Skip to content

Amddiffyn ein planed

Rydym yn ymrwymo i fynd ati i lunio’r dyfodol.

Sut rydym ni’n amddiffyn ein planed

  • Icon of the world with arrows circling it

    Natur ac arloesi

    Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein hallyriadau, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar garbon yn barhaol.

  • icon of a circle with two leaves inside

    Ein taith tuag at sero net

    Yn 2024, cawsom gynnydd mewn allyriadau carbon o 395 tCO2e*.

  • icon of a hands with a heart above

    Cronfa Werdd o £20 miliwn

    Rydym yn cynorthwyo datblygwyr i adeiladu cartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni.

  • Icon of a factory building with smoke coming out of the chimney

    Defnyddio ynni adnewyddadwy

    Rydym wedi newid i ddefnyddio trydan adnewyddadwy a nwy gwyrdd.

*O'i gymharu â gostyngiad carbon yn 2023 o 2700 tunnell

Rydym yn ystyriol o’n heffaith ar fyd y presennol a’r dyfodol. Felly, ni fyddwn yn sefyll o’r neilltu ac yn aros i rywun arall ddatrys y broblem. Rydym ni’r math o bobl sy’n gweithio’n galed i gael effaith ystyrlon a mesuradwy lle gallwn wneud hynny, a dysgu yn y broses.  


Rydym wedi addo cyrraedd sero net erbyn 2040 (ac eithrio ein llyfr morgeisi), gan leihau carbon o leiaf 50% erbyn 2030.


Felly dyma sut rydym yn rhedeg ein busnes gydag uniondeb, gan wneud cynaliadwyedd amgylcheddol yn fwy nag ymarfer blwch ticio, ac yn chwarae ein rhan i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.


Gweithredu


Rydym yn adolygu’n barhaus yr hyn y gallwn ei wneud yn wahanol, neu’n well:  


Arbed ynni
  • Mae ein swyddfa yn defnyddio goleuadau, gwres, awyru, a phŵer effeithlon o ran ynni. 
  • Mae ein canghennau yn defnyddio goleuadau a synwyryddion symudiadau LED ynni isel. 
  • Bydd pob cerbyd diesel yn ein fflyd yn cael ei ddisodli erbyn diwedd 2024.
Gostwng gwastraff yn sylweddol
  • Rydym yn monitro ac yn lleihau’r hyn yr ydym yn ei argraffu yn ein swyddfa a’n canghennau.
  • Rydym yn gweithio’n galed yn y cefndir i leihau faint o bapur rydym yn ei anfon at ein cwsmeriaid.
  • Mae gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei droi’n ynni ble bynnag y bo’n bosibl.  
  • Rydym yn cyfnewid cyfrifiaduron personol a gliniaduron am ddyfeisiau mwy effeithlon o ran ynni.  
  • Rydym yn ailgylchu neu’n rhoi ein hen offer.   
Dysgu a rhannu
  • Rydym i gyd yn cael ein hyfforddi mewn ymwybyddiaeth carbon, felly mae gwneud dewisiadau doeth o ran yr hinsawdd yn ail natur. 
  • Mae ein Rhwydwaith Ystyriol o’r Blaned a redir gan gydweithwyr yn rhannu cyngor ar ffordd o fyw sy’n defnyddio llai o garbon. 
  • Mae gennym dîm Effaith pwrpasol ac mae ‘Cynaliadwyedd trwy Ddylunio’ wedi’i ymwreiddio yn ein hystyriaethau busnes. 
Ffurfio partneriaethau pwrpasol
  • Rydym yn gweithio gyda ClimatePartner i gasglu data, i fesur ein hôl troed carbon ac i gymryd cyfrifoldeb am ein hallyriadau.  
  • Rydym yn gweithio gyda Hellios i leihau effaith amgylcheddol ein partneriaid cadwyn gyflenwi. 
  • Rydym yn gweithio gyda datblygwyr cynaliadwy i ariannu datblygiad tai carbon isel yn weithredol
  • Yn 2025, rydym yn prynu credydau carbon sy'n cyfateb i gael gwared ar 414 tunnell o CO₂ o'r atmosffer gan O.C.O Technology Limited.  

Sylwer nad yw Principality yn gyfrifol am gynnwys ar wefannau allanol eraill.

Felly, sut ydym ni’n gwneud?

Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw am ein taith gynaliadwyedd. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn mesur ein cynnydd ac yn rhannu ein canlyniadau yn agored.

Gweler ein data allyriadau carbon 2024 yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon a’n data cynaliadwyedd amgylcheddol 2023 yn ein Hadroddiad Effaith isod.