Skip to content
Log in

Bondiau cyfnod penodol

Clowch eich arian i ffwrdd am gyfnod penodol o amser a gallech gael cyfradd llog well.

Young woman sits at home contently while sipping at drink
Two men, one younger and one older plant flowers in their kitchen. (Welsh)

A yw bond cyfnod penodol yn iawn i mi?

Cynilo am gyfnod penodol o amser. Os oes gan y bond gyfradd sefydlog hefyd, byddwch yn cael sicrwydd o ran y gyfradd llog tra bydd eich arian  yn y cyfrif.

  • Efallai y byddwch yn cael cyfradd llog well

    Weithiau gallwch ddod o hyd i gyfrifon cyfnod penodol yn cynnig cyfraddau llog uwch yn gyfnewid am gloi eich arian i ffwrdd. Mae hynny'n golygu bod y cyfrifon hyn yn cynnwys cyfyngiadau ar godi arian a chau’r cyfrif.

  • Clowch eich arian i ffwrdd

    Gyda bond cyfnod penodol, ni chaniateir codi arian cyn diwedd y cyfnod y cytunwyd arno. Mae eich arian wedi'i gloi i ffwrdd lle na allwch ei gyffwrdd.

  • Cadwch eich arian lle na allwch ei gyffwrdd

    Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwch yn gallu cau’ch bond yn gynnar. Unwaith y byddwch wedi adneuo arian mae'n aros yn y cyfrif tan ddiwedd y cyfnod.

Deall bondiau cyfnod penodol Principality

Cwestiynau cyffredin am fondiau cyfnod penodol 

Os yw'r gyfradd llog yn sefydlog, mae bond cyfnod penodol yn rhoi sicrwydd i chi o ran y gyfradd llog y byddwch yn ei chael tra bydd eich arian yn y cyfrif.


Pan fyddwch yn agor bond, rydych yn cytuno i adael eich arian yn y cyfrif am gyfnod penodol o amser; y cyfnod sefydlog. Mae hyd ein cyfnod fel arfer yn amrywio rhwng un a phum mlynedd.


Mae'r cyfrifon hyn fel arfer yn cynnig cyfradd llog sefydlog trwy gydol y cyfnod. Gall hyn roi sefydlogrwydd i chi ac o bosibl elw uwch na mathau eraill o gyfrifon.


Fel arfer, dim ond tra byddwn yn ei werthu y gallwch barhau i ychwanegu arian at eich bond. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai bondiau cyfnod penodol ond yn caniatáu ichi dalu arian i mewn unwaith yn unig. Ac mae rhai yn caniatáu i chi dalu arian i mewn bob mis; er enghraifft, bond cynilo rheolaidd.


Mae gan fondiau cyfnod penodol isafswm ac uchafswm balans a ganiateir. Bydd y symiau yn dibynnu ar ba fond rydych chi'n ei ddewis.


Weithiau gallwch gael ein cyfradd llog gorau gyda bond tymor penodol. Fodd bynnag, maent yn cynnwys cyfyngiadau ar godi arian a chau’r cyfrif:

•    Ni chaniateir codi arian cyn diwedd y tymor y cytunwyd arno.

•    Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chewch gau eich bond yn gynnar.


Ac mae eich adneuon cymwys gyda Chymdeithas Adeiladu Principality wedi'u diogelu hyd at gyfanswm o £85,000 gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol, cynllun gwarantu adnau y DU.

Fel arfer nid oes cyfyngiad ar nifer y bondiau cyfnod penodol y gallwch eu cael. Ond gall rhai bondiau gael eu cyfyngu i un fesul cwsmer.

Ar ddiwedd y cyfnod sefydlog, bydd eich bond yn aeddfedu. Ar yr adeg hon mae gennych rai opsiynau.


•    Symud rywfaint neu'r cyfan o'r arian i gyfrif bond neu gynilo arall.

•    Tynnu'ch holl arian allan.

•    Gwneud dim; a byddwn yn trosglwyddo'ch balans i gyfrif arall. Bydd hwn yn gyfrif mynediad ar unwaith, neu'r cyfrif cyfatebol agosaf.

Gallai bond cyfnod penodol fod yn addas i chi os:

•    Gallwch roi swm o arian i ffwrdd am o leiaf blwyddyn (nid yw'n berthnasol i fondiau cynilo rheolaidd)

•    Nad oes angen mynediad ar unwaith neu reolaidd arnoch i'ch cynilion


Awydd rhywbeth gwahanol?

Os nad yw bond cyfnod penodol  yn iawn i chi, mae llawer o ffyrdd eraill o gynilo.

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Cymharu’r holl gyfrifon cynilo

Eisiau gweld popeth? Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.