Hwb i’ch blaendal
Gyda 'Benthyca Ychwanegol' gallai aelod o'r teulu roi arian i chi tuag at eich blaendal heb gyffwrdd â'i gynilion.
Beth mae 'Benthyca Ychwanegol' yn ei olygu?
Benthyca Ychwanegol yw pan fydd aelod o'r teulu yn benthyca mwy o arian ar ei forgais ei hun i roi arian i chi tuag at eich blaendal chi. Gelwir hyn yn benthyca ychwanegol i roi blaendal ar ffurf rhodd neu 'Hwb Blaendal'. Gall ddod gan eich taid, nain, rhiant, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr, wyres, neu warcheidwad cyfreithiol.
Rhoddir y blaendal fel rhodd, sy'n golygu nad oes disgwyl i chi ad-dalu'r swm i’r aelod o'ch teulu.
Gall aelod o'r teulu :
- benthyca mwy ar forgais Principality
- benthyg mwy ar forgais gyda benthyciwr arall
- cymryd morgais bach ar eiddo y maen nhw’n berchen arno’n llwyr
Dyma sut y gallai weithio:
Dywedwch eich bod yn bwriadu prynu’ch cartref cyntaf am £120,000. Rydych wedi cynilo £6,000 ond hoffech fod â blaendal o 10%. Mae eich rhiant wedi cytuno i fenthyca £6,000 ychwanegol ar ei forgais presennol i'ch helpu.
Mae ganddo gynnyrch morgais Principality a balans presennol y morgais yw £150,000. Trwy roi £6,000 i chi, byddai ei fenthyciad
morgais yn cynyddu i £156,000. Byddai’n ad-dalu'r swm ychwanegol hwnnw dros gyfnod y morgais.
Byddai'r arian yn cael ei ryddhau i chi ei roi tuag at flaendal eich morgais.
Yr hyn y mae pob ymgeisydd yn cytuno iddo
Mae'n bwysig bod pawb yn deall yr hyn y maent yn cytuno iddo. Dylech i gyd ystyried cael cyngor cyfreithiol annibynnol hefyd i sicrhau eich bod yn deall yr hyn yr ydych chi i gyd yn cytuno iddo.
-
Mae pawb yn cytuno bod y blaendal yn rhodd ac nid oes angen ei ad-dalu
-
Mae pawb yn cytuno i lofnodi ffurflen yn cadarnhau bod y blaendal yn rhodd
-
Mae pawb yn cytuno mai'r ymgeisydd yw unig berchennog yr eiddo
-
Mae aelod y teulu yn cytuno i ad-dalu'r swm ychwanegol y mae'n ei fenthyg
Sut mae'n gweithio os ydych chi'n aelod o'r teulu sy’n helpu?
Os ydych chi eisiau helpu aelod o'ch teulu gyda'i flaendal, ond nid oes gennych ddigon o gynilion, gallwch fenthyg swm bach yn erbyn eich cartref.
Dyma rai pethau y mae angen i chi eu gwybod.
Os ydych chi'n helpu rhywun i brynu ei gartref cyntaf, dylech gysylltu â ni cyn iddyn nhw wneud cais ffurfiol. Efallai y byddai'n syniad da i'r ddau ohonoch ddod i apwyntiad gydag un o'n harbenigwyr morgeisi a fydd yn gallu esbonio'r holl ddewisiadau i'r ddau ohonoch cyn bwrw ymlaen â chais.
Os ydych chi’n trefnu morgais newydd, neu'n dod atom o ddarparwr arall, mae'n syniad da i roi digon o amser i lenwi’r cais. Gorau po gyntaf y byddwch yn siarad â ni.
Unwaith y byddwch chi a’r aelod o’ch teulu wedi pasio ein harchwiliadau morgais, byddwn yn prosesu'ch cais. Efallai y bydd angen i ni ofyn am rai dogfennau gan y ddau ohonoch. Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith y bydd eich morgais yn barod i'w gwblhau.
Bydd yr arian ar gyfer y blaendal yn cael ei ryddhau ar yr un pryd ag y bydd eich cais morgais yn cael ei dderbyn.
Mae 2 ffordd y gallwch fenthyg mwy ar eich morgais i'w roi i aelod o'r teulu fel hwb blaendal. Gallwch:
- siarad â ni am eich dewisiadau ar gyfer benthyg mwy os yw'ch cytundeb yn dod i ben a'ch bod eisiau trefnu ail-forgeisio gyda ni
- gymryd morgais ychwanegol ar unrhyw adeg.
Gallwch:
- newid i Principality pan ddaw eich cytundeb morgais presennol i ben.
- newid i Principality cyn i'ch cytundeb ddod i ben os yw’ch morgais presennol yn caniatáu hyn a'ch bod yn hapus i dalu unrhyw ffioedd.
Os byddwch yn ail-forgeisio gyda ni, byddwn yn siarad â chi am eich dewisiadau ar gyfer benthyg ychydig yn ychwanegol i'w roi i aelod o'r teulu fel hwb blaendal.
Gallwch drefnu morgais newydd i ryddhau arian i'w roi fel hwb blaendal i aelod o'r teulu.
Os ydych chi'n gwneud cais am 'Fenthyciad Ychwanegol' fel yr aelod o’r teulu sy’n helpu, gallai effeithio ar eich morgais.
Ad-daliadau
Mae'r benthyciad ychwanegol wedi'i ddiogelu yn erbyn eich eiddo. Os oes eisoes gennych chi forgais, bydd yn cynyddu'r swm sy’n ddyledus gennych chi, gallai hyn:
- olygu eich bod yn talu mwy bob mis
- gynyddu cyfanswm y llog yr ydych chi’n ei dalu yn ôl dros amser
- effeithio ar gymhareb benthyciad a gwerth eich cartref a allai effeithio ar y cynhyrchion morgais sydd ar gael i chi
Benthyciad mewn Cymhariaeth â Gwerth
Byddai angen i’r aelod o’r teulu sydd eisiau benthyg mwy sicrhau hefyd nad yw eu balans morgais presennol a'r swm ychwanegol y maen nhw eisiau’i fenthyg yn fwy na benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth (LTV) penodol. LTV yw'r ganran o gyfanswm gwerth eich cartref yr ydych yn ei fenthyg fel morgais.
Dyma’r trothwyon:
- 90% LTV ar gyfer eiddo preswyl
- 75% LTV ar gyfer eiddo prynu i'w osod neu eiddo llety gwyliau
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais