Gwybodaeth i Gyfreithwyr
Gwybodaeth i ymarferwyr cyfreithiol sy'n ymgymryd â thrawsgludo eiddo ar gyfer cwsmeriaid Principality.
Cynigion morgais
Brocer: drwy e-bost
Cwsmer: drwy'r post
Cyfreithiwr: Lawrlwytho drwy adran 'Cynnig a Dogfennau Eraill' Porth Smoove
Ar gyfer problemau mynediad Smoov:
Ffoniwch: 01844 390821
E-bost: PanelManager@hellosmoove.com
Nid ydym yn ymestyn cynigion morgais mwyach.
Os na allwch gwblhau ar ddyddiad dod i ben y cynnig neu cyn y dyddiad hwnnw, bydd angen cyhoeddi cynnig newydd. Anfonwch e-bost i Completions@principality.co.uk.
Noder: efallai y bydd angen prisiad neu ddogfennau diweddaredig gan y gwarantydd.
Ar gyfer newidiadau i fanylion y Cwmni (cyfeiriad, banc, enw): cysylltwch â Smoove yn uniongyrchol yn PanelManager@hellosmoove.com.
Ar gyfer newidiadau i'r swyddfa sy'n gweithredu: cysylltwch â'r brocer i adennill rheolaeth ar yr achos a rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i'r swyddfa yn unol â hynny.
Ymholiadau a dogfennau trosglwyddo eiddo
Gwiriwch y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon a Llawlyfr Benthycwyr UK Finance yn gyntaf; yno y ceir atebion i'r ymholiadau mwyaf cyffredin.
Os nad yw eich ymholiad wedi'i ddatrys eto, anfonwch e-bost i: MSCPostOfferPipeline@principality.co.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gall gymryd mwy o amser os oes angen mewnbwn gan danysgrifiwr neu brisiwr.
Cyfeiriwch at Lawlyfr Benthycwyr UK Finance am ffynonellau rhoddwyr derbyniol.
Os nad yw'r rhoddwr wedi'i restru, anfonwch e-bost i MSCPostOfferPipeline@principality.co.uk gyda'r manylion perthnasol.
Cyfeiriwch at Lawlyfr Benthycwyr UK Finance am wybodaeth ynghylch yswiriant indemniad.
Os nad ydych chi'n siŵr o'r ateb o hyd, anfonwch e-bost MSCPostOfferPipeline@principality.co.uk.
Nac ydyn. Rhaid i bob chwiliad fod yn gyfredol ar gyfer ceisiadau prynu.
Os yw meddiannydd wedi'i nodi, bydd wedi'i restru yn adran 'Amodau Arbennig' y cynnig morgais.
Os nad yw wedi'i restru, rhowch ei enw llawn, eui ddyddiad geni, ac a yw'n ddibynnol yn ariannol ar y benthyciwr. Anfonwch y wybodaeth hon drwy e-bost i Completions@principality.co.uk.
Caniatewch ddau ddiwrnod gwaith i ni ymateb. Os bydd angen i ni gyfeirio eich ymholiad at ein timau prisio neu gyfreithiol, gall hyn arwain at amser ymateb hirach.
Noder bod ymatebion fel arfer yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch cofnod panel Smoove; felly, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar y mewnflwch hwnnw yn gyntaf. Os nad yw'r cyfeiriad e-bost hwnnw'n ddilys mwyach, dylech ei ddiweddaru yn uniongyrchol gyda Smoove i sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw ohebiaeth.
Os na allwch ddod o hyd i ymateb
Ffoniwch: 0330 333 4029
E-bostiwch: MSCPostOfferPipeline@principality.co.uk
Cwblhau
Caiff arian ei ryddhau bob amser ar y diwrnod gwaith cyn y dyddiad cwblhau, a chodir llog o'r diwrnod y rhyddheir yr arian. Cofiwch hyn wrth gytuno ar ddyddiad cwblhau gyda'r ymgeisydd.
Wrth gyflwyno eich Tystysgrif Teitl, sicrhewch fod y symiau benthyciad a throsglwyddo a nodwyd yn cyfateb yn union i'r gwerthoedd a nodir yn y Dystysgrif Teitl a gyhoeddwyd gyda'r cynnig morgais.
Bydd porth Smoove yn dangos 'wedi'i chyflwyno i'r benthyciwr.' Unwaith y byddwn wedi'i gael, rydym fel arfer yn prosesu eich cais ar yr un diwrnod.
Os bydd unrhyw broblem, byddwn yn anfon e-bost at y cyfeiriad sydd wedi'i gofrestru ar Smoove. Sicrhewch fod y manylion hyn yn gyfredol er mwyn osgoi colli unrhyw ohebiaeth.
Hyd at 48 awr. Rhaid hysbysu ymgeiswyr bod llog yn cronni o'r diwrnod y caiff yr arian ei ryddhau.
Talai: Cymdeithas Adeiladu Principality
Cyfrif: 70653497
Cod didoli: 20 18 23
Cyfeirnod: Rhif y cais am forgais
Os yw taliad arian-yn-ôl yn berthnasol (gweler Nodweddion Arbennig yn y cynnig morgais), mae wedi'i gynnwys yn y cyllid a ddarperir ar gyfer cwblhau'r broses.
Ffoniwch 0330 333 4029 a gallwn gymryd eich cyfarwyddyd i ganslo'r cwblhau.
Os yw'r arian eisoes wedi'i ryddhau, bydd angen i chi ei ddychwelyd gan ddefnyddio'r manylion banc ar y Dystysgrif Teitl.
E-bostiwch: MortgageAdministrationTeam@principality.co.uk
Na fydd. Anfonir llythyr croeso yn uniongyrchol at yr ymgeisydd yn cadarnhau'r taliadau a'r llog cychwynnol.
Atgoffwch yr ymgeisydd fod angen gwneud y taliad misol a thalu'r llog cychwynnol yn unol â thelerau'r Cynnig Morgais.
Noder: Os oes arian yn cael ei ryddhau i drydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd y cwsmer.
Trosglwyddiadau Telegraffig
Bydd y ffi am y Trosglwyddiad Telegraffig wedi'i nodi yn y cynnig morgais, a chaiff ei didynnu o'r swm a gaiff ei ddarparu wrth gwblhau'r broses.
Smoove
Cysylltwch â Smoove yn uniongyrchol ar gyfer unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â ffioedd.
Ffoniwch: 01844 390821
E-bostiwch: PanelManager@hellosmoove.com
Adbryniant
Anfonwch geisiadau adbrynu i: RedstatsRequests@principality.co.uk
Os oes angen datganiad adbrynu arnoch o fewn 5 diwrnod gwaith, ffoniwch ni ar: 0330 333 4029.
Dylid gwneud taliadau drwy CHAPS neu Gredyd Uniongyrchol.
Er mwyn osgoi oedi neu daliadau aflwyddiannus, nodwch y rhif cyfeirio adbrynu. Gellir dod o hyd i hwn ar y datganiad adbrynu.
Defnyddiwch y manylion talu canlynol:
Banc: Barclays
Talai: Cymdeithas Adeiladu Principality
Cod didoli:201823
Rhif y cyfrif: 10595071
Cyfeirnod: Rhif cyfeirnod adbrynu
Cysylltwch â'r tîm
Os nad yw'r wybodaeth uchod yn ateb eich ymholiadau, gallwch ein ffonio ar 0330 333 4029.
Mae ein llinellau ffôn ar agor:
Monday to Friday: 9:30am - 5pm
Saturday: 9am - 1pm