Newid i gytundeb newydd
Os oes gennych forgais preswyl gyda ni, gallwch newid eich cytundeb hyd at 6 mis cyn i’ch cynnyrch morgais presennol ddod i ben.
Pryd allwch chi newid i gytundeb newydd?
Gallwch newid eich morgais preswyl a Phrynu i Osod i gytundeb newydd hyd at 6 mis cyn i'ch cytundeb presennol ddod i ben. Gallwch newid cyn y dyddiad hwn, ond efallai y bydd angen i chi dalu tâl ad-dalu cynnar. Edrychwch ar fanylion eich morgais am fwy o wybodaeth.
Gallwch newid eich morgais ar-lein os ydych yn hapus i newid heb gyngor a bod eich holl ad-daliadau misol yn gyfredol heb unrhyw ôl-ddyledion. I gael cyngor ar newid gallwch wneud y newid dros y ffôn gyda chynghorwr morgais.
- Newid heb gyngor
Newid ar-lein
Mae dewis newid ar-lein yn golygu na fyddwch yn gallu hawlio o dan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol na chwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am yr agwedd hon ar eich cytundeb morgais.
Os oes gennych gartref preswyl, gallwch newid ar-lein os:
ydych yn hapus i ddewis cytundeb newydd heb gyngor
oes gennych lai na 6 mis ar ôl ar eich cytundeb
ydych ar forgais cyfradd amrywiol safonol preswyl
- Newid gyda chyngor
Newid gyda chynghorwr
Gallwn drafod eich sefyllfa ariannol a chynnig cyngor ar y cynnyrch morgais cywir i chi. Bydd gennych hefyd amddiffyniad ariannol os nad ydych yn hapus â'ch cytundeb.
Gallwch newid eich morgais gyda chefnogaeth ein cynghorwyr os:
oes gennych lai na 6 mis ar ôl ar eich cytundeb
ydych ar forgais cyfradd amrywiol safonol
oes gennych fwy na 6 mis ar ôl ar eich cytundeb cyfredol ond rydych yn hapus i dalu tâl ad-dalu cynnar
Newid Morgais Prynu i Osod neu Lety Gwyliau
Os ydych am newid eich morgais Prynu i Osod neu Lety Gwyliau gallwch wneud hynny hyd at 6 mis cyn i'ch cytundeb ddod i ben. Gallwch newid eich morgais Prynu i Osod ar-lein neu dros y ffôn. I newid eich morgais Llety Gwyliau bydd angen i chi ein ffonio ni.
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais
Os na fyddwch yn talu taliadau eich morgais, gellir penodi 'derbynnydd rhent' a/neu gellir adfeddiannu eich eiddo rhent.