Sut i ddewis ISA arian parod sy'n addas i chi
Yn y canllaw hwn
Mae ISA arian parod yn caniatáu ichi ennill llog ar eich cynilion heb dalu treth. Felly gall deall pryd rydych yn talu treth ar eich cynilion eich helpu i benderfynu ai ISA yw'r dewis cywir i chi.
Nid yw pob ISA yn gweithio yn yr un ffordd. O fynediad rhwydd i gyfradd sefydlog - gall dewis y math cywir o ISA eich helpu i elwa i'r eithaf ar eich lwfans 2025/2026.
Mae'r canllaw hwn yn trafod yr hyn y dylech ei ystyried. Felly gallwch ddod o hyd i ISA arian parod sy'n addas i'ch nodau, p'un a ydych chi'n cynilo ar gyfer y tymor byr neu'r tymor hir.
Beth yw ISA arian parod?
Os yw cyfrifon ISA yn bethau newydd i chi, darllenwch ein canllaw i gyfrifon ISA arian parod ar gyfer dechreuwyr. Mae ISA arian parod yn gyfrif cynilo di-dreth sydd ar gael i breswylwyr y DU sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Mae agor ISA yn ffordd o gynilo arian ac ennill llog heb dalu treth incwm ar y llog rydych chi'n ei ennill.
Pam dewis ISA?
- Mae'r llog rydych chi'n ei ennill yn ddi-dreth ac nid yw'n cyfrif tuag at eich Lwfans Cynilo Personol.
- Gallwch gynilo hyd at £20,000 yn y 2025/2026.
- Gyda Principality, gallwch dalu i mewn i un ISA arian parod fesul blwyddyn dreth. Gall darparwyr eraill adael i chi rannu'ch lwfans, ar yr amod eich bod yn cadw o fewn y terfyn £20,000.
Gall ISAs arian parod fod yn ddefnyddiol iawn os ydych yn cynilo symiau uwch, neu os ydych eisoes yn ennill llog mewn cyfrifon eraill.
Mathau o gyfrifon ISA arian parod
Ceir gwahanol fathau o gyfrifon ISA arian parod i gyd-fynd â gwahanol arferion cynilo a nodau ariannol. Bydd yr opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar ba mor aml y bydd angen mynediad arnoch at eich arian ac a ydych chi'n gallu cloi arian i ffwrdd.
Math | Nodwedd allweddol | Y dewis gorau ar gyfer |
---|---|---|
ISA mynediad rhwydd | Codi arian ar unrhyw adeg. Mae rhai cyfrifon ISA yn ISA Hyblyg. Mae hyn yn golygu y gallwch roi arian yn lle arian rydych wedi'i dynnu yn ystod yr un flwyddyn dreth. Gelwir hyn yn danysgrifiadau amnewid. |
Pobl sydd eisiau hyblygrwydd, neu a allai fod angen defnyddio eu cynilion. |
ISA cyfradd sefydlog | Mae arian wedi'i gloi i ffwrdd am 1-5 mlynedd, a chau'r cyfrif yw'r unig opsiwn ar gyfer cael mynediad cynnar. | Cynilwyr sydd eisiau cyfradd warantedig ac nad oes angen mynediad arnynt ar unwaith. |
ISA cynilo rheolaidd | Mae angen cyfraniadau misol | Y rhai sydd eisiau cynyddu eu cynilion yn raddol. |
Mae pob un o'r mathau hyn o ISA arian parod yn cynnig llog di-dreth. Ond mae rheolau mynediad a chyfraddau llog yn amrywio.
Cyn i chi ddewis ISA, meddyliwch pa mor aml y byddwch chi eisiau cael mynediad at eich arian, ac a ydych chi'n hapus i'w gloi i ffwrdd.
Gallwch drosglwyddo eich ISA i ddarparwr arall ar unrhyw adeg. Byddwch yn ymwybodol bod gan rai cyfrifon amodau. Efallai y byddwch yn colli llog neu y bydd angen i chi dalu ffi os byddwch yn trosglwyddo'n gynnar, yn enwedig gyda chyfrifon ISA cyfradd sefydlog. Cadarnhewch y telerau bob amser cyn symud.
Sut i gymharu cyfrifon ISA arian parod
Cyn dewis ISA arian parod, cymharwch y nodweddion allweddol hyn:
- Cyfradd llog: Is it fixed or variable? A yw'n sefydlog neu'n amrywiol? Gall cyfraddau sefydlog uwch olygu cloi'ch arian am gyfnod penodol.
- Rheolau mynediad: Allwch chi godi arian neu gau'r cyfrif yn gynnar? A fyddwch yn talu ffioedd neu'n colli llog os byddwch yn gwnued hynny?
- Terfynau adneuo: Faint sydd ei angen arnoch i agor y cyfrif? Allwch chi ei ychwanegu'n ddiweddarach?
- Hyd y cyfnod: Os yw'n ISA sefydlog, am ba hyd mae eich arian wedi'i gloi i ffwrdd?
- Diogelwch gan y FSCS: Er mwyn cael tawelwch meddwl, gwnewch yn siŵr bod eich darparwr yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac yn dod o dan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Cadarnhewch y telerau ac amodau bob amser cyn gwneud cais am unrhyw gyfrif cynilo.
Defnyddio'ch lwfans ISA
Y terfyn ISA ar gyfer 2025/2026 yw £20,000. Gallwch ddefnyddio'ch lwfans drwy:
- Agor ISA arian parod newydd.
- Cynilo mewn taliadau rheolaidd neu gyfandaliadau mawr; pa un bynnag sy'n addas i chi.
Gwybodaeth bwysig:
-
Gyda Principality, dim ond un ISA arian parod y gallwch ei dalu i mewn iddo bob blwyddyn dreth. Gall darparwyr eraill ganiatáu ichi agor sawl ISA yn yr un flwyddyn dreth.
- Y terfyn ar gyfer defnyddio'ch lwfans 2025/2026 yw 5 Ebrill.
-
Collir lwfans nas defnyddiwyd ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Od hoffech symud arian o un ISA i un arall, gofynnwch i'ch darparwr newydd drefnu trosglwyddiad ISA. Peidiwch â thynnu'r arian allan i'w symud eich hun; bydd hyn yn golygu y byddwch chi'n colli'ch buddion di-dreth.
Mae eich cynilion wedi'u diogelu
Mae cyfrifon ISA Arian Parod gan fanciau a chymdeithasau adeiladu a reoleiddir yn y DU wedi'u cynnwys o dan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae hyn yn diogelu cynilion cymwys hyd at £85,000 y pen, fesul darparwr.
Os oes gennych fwy na £85,000 mewn cynilion, meddyliwch am ei rannu ar draws gwahanol ddarparwyr. Gall hyn helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich diogelwch.
Archwilio ein cyfrifon ISA
Yn barod i archwilio'ch opsiynau? Gweler ein ISAs arian parod diweddaraf a dewch o hyd i un sy'n addas i'ch nodau cynilo.
- ISAs
Porwch ein dewis o gyfrifon ISA arian parod
Edrychwch ar ein dewis o gyfrifon ISA Arian Parod i ddod o hyd i un sy'n cyd-fynd â'ch nodau cynilo.