatáu codi arian teirgwaith bob blwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio sawl gwaith y cewch godi arian cyn gwneud cais am gyfrif mynediad hawdd.  

 Gallai cyfrif mynediad hawdd fod yn addas i chi os: 

  • Oes angen i chi allu cael gafael ar eich cynilion ar gyfer argyfyngau neu gostau heb eu cynllunio  
  • Ydych chi eisiau gallu cael gafael ar eich cynilion i'w gwario ar sbwylio’ch hun neu foethau 
  • Nad oes gennych lawer iawn o incwm gwario ond eich bod yn dal i fod eisiau'r opsiwn o gynilo 

Gallwch agor y rhan fwyaf o'n cyfrifon mynediad hawdd gydag adnau cychwynnol o gyn lleied â £1. 

Mae rhai o'n cyfrifon ISA â mynediad hawdd. Gydag ISA mynediad hawdd, gallwch dalu arian i mewn a chodi arian; er y gallai fod cyfyngiad ar sawl gwaith y cewch godi arian. 


Os byddwch yn agor un o'n cyfrifon ISA mynediad hawdd dylech gofio: 

  • Dim ond uchafswm o £20,000 y gallwch ei dalu i mewn i ISA bob blwyddyn dreth. 
  • Gall codi arian o ISA effeithio ar eich buddion treth 
  • Gydag ISA hyblyg gallwch godi arian a'i roi yn ôl cyn diwedd yr un flwyddyn dreth, heb i hynny effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol  

Awydd rhywbeth gwahanol?

Os nad yw cyfrif mynediad hawdd yn iawn i chi, mae llawer o ffyrdd eraill o gynilo.

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Cymharu’r holl gyfrifon cynilo

Eisiau gweld popeth? Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.