Tîm Masnachol Principality
Yn helpu cleientiaid yng Nghymru a Lloegr i ddatblygu eu busnesau a’u cymunedau lleol ers dros 20 mlynedd.
Yr hyn rydym yn ei ariannu
Gan ddefnyddio atebion personol, mae ein tîm wedi galluogi cleientiaid i adeiladu ystod o ddatblygiadau o dai fforddiadwy i greu eco-bentrefi a datblygiadau masnachol.
Ein nod yw meithrin perthnasoedd hirhoedlog, gan gwrdd â chleientiaid yn rheolaidd i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt.
-
Tai fforddiadwy
Cefnogi Agenda Tai Llywodraeth Cymru drwy helpu i ddarparu tai fforddiadwy ledled Cymru.
-
Cyllid buddsoddi
Darparu cyllid buddsoddi ar gyfer datblygiadau manwerthu, preswyl, diwydiannol a masnachol.
-
Cyllid datblygu
Ariannu datblygiadau preswyl, gan gynnwys cyllid wedi'i deilwra ar gyfer adeiladau gwyrddach a datblygwyr bach a chanolig.
Cysylltwch â ni
Gall ein Rheolwyr Perthynas eich helpu i gyflawni nodau eich prosiect drwy ddarparu ateb wedi'i deilwra.
Newyddion masnachol
Os oes gennych ddiddordeb mewn prosiectau rydym wedi'u cefnogi, edrychwch ar ein herthyglau newyddion ac astudiaethau achos diweddaraf.
-
Get into Housing yn cael buddsoddiad o £60,000
Rydym yn ariannu prosiect 'Get into Housing' project am ei ail flwyddyn.
-
Benthyciad nodedig o £50 miliwn i Pobl
Cefnogi creu 10,000 o gartrefi effeithlon o ran ynni.
Yr hyn y mae ein cleientiaid yn ei ddweud
Gwyliwch ein fideo i glywed beth mae ein cleientiaid presennol yn ei ddweud am y ffordd rydym yn gweithio.
Pam dewis Principality Masnachol?
Rydym wedi bod yn cynnig benthyciadau ar gyfer prosiectau a datblygiadau amrywiol ers 2002. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw eich gwaith chi, felly rydym ni’n gwneud yn siŵr ein bod yn delio â phethau cyn gynted â phosibl ac mor ddidrafferth â phosibl.