Skip to content
Log in

Our variable rate products will decrease on 05/12/2024. Visit the savings product pages to learn more about the changes.

Dysgu sut i gynilo

Nid dim ond ar gyfer oedolion y mae cynilo. Helpwch eich plentyn i fod yn hyderus gydag arian.

A moth looks down at her son, while out on a camping trp.
A child writes in her notepad on the dining table as her grandmother looks on.

Pam y dylem siarad am arian

Mae dysgu'n gynnar yn helpu i sefydlu arferion rheoli arian da am oes. 

  • Deall gwerth arian

  • Magu’r arfer o gynilo

  • Deall ac osgoi dyled

  • Dysgu sut i gyllidebu

  • Magu hyder gydag arian

Pryd y dylai plant ddechrau dysgu am arian? 

Dydy hi byth yn rhy gynnar i gyflwyno'r syniad o arian a chynilo i blant. Po hynaf yr ydym ni, anoddaf yw hi i newid ein harferion. Gallai eu helpu i ddeall arian yn gynnar eu helpu i wneud dewisiadau ariannol gwell wrth iddynt dyfu. Dechreuwch yn syml i’w helpu i ddeall rhai cysyniadau sylfaenol. 


OedFfyrdd o gyflwyno cynilo i fywyd eich plentyn
0-3Anogwch eich plant i siarad mewn rhifau drwy gyfrif. Cyfrwch eu teganau wrth i chi eu rhoi nhw i gadw, neu faint o gamau sydd i fyny’r grisiau.
4-5Siaradwch am arian gyda’ch plentyn a dangoswch iddynt fod arian yn rhywbeth y gallwch sgwrsio amdano. Cynilwch arian mân mewn cadw-mi-gei a threfnwch y darnau arian gyda’ch gilydd.
6Gadewch iddynt drin arian a dangoswch iddynt fod gwerth ariannol i’r pethau y maent eu heisiau. Gadewch iddynt chwarae wrth y til neu gyfrif arian mân i weld a yw’n gywir. 
7Helpwch nhw i ddeall y cysyniad o ennill arian. Rhowch arian poced iddynt am helpu o gwmpas y tŷ. 
8Darparwch le diogel i gadw’r arian poced ac agorwch gyfrif cynilo gyda nhw. Helpwch i osod nod cynilo i gynilo arian tuag at rywbeth y maent ei eisiau. 
9-10Helpwch nhw i ddeall gwerth arian. Rhowch ddewis iddynt rhwng dau beth y maent eu heisiau gan roi digon o arian am un yn unig. 

Sut y gallwch ddysgu'ch plant sut i gynilo?

Ceir llawer o ffyrdd o ddysgu’ch plant sut i gynilo. Y peth pwysicaf y mae angen i chi ei wneud yw eu hymgyfarwyddo ag arian ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio. Ffordd ddifyr o wneud hyn yw drwy weithgareddau beunyddiol. 

Mae John yn rhoi £10 yr wythnos i’w ferch Kate pan fyddant yn mynd i'r archfarchnad i siopa am fwyd. Mae John yn gofyn i Kate ddewis pryd o fwyd yr hoffai ei gael yn ystod yr wythnos. Gyda'r £10, rhaid iddi brynu'r holl gynhwysion y bydd eu hangen arnynt. Mae hyn yn dysgu Kate sut i gyllidebu, yn ei helpu i ddeall gwerth arian, ac yn magu ei hyder ariannol. 

Mae Max eisiau prynu'r gêm Super Mario newydd pan gaiff ei ryddhau mewn tri mis. Mae’r gêm yn costio £50, ac mae ei fam Jess yn dweud wrtho am gynilo ei arian poced i'w brynu ei hun. Bob wythnos, mae Max yn cael £5 mewn arian poced am lanhau ei ystafell wely ac am olchi’r llestri. Mae Jess yn dweud wrtho, os yw’n rhoi £5 yr wythnos yn ei gadw-mi-gei, y bydd yn cynilo’r arian ar gyfer y gêm mewn 10 wythnos. Drwy gynilo'n wythnosol, mae Max yn dechrau deall y cysyniad o gynilo’n rheolaidd tuag at nod. 

Aeth Isaac â’i arian pen-blwydd i’w ganolfan siopa leol i’w wario yn ei hoff siopau. Roedd ganddo gyfanswm o £5O. Gyda’i arian, gwariodd £20 ar gêm Xbox ail law, £10 ar grys T newydd, a £5 ar lyfr. Yn y siop olaf, roedd am brynu dau degan newydd a oedd yn costio £10 yr un ond nid oedd ganddo ond digon o arian am un. Dywedodd ei fam-gu, Jean, wrtho fod angen iddo ddewis un, gan na allai fforddio'r ddau. Mae hyn yn helpu Isaac i flaenoriaethu sut i wario ei arian. 

Mae Val yn mynd â’i hwyres 6 oed, Ellie, i’r siop gyda hi i brynu’r cynhwysion sydd eu hangen arnynt i wneud cacen. Mae’r cynhwysion yn costio £4.12. Yn y ciw, mae Val yn gofyn i Ellie gyfrifo faint o newid y byddant yn ei gael os yw’n talu gyda phapur £5. Ar ôl i Val dalu, mae hi'n gofyn i Ellie gyfrif faint o newid oedd ganddi i’w gymharu â’r dderbynneb i weld a gawsant y swm cywir. 

Ffyrdd eraill y gallwch chi gyflwyno arian a chynilo: 

  • adrodd straeon a chwarae rôl er mwyn helpu i wneud cysyniadau ariannol yn fwy diddorol 


  • cael trafodaethau ariannol yng nghwmni eich plentyn; megis cynllunio cyllideb eich siopa bwyd 


  • trefnu arfer cynilo gyda’ch plentyn drwy glustnodi arian i’w gynilo bob wythnos 



A mobile phone presenting the splash screen for the Dylan app.

Dyma Dylan

  • Sgwad Safio Dylan

    Mae gan ein gwefan Sgwad Safio Dylan adnoddau i gael plant i siarad am arian.


    Ewch i Sgwad Safio Dylan
  • Lawrlwytho Cuddfan Dylan

    Gall plant ddysgu sut i gynilo gyda’i Dylan ei hun Dylan yn ein hap addysgol am ddim.


    Lawrlwytho yn App Store

Taflenni Gweithgaredd

Taflenni gweithgaredd difyr ac addysgol i blant 5 - 11 oed.

An illustrated  GBP symbol. (Wlelsh)

Cyfrifon cynilo i blant

Dechreuwch gynilo ar gyfer eu dyfodol gyda chyfrif cynilo Principality.