Skip to content
Log in

Trosglwyddo ISA

Trosglwyddo eich ISA

Gallwch drosglwyddo arian rhwng cyfrifon ISA Principality neu o un darparwr ISA i'r llall, heb golli'r statws di-dreth.


Wrth drosglwyddo arian o un ISA i'r llall, rhaid i chi drosglwyddo'r swm llawn o'r hyn rydych wedi'i dalu i’ch ISA y flwyddyn dreth hon. Ond gallwch drosglwyddo'r cyfan neu ran o'r swm rydych wedi'i dalu mewn blynyddoedd blaenorol.


Os ydych yn trosglwyddo o ISA Principality i ISA Principality arall, rhaid trosglwyddo'r swm yn yr ISA yn llawn.


Bydd tynnu arian allan o  ISA i gyfrif  cynilo, cyfrif cyfredol neu fel arian parod yn golygu eich bod yn colli'r statws di-dreth ar yr arian.


Sut i drosglwyddo'ch ISA

Gwiriwch delerau eich ISA cyn gofyn am drosglwyddiad. Gellir dod o hyd i'r rhain yn eich dogfennau gwreiddiol.


Wrth drosglwyddo arian o un ISA i'r llall, rhaid i chi drosglwyddo'r swm llawn rydych wedi'i dalu i mewn ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Byddwch yn gallu trosglwyddo rhan neu’r cyfan o’r balans o flynyddoedd treth blaenorol.


Gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau isod neu ymweld â'ch cangen leol i lenwi cais trosglwyddo ISA.


•    Rwyf am drosglwyddo fy ISA o ddarparwr arall i Principality

I drosglwyddo arian gan ddarparwr arall i ni, mae angen i chi lenwi ffurflen Trosglwyddo ISA.


•    Rwyf am drosglwyddo fy ISA o un cyfrif Principality i un arall.

               Rhaid trosglwyddo o un ISA arian parod Principality i un arall yn llawn. I drosglwyddo eich ISA arian parod Principality presennol i ISA arian parod Principality arall, llenwch ffurflen Trosglwyddo ISA Mewnol.


•    Rwyf am drosglwyddo fy ISA Stociau a Chyfranddaliadau i ISA arian parod Principality.

I drosglwyddo eich ISA Stociau a Chyfranddaliadau o  ddarparwr arall i ISA arian parod y Principality, mae angen i  chi lenwi ffurflen Drosglwyddo ISA Stociau a Chyfranddaliadau i ISA Arian Parod Principality.


Gwneud cais trosglwyddo

Gallwch naill ai ymweld â'ch cangen leol neu bostio eich ffurflen wedi'i llenwi:


At sylw: Tîm cynilo 

Cymdeithas Adeiladu Principality 

Adeiladau Principality 

Blwch Post 89

Heol y Frenhines  

Caerdydd CF101UA


Ni allwn gysylltu â chi i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich ffurflen drosglwyddo. Fodd bynnag, byddwn yn ysgrifennu atoch cyn gynted ag y bydd y trosglwyddiad wedi'i gwblhau.


Pa mor hir y bydd fy nhrosglwyddiad ISA yn ei gymryd?

Pan fyddwn yn derbyn ac yn prosesu eich cais i Drosglwyddo ISA, bydd gennym y nod o gwblhau'r trosglwyddiad mewn:

•    15 diwrnod busnes ar gyfer ISA Arian Parod 

•    26 diwrnod busnes ar gyfer ISA Stociau a Chyfranddaliadau 


Os na chaiff eich trosglwyddiad ei gwblhau o fewn 15 diwrnod busnes, cysylltwch â ni drwy:

•    ffonio 0330 333 4000

•    anfon  neges ddiogel atom trwy eich cyfrif, os ydych wedi cofrestru.

•    ymweld â’ch cangen leol neu ffonio’r gangen


Mae'r amserlenni hyn ar yr amod nad oes angen rhybudd i'r ISA gael ei drosglwyddo i ni. Os oes angen rhybudd, gallwch roi gwybod i ni ar y ffurflen Trosglwyddo ISA. Rhaid i ISA arian parod fod ar gael i'w drosglwyddo o fewn 5 diwrnod gwaith i'ch cais.


Beth yw cofrestrif?

Y cofrestrif yw  rhif unigryw a neilltuir i bob cyfrif. Fe'i gelwir hefyd yn rhif cyfrif.


Lle mae’r rhif cyfrif?

Gallwch ddod o hyd i'ch rhif cyfrif:

•    ar frig eich cyfriflen ISA 

•    ym mlaen eich llyfr cyfrif

•    trwy fewngofnodi i Eich Cyfrif a bydd rhif y cyfrif ar y sgrin hafan

Sut i ddechrau fy nhrosglwyddiad

Gallwch drosglwyddo eich ISA  Principality i ddarparwr newydd. Cysylltwch â'ch darparwr newydd a gofynnwch am ddefnyddio eu gwasanaeth trosglwyddo ISA.

Peidiwch â thynnu'ch arian allan, gan y byddwch yn colli'r  statws di-dreth.


Beth fydd yn digwydd nesaf

Pan fyddwn wedi derbyn y cais i drosglwyddo ISA gan y darparwr newydd, byddwn yn anfon eich arian atynt o fewn 15 diwrnod busnes.


Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i'ch ISA gael ei drosglwyddo yn dibynnu:

•    os oes angen rhybudd ar eich cyfrif 

•    os ydych yn colli llog a enillwyd ar eich cyfrif


Os  yw'r naill neu'r llall o'r rhain yn berthnasol i'ch ISA, gallwch nodi ar y ffurflen drosglwyddo eich bod yn hapus i golli llog.


I gael y wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo eich ISA, cysylltwch â'ch darparwr newydd .

Rwyf am symud arian o fy ISA i gyfrif cyfredol

Gallwch dynnu arian allan o'ch cyfrif trwy:

•    mewngofnodi i'ch cyfrif a defnyddio negeseuon diogel

•    ymweld â'ch cangen leol


Os hoffech wneud taliad cyflymach, gallwch wneud hyn trwy ffonio: 

0330 333 4000.


Byddwch yn colli'r statws di-dreth ar eich arian pan fyddwch yn ei symud i gyfrif cyfredol.


Rwyf am dalu i mewn i fy ISA Principality presennol

Os ydych am dalu i mewn i'ch  ISA arian parod Principality presennol, ac nad ydych wedi talu arian i ISA  arian parod arall Principality yn y flwyddyn dreth gyfredol, gallwch wneud hynny drwy:

•    arian parod

•    siec

•    trosglwyddo ar-lein 


Os na wnaethoch dalu i mewn i'ch ISA Principality yn y flwyddyn dreth flaenorol, bydd angen i  chi lenwi Ffurflen Seibiant Tanysgrifio ISA Arian Parod.