Skip to content

Ein tîm masnachol

Bydd ein tîm masnachol profiadol yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a darparu ateb ariannu sydd wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi.

Cysylltu â ni

I drafod cyllid ar gyfer eich datblygiad diweddaraf
E-bost: commercialenquiries@principality.co.uk
Ffôn: 02920 773 538 

 

Neu cysylltwch ag un o'n rheolwyr cysylltiadau yn uniongyrchol.

  • Commercial Headhshots

    Richard Wales

    Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol, Principality Masnachol

    Fel Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol, mae Richard yn arwain y tîm masnachol, gan ddod â digonedd o brofiad o’i rolau masnachol blaenorol ar draws Principality a sefydliadau ariannol eraill, gan gynnwys HSBC.

  • Commercial Headhshots

    Gareth Redding

    Uwch-reolwr Portffolio

    Wedi gweithio am dros 20 mlynedd yn y sector eiddo masnachol gyda banciau’r stryd fawr, mae Gareth yn gofalu am bortffolio mawr o gwsmeriaid yn y marchnadoedd buddsoddi a datblygu eiddo.

  • Commercial Headshot

    Jan Quarrington

    Uwch-reolwr Portffolio – Tai Fforddiadwy

    Mae Jan yn angerddol am rôl cymdeithasau tai ac mae wedi ymrwymo i'w cefnogi i ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Bu Jan yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol a bancio corfforaethol ers blynyddoedd lawer, felly mae hi'n deall yr heriau y mae cymdeithasau'n eu hwynebu.

  • Commercial Headhshots

    Chad Griffiths

    Uwch-reolwr Portffolio

    Yn arbenigwr ar gyllid datblygu, mae llawer o bortffolio Chad ledled Cymru, de-orllewin a de-ddwyrain Lloegr wedi bod yn ariannu prosiectau preswyl adeiladau newydd.

  • Commercial Headhshots

    James Ford

    Uwch-reolwr Cysylltiadau

    Gan reoli portffolio o gleientiaid ar draws eiddo masnachol a datblygu preswyl, gall James ddarparu atebion ariannol wedi'u teilwra ar gyfer eich prosiect.

  • Commercial photoshoot 2025

    Maria Elias

    Rheolwr Cysylltiadau

    Gan reoli portffolio mawr o gwsmeriaid ar draws amrywiaeth o sectorau eiddo, mae Maria yn arbenigo mewn gweithredu cytundebau.

  • Commercial Headhshots

    Bryony Hicks

    Rheolwr Cysylltiadau

    Gyda diddordeb arbennig mewn datblygiad preswyl, mae Bryony yn rheoli portffolio o gwsmeriaid gydag ystod o gyfleusterau datblygu a buddsoddi.

  • Commercial Headhshots

    Kirsty Morgan

    Rheolwr Cysylltiadau

    Gyda thros 12 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaethau Ariannol gan gynnwys masnachol, mae Kirsty yn rheoli portffolio amrywiol, gan ddatblygu cysylltiadau cryf â chleientiaid drwy eu helpu i gyflawni eu nodau.

  • Commercial Headhshots

    Jasmine Heath

    Rheolwr Portffolio Cynorthwyol

    Gyda thros 7 mlynedd o brofiad mewn asiantiaeth tai, gan gynnwys eiddo masnachol, mae Jasmine yn dod ag egni a dealltwriaeth i bortffolio amrywiol. Mae'n ymfalchïo yn ei gallu i feithrin cydberthnasau cryf a pharhaol â chleientiaid a chyflawni canlyniadau.

  • Commercial Headshot

    Carwyn Morgan

    Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (Tai Fforddiadwy)

    Aelod diweddaraf y tîm Tai Fforddiadwy, mae gan Carwyn dros 10 mlynedd o brofiad yn y sector ariannol ac mae'n Gymro Cymraeg. Mae'n angerddol am gefnogi ein cleientiaid drwy ariannu tai fforddiadwy mawr eu hangen.