Skip to content
Log in

Cyfrifon cynilo rheolaidd

Cynilo pan fyddwch eisiau a meithrin arferion arian iach.

Young couple laugh while in car journey with dog
Older man checks camera at home

A yw cyfrif cynilo rheolaidd yn iawn i mi?

Mae cyfrifon cynilo rheolaidd wedi'u cynllunio i'ch helpu i gynilo'n rheolaidd ac ar eich telerau eich hun. 

  • Cynilo tuag at nod penodol

    Cynilo’n rheolaidd tuag at nod neu garreg filltir; fel priodas neu flaendal ar dŷ. 

  • Cychwyn pot cynilo ar gyfer y dyfodol

    Dechrau cynilo'n rheolaidd i gynilo ar gyfer eich dyfodol. 

  • Creu arfer hirdymor

    Meithrin arfer cynilo iach dros amser drwy ychwanegu at eich cyfrif yn rheolaidd. 

Deall cyfrifon cynilo rheolaidd Principality

Cwestiynau cyffredin am gyfrifon cynilo'n rheolaidd.

Mae cyfrifon cynilo rheolaidd wedi'u cynllunio i'ch helpu i gynilo'n rheolaidd ac ar eich telerau eich hun. Y syniad yw eich helpu i ganolbwyntio ar gynilo tuag at nod neu garreg filltir benodol. 


Nid oes rhaid i chi dalu arian i mewn bob mis. Yn lle hynny, mae gennych hyblygrwydd i gynilo pryd bynnag y dymunwch. 

 

Mae uchafswm y gallwch ei dalu i mewn bob mis. Mae'r swm hwn yn dibynnu ar ba gyfrif cynilo rheolaidd rydych chi'n ei ddewis. Gall yr uchafswm y gallwch ei roi i mewn pob mis fod yn un neu fwy o daliadau. 


Mae gan y rhan fwyaf o'n cyfrifon cynilo rheolaidd gyfyngiadau ar godi arian; felly dim ond nifer penodol o weithiau y gallwch godi arian bob blwyddyn. Ac nid yw rhai yn caniatáu codi arian o gwbl. 

Gallai cyfrif cynilo rheolaidd fod yn addas i chi os: 

  • Ydych chi'n cynilo am rywbeth arbennig; fel blaendal ar dŷ neu briodas   
  • Ydych chi'n ennill incwm rheolaidd ac eisiau dechrau pot cynilo 
  • Hoffech chi gynilo symiau llai dros amser, yn hytrach na chyfanswm i gyd ar unwaith. 

Gallwch agor y rhan fwyaf o'n cyfrifon cynilo rheolaidd gydag adnau cychwynnol o gyn lleied â £1. 

Awydd rhywbeth gwahanol?

Os nad yw cyfrif cynilo rheolaidd yn iawn i chi, mae llawer o ffyrdd eraill o gynilo.  

  • a stack of coins sits inside an open door [Welsh]

    Mynediad hawdd

    Cynilo yn hyblyg gyda'r rhyddid i gael gafael ar eich arian. (Gall cyfyngiadau fod yn berthnasol). 

    Mwy am fynediad hawdd
  • Stack of coins next to an hand drawn abacus  (Welsh)

    Cyfrifon ISA Arian Parod

    Cynilo hyd at £20,000 bob blwyddyn dreth heb dalu treth ar eich llog. 

    Mwy am ISAs arian parod
  • A large drawn key alongside a closed lock, highlighted by a few coins (Welsh)

    Bondiau cyfnod penodol

    Clowch eich arian i ffwrdd am gyfnod penodol o amser ac efallai y cewch gyfradd llog well. 

    Mwy am fondiau cyfnod penodol
An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Cymharu’r holl gyfrifon cynilo

Eisiau gweld popeth? Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.