Ydw i'n talu treth ar fy nghynilion?
Yn y canllaw hwn
Ydw i'n talu treth ar fy nghynilion?
Mae deall a fyddwch yn talu treth ar log eich cynilion yn eich helpu i wneud penderfyniadau hyderus am eich cynilion.
Bydd rhai cynilwyr yn defnyddio ISAs i ennill llog heb boeni am dalu treth ar y llog y byddant yn ei ennill. Bydd deall rheolau a lwfansau ISAs yn eich helpu i benderfynu beth sy'n iawn i chi.
Ydych chi'n talu treth ar log cynilion?
Mae treth ar gynilion yn dod yn berthnasol os ydych yn ennill swm penodol o log.
Bydd hyn fel arfer yn gymwys i bobl â balansau cynilo mwy o faint neu incwm uwch (yn enwedig pan fo'r cyfraddau llog yn uwch).
Mae llawer o bobl nad ydynt yn talu treth ar eu cynilion o gwbl.
Fodd bynnag, ios yw'r llog rydych yn ei ennill yn fwy na'ch Lwfans Cynilo Personol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth.
Mae'n dibynnu ar eich incwm a'r math o gyfrif cynilo rydych yn ei ddefnyddio.
Beth yw'r Lwfans Cynilo Personol?
Eich Lwfans Cynilo Personol (PSA) yw swm y llog ar gynilion y gallwch ei ennill bob blwyddyn dreth heb dalu treth.
Mae eich PSA yn dibynnu ar eich band treth incwm:
- Gall trethdalwyr cyfradd sylfaenol (20%) ennill hyd at £1,000 o log yn ddi-dreth.
- Gall trethdalwyr cyfradd uwch (40%) ennill hyd at £500 o log yn ddi-dreth.
- Nid yw trethdalwyr cyfradd ychwanegol (45%) yn cael Lwfans Cynilo Personol.
Os nad ydych yn talu unrhyw dreth o gwbl, efallai y byddwch yn gallu ennill cymaint â £18,570 mewn llog cynilion cyn i chi dalu unrhyw dreth. Mae hyn yn cynnwys eich PSA ac unrhyw lwfansau eraill.
Ydw i'n talu treth ar fy Nghyfrif Cynilo Unigol (ISA)?
Nac ydych; mae ISAs yn ddi-dreth.
Ni fyddwch yn talu treth ar log a enillwch ar gynilion mewn ISA; cyn belled â'ch bod yn aros o fewn eich lwfans ISA blynyddol.
Ar gyfer 2025/2026, y lwfans ISA yw £20,000, sy'n berthnasol i bob math o ISA.
Mae llawer o gynilwyr yn defnyddio ISAs fel ffordd o reoli neu leihau faint o dreth y maent yn ei thalu ar eu cynilion.
Gall ISAs fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi bron â mynd dros eich Lwfans Cynilo Personol
Sut mae'r dreth ar gynilion yn cael ei dalu?
Os byddwch yn ennill mwy o log nag y mae eich lwfans yn ei ganiatáu, fel arfer bydd CThEF yn casglu'r dreth sy'n ddyledus gennych yn awtomatig. Yn y rhan fwyaf o achosion:
- Mae CThEF yn addasu eich cod treth yn seiliedig ar y llog a enilloch yn y flwyddyn dreth flaenorol.
- Mae'r dreth sy'n ddyledus gennych yn cael ei chasglu drwy eich cod PAYE, yn hytrach na'i didynnu o'ch cyfrif cynilo.
Os byddwch yn cwblhau ffurflen dreth Hunanasesu, bydd angen i chi ddatgan unrhyw log cynilion trethadwy fel rhan o'r broses honno.
Cadw golwg ar eich cynilion
Os oes gennych chi gynilion ar draws sawl cyfrif neu ddarparwr, mae'n bwysig cadw golwg ar:
- Faint o log rydych yn ei ennill.
- A ydych chi'n agos at eich PSA.
- A allai defnyddio opsiynau cynilo di-dreth helpu.
Gall deall sut mae treth cynilo yn gweithio eich helpu i gynllunio ymlaen llaw wrth i chi agosáu at ddiwedd y flwyddyn dreth.
- Arian bob dydd
Edrychwch ar ein canllawiau cynilo
Cyfres o ganllawiau y gellir eu darllen yn gyflym i'ch helpu i ddeall cynilion.