Skip to content

Creu cymunedau cryfach ledled Cymru

Troi ein diben yn effaith wirioneddol, barhaol ar gyfer y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Principality employees posing with members of a netball team who've been awarded funding by the Future Generations Fund

Ein ffocws ar gyfer y dyfodol


Credwn fod pawb yn haeddu cyfle i ffynnu. Dyna pam mae ein gwaith cymunedol yn canolbwyntio ar dri ymrwymiad:

  • Cefnogi cymunedau i ffynnu

    Rydym yn buddsoddi mewn prosiectau a phartneriaethau sy'n cryfhau gwydnwch lleol – o sefydliadau ieuenctid i chwaraeon ar lawr gwlad, cymunedau LHDTC+ a digwyddiadau diwylliannol.

  • Cefnogi cenedlaethau'r dyfodol

    O adeiladau cymunedol cynaliadwy i raglenni ariannu hirdymor, rydym yn cefnogi mentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth am fylynyddoedd i ddod.

  • Creu cyfleoedd i bobl ifanc

    Drwy weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, rydym yn helpu pobl ifanc i fagu hyder, meithrin sgiliau a chael dyfodol cadarnhaol.

Cryfach gyda'n gilydd

Rydym yn canolbwyntio ar bartneriaethau sy'n helpu pobl i ffynnu.

Stadiwm Principality

Mae ein partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yn fwy na dim ond enw uwchben y drws. Mae'n adlewyrchu pwy ydym ni: wedi'n gwreiddio yn ein cymunedau, yn falch o ddiwylliant Cymru, ac yn awyddus i wneud argraff y tu hwnt i'n maint.

Drwy ein nawdd i Stadiwm Principality, rydym yn:

  • Hyrwyddo llawr gwlad

    O lanhawyr i ofalwyr tir i wirfoddolwyr, rydym yn dathlu'r arwyr tawel sy'n cadw rygbi'n ffynnu.

    Gwyliwch y fideo i gwrdd â 15 o bobl sy'n gwneud i'w clwb lleol deimlo fel cartref.

  • Pweru economi Cymru

    Mae'r stadiwm yn creu cyfleoedd drwy gefnogi swyddi, denu buddsoddiad, a hybu busnesau lleol drwy wariant ymwelwyr.

Two Principality customer consultants standing in front of the Team Wales logo at Commonwealth day 2025

Tîm Cymru

Mae ein partneriaeth â Tîm Cymru yn adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin o lesiant cymunedol, Balchder Cymru a chefnogi pobl ifanc.


Rhaglen Ymgysylltu Ieuenctid Tîm Cymru

Helpu 3,500 o bobl ifanc i fagu hyder a meithrin sgiliau bywyd hanfodol drwy chwaraeon drwy ddod ag ysbryd Gemau’r Gymanwlad i ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru.

Sefydliad Cenedlaethol Cymru

Mae ein gwaith gyda Sefydliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi atebion hirdymor i heriau sy'n wynebu cymunedau Cymru o bwysau cost byw i gynaliadwyedd amgylcheddol.

  • Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol

    Yn cefnogi prosiectau sy'n creu manteision i bobl ifanc a'u cymunedau i feithrin sgiliau, hyrwyddo cynhwysiant, a helpu pobl i lwyddo.

  • Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol

    Yn helpu adeiladau cymunedol i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy i'w rhedeg.

Principality colleagues and Barnardo's Cymru

Barnardo's Cymru

Mae ein partneriaeth gyda Barnardo’s Cymru yn cefnogi llesiant emosiynol plant a phobl ifanc sy'n wynebu dechrau anodd mewn bywyd.

  • Cymorth i bobl ifanc 

    Yn darparu gwasanaethau hanfodol i ofalwyr ifanc, plant mewn tlodi, a phobl ifanc sy'n chwilio am gyfle i fyw'n annibynnol.

  • Ymgysylltu â'r gymuned

    Mae ein canghennau'n gweithredu fel mannau rhoi ar gyfer mentrau fel y banc teganau, lle rhoddwyd dros 1,100 o deganau yn 2025.

Pride Cymru

Fel prif noddwr Pride Cymru, rydym yn falch o gefnogi cymunedau LGBTQ+ ledled Cymru.

  • Hyrwyddo cynhwysiant

    Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu dathlu.

  • Dathliad Pride mwyaf Cymru

    Mae ein cefnogaeth yn sicrhau bod Pride Cymru yn fywiog, yn groesawgar, yn addas i deuluoedd ac yn hygyrch.

  • Gyda'n Gilydd mewn Balchder

    Bob blwyddyn, mae cydweithwyr ar draws Principality yn gorymdeithio, yn gwirfoddoli ac yn dathlu gyda'i gilydd.

Principality Building Society mascot Dylan the Dragon interacting with children at the National Eisteddfod festival stand

Hyrwyddo diwylliant yng Nghymru

Rydym yn falch o gefnogi dau o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru: Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol.


Gyda'i gilydd, mae'r partneriaethau hyn yn ein helpu i ddathlu'r Gymraeg a'r diwylliant yng Nghymru, gan gysylltu'n uniongyrchol â chymunedau ledled y wlad.

Mwy o ffyrdd rydym yn cael effaith

  • Photo of a smiling woman planting a sapling in a  beautiful, lush garden in a springtime

    Cymunedau cryfach, gwyrddach

    Rhaid i ddyfodol tecach fod yn un cynaliadwy hefyd. Dyna pam rydym yn cefnogi mentrau amgylcheddol sy'n helpu aelwydydd a grwpiau cymunedol i leihau eu defnydd o ynni, lleihau allyriadau a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

    Sut rydym yn amddiffyn ein planed
  • A woman in the office setting  smiling

    Grymuso ein pobl

    Pobl yw calon ein busnes. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall pawb gyrraedd eu llawn botensial gyda'r gefnogaeth, y cyfle a'r hyder i lwyddo.

    Sut rydym yn grymuso ein pobl