Skip to content
Log in

Gwneud cais i fenthyg mwy

Gwneud cais i fenthyg mwy o arian ar eich morgais.

A man is golding a drill and doing some DIY in his kitchen. His dog is sat watching him.
Couple unpacking. One man holds a glove and the other has his hand on partner's arm.
  • Benthyg mwy

Benthyg mwy ar eich morgais

Benthyg mwy yw pan fyddwch yn gofyn i'ch benthyciwr am fwy o arian. Wrth fenthyg mwy gan Principality gallwch gynyddu'r swm sy'n ddyledus gennych ar eich morgais presennol neu aros i'ch cytundeb ddod i ben a dewis un newydd.


Efallai y byddwch yn ystyried benthyg mwy er mwyn:

  • trwsio ac atgyweirio’ch cartref

  • cyfuno dyledion

  • talu am rywbeth neu am ddigwyddiad bywyd

Young couple sitting on the floor looking at the blueprint of their home

Sut i wneud cais

  1. Trefnu galwad yn ôl gydag un o'n harbenigwyr morgeisi

  2. Trafod eich dewisiadau gydag arbenigwr morgeisi

  3. Bydd arbenigwr morgeisi yn asesu’ch cais ac yn sicrhau ei fod yn bodloni ein meini prawf benthyca

  4. Byddwch yn cael gwybodaeth gan gynghorydd morgais am y dewis gorau i chi a byddwch yn cael eich cynghori ar y camau nesaf.

Dechrau arni

Trefnwch alwad yn ôl gan un o'n harbenigwyr morgeisi a fydd yn gallu’ch helpu gyda chais i fenthyg mwy ar eich morgais.

Cyn i chi wneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod:

•    wedi bod â’ch morgais presennol am fwy na 3 mis a bod eich ad-daliadau’n gyfredol

•    yn gwybod incwm a gwariant misol pob ymgeisydd

•    yn gwybod faint mwy yr ydych eisiau ei fenthyg ac ar gyfer beth y byddwch yn defnyddio'r arian

Couple sit on the floor with removal boxes. Woman holds laptop and man holds a piece of paper.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae'n rhaid i chi aros 3 mis ar ôl i chi drefnu morgais gyda ni i wneud cais i fenthyg mwy. 

Y cyfnod byrraf yw 2 flynedd a'r cyfnod hiraf yw 40 mlynedd 

Ni all y swm yr ydych eisiau’i fenthyg ynghyd â'r swm sy'n ddyledus ar eich morgais presennol fod yn fwy na:

•    90% Benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth (LTV) ar gyfer eiddo preswyl

•    75% Benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth (LTV) ar gyfer eiddo prynu i’w osod neu eiddo gwyliau i’w osod

Gall yr amser ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Yn gyffredinol, gall gymryd 4 i 6 wythnos i'r arian ychwanegol gyrraedd eich cyfrif cyfredol.

Mwy o wybodaeth

  • Benthyg mwy - esboniad

    Beth ddylech chi ei ystyried cyn i chi benderfynu benthyg mwy o arian yn erbyn eich cartref?

  • Siarad ag arbenigwr

    Os ydych chi eisiau benthyg mwy, cysylltwch â ni a gallwn ni esbonio’r broses a'r cynhyrchion morgais sydd ar gael i chi.

  • Hyb cymorth

    Gwybodaeth i helpu gyda'ch cyfrif, pryderon ariannol, bywyd ac iechyd a mwy.

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais