Skip to content
Log in

ISA Arian Parod

Cynilo effeithlon o ran treth. Gallech arbed hyd at £20,000 ym mhob blwyddyn dreth heb dalu treth ar eich llog.

Family stacking building blocks on the floor of their home
A couple are in their kitchen looking at a phone and paperwork.

A yw ISA Arian Parod yn iawn i mi?

Mwynhewch gynilo effeithlon o ran treth mewn ffordd sy'n addas i chi. Gallwch naill ai ddewis cynilo’n hyblyg neu benderfynu cloi  eich arian i ffwrdd am gyfnod.

  • Dewis cynilo’n hyblyg

    Mae cyfrifon ISA arian parod mynediad hawdd yn eich galluogi i wneud taliadau a chodi arian. Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer y troeon y cewch godi arian. Ac nid yw'r gyfradd wedi'i gwarantu; gall symud i fyny ac i lawr.

  • Penderfynu cloi eich arian i ffwrdd am gyfnod

    Mae cyfrifon ISA cyfradd sefydlog yn rhoi cyfradd llog wedi’i gwarantu dros gyfnod o 1-5 mlynedd. Mae hyn fel arfer yn cynnwys amserlen gyfyngedig i ychwanegu arian at y cyfrif. Ac ni fyddwch yn gallu codi arian.

  • Mwynhau cynilion effeithlon o ran treth

    Pa bynnag ISA arian parod y byddwch yn ei ddewis, ni fyddwch yn talu treth ar y llog yr ydych yn ei ennill.

Deall cyfrifon ISAs arian parod yn Principality

Cwestiynau cyffredin am gyfrifon ISA arian parod 


Rhaid i chi fod o leiaf 18 oed i agor ISA Arian Parod.


Gallai ISA fod yn addas i chi os:

•    Ydych yn dalwr treth cyfradd uwch neu ychwanegol 

•    Ydych yn chwilio am ffordd effeithlon o ran treth o gynilo, gan na fyddwch yn talu unrhyw dreth ar y llog yr ydych yn ei ennill

Cyfrif cynilo yw ISA lle nad yw'r llog rydych yn ei ennill yn cael ei drethu. Gallwch roi hyd at £20,000 ynddo bob blwyddyn. Mae pedwar math gwahanol o ISA; ISA arian parod, ISA stociau a chyfranddaliadau, ISA oes ac ISA cyllid arloesol. Cyfrifon ISA arian parod yn unig yr ydym ni’n eu cynnig.

ISA arian parod cyfradd sefydlog:

•    Mae'r gyfradd llog yn sefydlog am gyfnod penodol o amser

•    Ni chaniateir codi arian

•    Cewch gau'r ISA neu drosglwyddo'r balans i ISA gwahanol; ond efallai y byddwch yn colli llog


ISA arian parod cyfradd amrywiol:

•    Gall y cyfradd llog newid yn dibynnu ar amodau'r farchnad

•    Gallwch godi arian a rhoi'r arian hwnnw yn ôl cyn diwedd yr un flwyddyn dreth heb i hynny effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol.


Nid oes cyfyngiad ar faint o gyfrifon ISA y cewch eu cael. Cewch gadw eich ISA i fynd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, felly mae'n bosibl bod â mwy nag un ISA. Yn Principality, dim ond un ISA arian parod y cewch dalu mewn iddo ym mhob blwyddyn dreth.

Yn dibynnu ar yr ISA rydych yn ei agor, efallai y bydd cyfyngiad ar sawl gwaith y cewch godi arian. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio telerau'r cyfrif i ddeall a oes gan eich ISA unrhyw gyfyngiadau tynnu allan. Er enghraifft, ni allwch godi arian o ISA cyfradd sefydlog. Gallwch gau'r ISA neu drosglwyddo'r balans i ISA gwahanol; ond efallai y byddwch yn colli llog.


Gallai codi arian o ISA olygu eich bod yn colli llog y gallech fod wedi'i ennill pe bai eich arian yn y cyfrif. Gall hefyd effeithio ar eich buddion treth.


Gydag ISA hyblyg cewch godi arian a’i roi yn ôl cyn diwedd yr un flwyddyn dreth, heb i hynny effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol.

Os oes gennych ISA gyda darparwr arall, gallwch drosglwyddo'r arian i ISA arian parod gyda ni, ar yr amod bod yr ISA yn caniatáu trosglwyddiadau i mewn.

Os oes gennych ISA gyda Principality, gallwch drosglwyddo'r arian i ISA gyda darparwr gwahanol. Fodd bynnag, bydd hyn yn amodol ar  delerau’r cyfrif ISA sydd gennych gyda ni.


Mwy am Drosglwyddo ISA.

Ym mhob blwyddyn dreth (o 6 Ebrill tan 5 Ebrill y flwyddyn nesaf) mae gennych lwfans ISA di-dreth blynyddol. Mae di-dreth yn golygu nad yw'r llog a enillwch yn agored i Dreth Incwm y DU a Threth Enillion Cyfalaf. Mae’r driniaeth dreth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.


Y lwfans ISA ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £20,000. Mae'r swm yn cael ei adolygu gan y Llywodraeth bob blwyddyn a gallai newid yn y dyfodol.


Gellir rhannu'ch lwfans ISA blynyddol ar draws y pedwar math gwahanol o ISA: ISA arian parod, ISA stociau a chyfranddaliadau, ISA oes, ac ISA cyllid arloesol. Yn Principality, dim ond un ISA arian parod y gallwch dalu i mewn iddo ym mhob blwyddyn dreth.


Mae gan wahanol gyfrifon ISA arian parod delerau gwahanol. Mae rhai yn caniatáu i chi dalu swm llawn eich lwfans ISA arian parod blynyddol fel un swm. Gydag eraill, gallwch dalu symiau llai dros amser.

Ni allwch gario lwfans ISA drosodd i'r flwyddyn nesaf. Os na fyddwch yn defnyddio'ch lwfans ISA di-dreth  llawn erbyn 5 Ebrill, byddwch yn ei golli pan ddaw'r flwyddyn dreth i ben.

Awydd rhywbeth gwahanol?

Os nad yw ISA yn iawn ar eich cyfer chi, mae llawer o ffyrdd eraill o gynilo.

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Cymharu’r holl gyfrifon cynilo

Eisiau gweld popeth? Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.