Skip to content
Log in

Pam y dylech ymuno â ni

Rydym yn cefnogi ein pobl drwy geisio gwneud mwy bob amser.

Mynd cam ymhellach i'n pobl


Rydym yn falch o’r gwaith rydym yn ei wneud ac rydym am wobrwyo ein pobl yn deg. Daliwch ati i ddarllen i gael blas ar rai o'n buddion presennol. (O.N. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru'r rhain yn rheolaidd, i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig buddion i bawb).

Mae'r canlynol yn bwysig i ni:

  • Icon of a house

    Cadw pethau'n hyblyg

    Rydym yn sicrhau bod cyfleoedd gweithio hyblyg, yn gweithio i bawb.

  • Icon of two hands with a heart in the middle

    Chwarae ein rhan

    Dod yn rhan o gymuned sy'n dod â phobl at ei gilydd er lles pawb.

  • Icon of a hand holding a cup with a hot drink in

    Gofalu amdano chi'ch hun

    Dysgwch sut rydym yn rhoi gofalu am ein pobl yn gyntaf ym mhopeth a wnawn.

  • Icon of two hands high fiving

    Gwella gyda'n gilydd

    Archwilio'r cyfleoedd fydd ar gael i chi a thyfu fel rhan o’r tîm.

Tâl cystadleuol a gwobrau


  • Rydym wedi ymrwymo i aros ar y gyfradd a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol bob blwyddyn, neu'n uwch na hynny.

  • Rydym yn adolygu cyflogau bob blwyddyn i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi iawndal teg i bawb, ac yn unol â chyfraddau'r farchnad.

  • Cewch gyfle i gael bonws blynyddol.

  • Byddwn yn talu swm sy'n cyfateb i’ch cyfraniadau pensiwn, hyd at 9% o’ch cyflog blynyddol.
Colleagues in the office chatting to each other
Four mature women in outdoor clothing prepare for day by sea at car

Gweithio o amgylch eich bywyd


  • Lle bo'n bosibl, cyfle i weithio'n hyblyg o'r diwrnod cyntaf heb unrhyw ofynion swyddfa sylfaenol.

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc.

  • Byddwch hefyd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol am bob blwyddyn o wasanaeth yn eich 5 mlynedd gyntaf.

  • Dewis prynu diwrnodau gwyliau ychwanegol.

Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Mae gan gydweithwyr sydd wedi gweithio i PBS am o leiaf 6 mis hawl i'r canlynol:

  • 39 wythnos o absenoldeb mamolaeth â thâl llawn.

  • 20 wythnos o absenoldeb tadolaeth.

  • Rydym hefyd yn cynnig triniaeth ffrwythlondeb, mabwysiadu, benthyg croth ac absenoldeb maethu.

  • Hyblygrwydd i ofalwyr, gan gynnwys 5 diwrnod o absenoldeb â thâl i gefnogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Smiling mother holds newborn, plays with son while working from home.
Family with two children, including wheelchair-using daughter, take selfie

Helpu chi i fyw bywyd da


  • Sicrhewch yswiriant meddygol preifat unigol gennym ni, gyda'r opsiwn i gynnwys eich partner a'ch plant am gost ychwanegol.

  • Hawliwch arian yn ôl ar gyfer eich profion llygaid a brechiadau rhag y ffliw.

  •  Sicrhewch yswiriant bywyd o 4 gwaith eich cyflog sylfaenol, ac yswiriant salwch difrifol o 1 gwaith eich cyflog gyda’r opsiwn i gynyddu am gost ychwanegol.

  • Buddion gofal iechyd dewisol, gyda didyniad cyflog misol. Dewiswch o blith pethau fel yswiriant deintyddol, archwiliadau iechyd, aelodaeth o'r gampfa a chymorth menopos.

Buddion unigryw


  • Gwnewch gais am gyfradd morgais staff gystadleuol ar ôl i chi basio eich cyfnod prawf.

  • Optiwch i mewn i fuddion ariannol hyblyg gan gynnwys gostyngiadau ar gyfer bwytai, siopau a Stadiwm y Principality ar gyfer chwaraeon a digwyddiadau.

  • Gwirfoddolwch hyd at 16 o oriau y flwyddyn yn ystod eich oriau gwaith.

  • Gallwch gael gostyngiadau unigryw ar sioeau theatr, bwytai a mwy trwy ymuno â'n clwb Chwaraeon a Chymdeithasol.
Family of four sat outside of their house chatting
A woman with a mug smiling while working at laptop in a coffee shop
Rwyf wrth fy modd bod Principality yn cynnig amrywiaeth o fuddion. I mi’n bersonol, mae’r polisi gweithio hyblyg yn fy ngalluogi i weithio fy rôl o amgylch fy mywyd teuluol.

Kelly Bayley

Arbenigwr Profiad Digidol

A collective of 3 illustrated sparkle highlights together. (welsh)

Ymunwch â'n tîm

Edrychwch ar ein cyfleoedd gwaith diweddaraf.