Helpu cynilwyr i sgorio gyda chystadleuaeth Chwe Gwlad Guinness
Yn yr erthygl hon
Cyfle i Gynilwyr Ennill wrth i Gymru Chwarae Gartref
Rydym yn rhoi cyfle i gynilwyr roi hwb i'w balansau gyda chystadleuaeth i ddathlu ymgyrch Chwe Gwlad Guinness 2026, pan fydd Cymru yn chwarae tair gêm gartref eleni yn Stadiwm Principality.
Bydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i bump unigolyn ennill £2,000 yr un*.
Troi 'Cais i Gynilo' yn Enillion Ariannol
Fel rhan o ymgyrch 'Cais i Gynilo' ehangach y Gymdeithas, bydd y gystadleuaeth yn defnyddio cysylltiadau cryf y sefydliad â rygbi i annog cynilo. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Gymdeithas Adeiladu Principality, mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu a Phrifysgol Bryste, fod aelwydydd sydd â £2,000 mewn cynilion arian parod 60 – 70% yn llai tebygol o fod ar ei hôl hi gyda biliau. Mae hyn yn cymharu ag aelwydydd sydd â llai na £200 mewn cynilion**.
Rhwng 7 Chwefror ac 14 Mawrth 2026; gall cyfranogwyr gymryd rhan yn y gystadleuaeth Cais i Gynilo drwy wefan Cymdeithas Adeiladu Principality. Bydd pump enillydd lwcus yn cael £2,000 yr un i’w helpu i ychwanegu at eu balans cynilo a dod â nhw'n agosach at eu nodau ariannol.
*Cystadleuaeth (yn amodol ar y Telerau ac Amodau llawn*): Ceir ymgeisio am ddim, rhaid i gyfranogwyr fod yn 18+ oed ac yn breswylwyr y DU, un cais, yn cau am 23:59 (GMT) 14/03/26 a 5 enillydd yn ennill £2,000 yr un.
**bsa.org.uk/information/publications/research-and-reports/understanding-the-role-of-savings-in-building-longer-term-financial-security
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi'i hawdurdodi gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus ac wedi'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus, rhif cyfeirnod 155998. Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ'r Principality, Heol Tŷ'r Brodyr, Caerdydd, CF10 3FA.
Gair gan ein Prif Swyddog Cynilo a Benthyca
Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cynilo a Benthyca Cymdeithas Adeiladu Principality:
“Gall bod â byffer cynilo wneud gwahaniaeth mawr i wydnwch ariannol pobl, sy'n hynod bwysig mewn hinsawdd economaidd anodd ac er mwyn helpu i amddiffyn teuluoedd ac aelwydydd rhag digwyddiadau annisgwyl.
Drwy ein hymgyrch Cais i Gynilo, rydym am rymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u harian, meithrin arferion cynilo cadarnhaol, a theimlo'n fwy diogel yn eu dyfodol. Mae Principality yn parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau cryfach a hyrwyddo diogelwch ariannol hirdymor.”
*I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Cais i Gynilo ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth (gan gynnwys telerau ac amodau llawn y gystadleuaeth), ewch i: https://www.principality.co.uk/home/savings/try-saving-with-principality
Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth - https://www.principality.co.uk/home/savings/try-saving-with-principality/terms-and-conditions
- Newyddion y gymdeithas