Skip to content
Log in

Symud eich morgais

Ewch â’ch morgais gyda chi pan fyddwch yn symud cartref.

 Family unpacking in their new home by rolling out a living room carpet
A happy couple celebrate moving into their new home, surrounded by boxes

Mynd â’ch morgais gyda chi

Os ydych am symud cartref gallwch gadw eich cytundeb morgais presennol a’i drosglwyddo i’ch eiddo newydd. Cludo yw’r enw ar hyn, ac mae’r rhan fwyaf o gytundebau morgais yn gludadwy. 

  • Ewch â'ch morgais i eiddo newydd

  • Cadwch eich cytundeb morgais presennol

  • Benthyciwch fwy drwy ychwanegu ato

  • Lleihau'r swm rydych yn ei fenthyg - yn amodol ar ffioedd ad-dalu’n gynnar

Couple sitting together drinking tea, surrounded by moving boxes.

Sut i gludo eich morgais

  1. Trefnwch alwad yn ôl gydag un o'n harbenigwyr morgeisi

  2. Trafodwch eich opsiynau â ni

  3. Byddwn yn asesu eich cais ac yn cadarnhau a yw’n bodloni ein meini prawf benthyca

  4. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw eich opsiynau ac yn eich cynghori ar y camau nesaf

Siaradwch â ni am gludo

Trefnwch alwad yn ôl gan un o’n harbenigwyr morgeisi a all eich helpu chi gyda chais i gludo eich morgais. Cyn i chi wneud cais, sicrhewch eich bod yn gwybod: 

  • benthyciad o’i gymharu â gwerth (LTV) yr eiddo newydd 
  • manylion incwm pob ceisydd 
  • eich gwariant misol 
Older couple using a mobile phone together at home

Atebion i’ch cwestiynau

Trwy gludo eich morgais, rydych yn cytuno i drosglwyddo eich cytundeb ar ei delerau presennol. Rydych yn gymwys i gludo’ch morgais i eiddo newydd: 

  • os yw’r eiddo newydd yng Nghymru a/neu Loegr 
  • os yw’r eiddo’n bodloni ein meini prawf benthyca 
  • os ydych yn bodloni ein meini prawf benthyca pan rydych yn gwneud cais i gludo’ch morgais 
  • os nad ydych eisoes yn berchen ar yr eiddo rydych am drosglwyddo’ch cytundeb iddo 

Os yw eich cytundeb morgais yn dod i ben yn ystod y 6 mis nesaf, gallwn hepgor yr ERC ar gais y morgais newydd. 

Os oes angen morgais mwy arnoch, gallwch ychwanegu at eich morgais cyfredol a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cytundeb fwyaf addas. 

 

Byddwn yn gofyn i chi ddewis cynnyrch morgais arall o’r ystod o gynhyrchion sydd gennym ar y pryd. Bydd hyn yn cynnwys swm benthyca ychwanegol , a bydd telerau’r cynnyrch newydd ond yn berthnasol i’r swm ychwanegol y byddwch yn ei fenthyca.


Mae benthyca mwy yn amodol ar dderbyniad. 

Os ydych yn ystyried lleihau swm y morgais pan fyddwch yn ei gludo, efallai y bydd ffi ad-dalu’n gynnar yn berthnasol i’r balans sy’n weddill ar eich cytundeb morgais cyfredol . Ceir gwybodaeth am ffioedd ad-dalu’n gynnar ar eich cytundeb cyfredol yn adran 'Ad-daliadau Cynnar' eich dogfen cynnig. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein rheolau cludadwyedd.

Rhagor o wybodaeth 

  • Young couple packing a car with moving boxes.

    Beth yw Cludo?

    Darllenwch ein canllaw ar gludo i ddysgu sut mae cludo’n gweithio. 

    Beth yw cludo?
  • A women smiles while unpacking a white box and  a potted plant. (welsh)

    Rheolau cludadwyedd

    Gwiriwch ein rheolau cludo i weld a ydych yn bodloni ein meini prawf benthyca.

    Rheolau cludadwyedd
  • Colorful English houses facades in a row, pastel pale colors

    Cynhyrchion morgais

    Cymharwch ein cynnyrch morgais presennol os hoffech fenthyg mwy pan fyddwch yn cludo. 

    Cynhyrchion morgeisi

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais