Gordalu eich Morgais
Dysgwch sut i ordalu eich morgais.
- Gordalu
Beth mae gordalu eich morgais yn ei olygu?
Yn syml, mae gordalu eich morgais yn golygu talu mwy na’r swm y cytunwyd arno yn eich telerau. Gallwch dalu mwy bob mis neu fel cyfandaliad.
Os ydych yn gallu fforddio gordalu ychydig bach hyd yn oed, gallech wneud y canlynol:
-
lleihau balans eich morgais yn gyflymach
-
byrhau tymor eich morgais o bosibl
-
lleihau cyfanswm y llog rydych yn ei dalu
-
cael cyfradd llog is yn y dyfodol o bosibl
4 ffordd o ordalu
Os allwch fforddio gwneud, gallwch ordalu hyd at 10% o falans eich morgais bob blwyddyn heb dalu ffi ad-dalu’n gynnar.
1. Gwneud trosglwyddiad o’r banc ar-lein neu drefnu archeb sefydlog
Gallwch ordalu eich morgais drwy drefnu archeb sefydlog neu wneud trosglwyddiado’r banc ar-lein .
Dyfynnwch y manylion canlynol:
- Rhif y cyfrif: 90653535
- Cod didoli : 20-18-23
- Cyfeirnod : Rhif eich cyfrif morgais
2. Gwneud taliad dros y ffôn
Gallwch ein ffonio ni i wneud gordaliad dros y ffôn.
Cysylltwch â ni: 0330 333 4000
3. Mynd i gangen
Gallwch dalu gydag arian parod neu siec yn eich cangen leol.
4. Postio siec
Anfonwch siec yn y post i:
Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau Principality, Rhif blwch Swyddfa’r Post 89, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CFlO lUA
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ordaliadau
Cyfyngiadau gordalu
Gallwch ordalu hyd at 10% o falans eich morgais sy’n weddill bob blwyddyn galendr. Os hoffech ordalu mwy na 10% o falans eich morgais, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu’n gynnar (ERC).
Ffioedd ad-dalu’n gynnar
Gallwch ordalu hyd at 10% o falans eich morgais sy’n weddill bob blwyddyn galendr. Os hoffech ordalu mwy na 10% o 1falans eich morgais, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu’n gynnar (ERC).
Bydd swm eich ERC yn dibynnu ar eich cynnyrch morgais. Os hoffech wirio beth yw’r ERC ar eich morgais, cyfeiriwch at eich cynnig morgais swyddogol.
Pethau eraill i’w hystyried
Efallai yr hoffech geisio cyngor i benderfynu ai gordaliadau yw’r opsiwn cywir i chi. Gallwch gysylltu ag un o’n harbenigwyr morgeisi a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Mae gordaliadau yn hyblyg a gallwch roi’r gorau i ordalu ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, dylech ystyried a allwch fforddio gordaliad neu a fydd angen cynilion arnoch yn y dyfodol ar gyfer cost annisgwyl.
Ni fydd eich taliadau misol rheolaidd yn newid os byddwch yn gwneud gordaliad. Os hoffech drafod lleihau eich ad-daliad morgais misol bydd angen i chi gysylltu â ni.
Sut mae gordaliadau’n gweithio?
Dywedwch mai balans eich morgais yw £150,000. Mae gennych forgais cyfnod penodol am 2 flynedd gyda chyfradd llog o 4.9% ac rydych yn bwriadu talu eich morgais ymhen 20 mlynedd. Eich ad-daliadau morgais misol fyddai £982 am y cyfnod sefydlog o 2 flynedd .
Nawr, dywedwch eich bod yn penderfynu eich bod eisiau gordalu; mae 2 opsiwn ar gael i chi:
Rydych yn penderfynu talu cyfandaliad o £5,000.
Gan dalu’r cyfandaliad hwn, rydych yn arbed mewn taliadau llog dros gyfnod eich morgais, gan gymryd bod eich cyfradd llog yn aros yr un fath.
Effaith hyn yw
• mae dyled eich morgais yn mynd i £145,000
• rydych yn arbed £7,910 mewn ad-daliadau llog
• mae cyfanswm cyfnod eich morgais yn gostwng 1 flwyddyn ac 1 mis
Nawr, gadewch inni ddychmygu eich bod yn ystyried talu £100 ychwanegol y mis ar gyfer gweddill cyfnod eich morgais ac nid yw eich llog yn newid dros y cyfnod hwnnw.*
Effaith hyn yw:
• cyfanswm cyfnod eich morgais yn lleihau’n gyflymach (er enghraifft lleihau yn ystod y flwyddyn gyntaf i £144,240 yn lle £145,470 heb ordaliadau)
• rydych yn arbed £13,870 mewn llog i chi eich hun
• mae cyfnod eich morgais yn lleihau 2 flynedd ac 11 mis
*Cofiwch fod cyfraddau llog yn newid dros amser, felly dim ond enghraifft yw hon*
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais