Skip to content
Log in

Ymchwil cwsmeriaid

Ymchwil cwsmeriaid ar ran Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Mae’n bwysig i ni fod eich barn yn sail i’r ffordd yr ydym yn rhedeg ein busnes, a’r penderfyniadau a wnawn. Felly, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil i'r farchnad ar ein rhan.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan mewn ymchwil i'r farchnad. Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan, byddwn yn defnyddio eich ymatebion i wella ein prosesau, ac i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n adlewyrchu eich anghenion.


Mae ein polisi preifatrwydd yn rhoi manylion llawn am sut rydym yn rheoli unrhyw wybodaeth a gasglwn amdanoch ac oddi wrthych fel rhan o’n gweithgarwch ymchwil.


Gweithio gydag asiantaethau ymchwil

Cynhelir rhai o'n prosiectau ymchwil gan asiantaethau ymchwil i'r farchnad annibynnol.


  • Mae’r holl asiantaethau ymchwil sy’n gweithio gyda Principality wedi mynd drwy broses gaffael drylwyr a byddant yn gweithredu i safonau uchaf y diwydiant.
  • Bydd pob un ohonynt yn tanysgrifio i God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad.
  • Mae’r Cod yn pwysleisio pwysigrwydd cyfrinachedd ac anhysbysrwydd i gyfranogwyr ymchwil fel nad yw’r safbwyntiau/barn a roddir yn ystod ymchwil byth yn cael eu hadrodd mewn ffordd sy’n caniatáu nodi pwy yw unigolion, oni bai eu bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni.
  • Mae Cod Ymddygiad MRS hefyd yn gosod rheolau llym ynghylch y defnydd o ddata personol y gall asiantaethau gael mynediad ato gan eu cleientiaid.

Optio allan o ymchwil i'r farchnad

Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn cynnal ymchwil mewn ffordd nad yw'n ymwthiol nac yn peri pryder i'n cwsmeriaid. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan yn ein hymchwil yn dweud wrthym eu bod yn mwynhau’r broses ac yn gwerthfawrogi cael cyfle i roi eu barn.


Rydym yn sylweddoli efallai na fydd rhai aelodau am i ni gysylltu â nhw ar gyfer ymchwil i'r farchnad. Felly, gallwch optio allan – ac ni fyddwn byth yn cysylltu â chi at y diben hwn. Gallwch optio allan drwy:

  • E-bostio eich manylion i research@principality.co.uk
  • Rhoi gwybod i ni yn eich cangen leol

    Byddwn yn anelu at brosesu eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith er mwyn sicrhau bod eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar unrhyw samplau ymchwil yn y dyfodol.


Os cysylltwyd â chi ar gyfer ymchwil a bod gennych gwestiynau neu bryderon penodol am y broses honno, e-bostiwch research@principality.co.uk. Bydd un o'n rheolwyr ymchwil yn hapus i ymateb. Fel arall, bydd eich cangen leol yn gallu ateb unrhyw ymholiadau.