Skip to content

Cymdeithas Adeiladu Principality yn cyflawni gwerth i aelodau heddiw wrth adeiladu cryfder hirdymor

Iain Mansfield - Prif Swyddog Gweithredol - Cymdeithas Adeiladu Principality

Yn yr erthygl hon

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality – y chweched fwyaf yn y DU a’r busnes mwyaf yng Nghymru sy’n eiddo i’w gwsmeriaid – yn cyhoeddi heddiw ei chanlyniadau hanner blwyddyn ar gyfer 2026.

Er gwaethaf cefndir economaidd heriol, mae'r Gymdeithas yn adrodd canlyniadau cadarn, wrth iddi osod y sylfeini i fuddsoddi mewn trawsnewidiad hirdymor i wasanaethu'r genhedlaeth nesaf o Aelodau.

Yn y pum mis cyntaf o 2026, mae'r Gymdeithas wedi dychwelyd gwerth o £33m i'w haelodau drwy gyfraddau cynilo sy'n uwch na'r rhai ar y farchnad.

Uchafbwyntiau perfformiad:

  • Mae cyfanswm ein hasedau wedi cynyddu i £14.1 biliwn (Rhagfyr 2025: £13.9 biliwn)
  • Mae'r llog ymylol net wedi cynyddu: 1.27% (Mehefin 2025: 1.17%) 
  • Mae ein prif fusnes yn parhau'n gryf, gyda incwm gweithredu net o £86.2m (Mehefin 2025: £81.5m)
  • Balansau morgeisi manwerthu cadarn: £11.3 biliwn, cynnydd o £0.2 biliwn (Rhagfyr 2025: £11.1 biliwn) 
  • Mae balansau cynilion yn parhau'n sefydlog: £11.5 biliwn (Rhagfyr 2025: £11.6 biliwn)
  • Elw statudol cyn treth: £19.6m (Mehefin 2025:  £21.9m)
  • Mae elw sylfaenol cyn treth yn wydn: £22.2 miliwn (Mehefin 2025: £22.5 miliwn)
  • Cyfalaf cryf gyda chymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1 uwch: 19.2% (Rhagfyr 2025: 18.7%)
  • Mae profiad y cwsmer wedi gwella, gan godi i: 73.8 (Rhagfyr 2025: 70.8)
  • Mae profiad broceriaid yn parhau i fod yn gryf: 83.6 (Rhagfyr 2025: 84.1).

 

Dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae'n bleser gennyf nodi bod Principality wedi cyflawni canlyniadau cadarn yn hanner cyntaf 2026, wrth i ni geisio cyflawni ein diben o greu cymdeithas o gynilwyr, lle mae gan bawb le i'w alw'n gartref.

Mae hanner cyntaf y flwyddyn wedi'i dylanwadu gan ansicrwydd geowleidyddol parhaus; mae gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi achosi ansefydlogrwydd ar draws marchnadoedd ariannol ac wedi dylanwadu ar ddisgwyliadau ynghylch newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn y dyfodol. Mae'r ffactorau allanol hyn wedi cyfrannu at amgylchedd gweithredu heriol i aelwydydd a busnesau ledled y byd.

Er gwaethaf yr amgylchiadau hyn, cyflawnodd y Gymdeithas berfformiad ariannol cadarn, gan gynnal sefyllfa gref o ran cyfalaf ac hylifedd, ac ar yr un pryd yn gwneud penderfyniadau bwriadol sy'n cryfhau'r Gymdeithas ar gyfer y tymor hir.”

Ein perfformiad ariannol

Mae Iain yn parhau: “Mae incwm cryf a chynaliadwy yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn nyfodol y Gymdeithas, tra'n darparu gwerth i Aelodau heddiw.

Cynyddodd llog ymylol net y Gymdeithas i 1.27% (Mehefin 2025: 1.17%), gan ddangos ein hymrwymiad i fasnacholdeb a'n gallu i reoli a pherfformio'n gadarnhaol mewn amgylchedd gweithredu heriol.

Mae'r Gymdeithas wedi parhau i ganolbwyntio ar reoli costau, yn wyneb heriau chwyddiant. O ganlyniad, mae ein costau gweithredu wedi aros yn weddol sefydlog o'r naill flwyddyn i'r llall, sef £60.2m (Mehefin 2026) o'i gymharu â £59.0m (Mehefin 2025), tra bod ein cymhareb costau rheoli wedi aros yn sefydlog, gan symud o 0.84% ​​(Rhagfyr 2025) i 0.86%.

Er gwaethaf y cynnydd llog ymylol net a sylfaen costau sefydlog, mae ein helw sylfaenol cyn treth yn parhau i fod yn wydn ar £22.2 miliwn (Mehefin 2025: £22.5 miliwn), gan adlewyrchu tâl amhariad o £5.6 miliwn mewn ymateb i ragolwg economaidd sy'n gwanhau. Mae perfformiad ein prif fusnes yn parhau'n gryf, gyda incwm gweithredu net o £86.2 miliwn – cynnydd o £4.7 miliwn (Mehefin 2025: £81.5 miliwn). Roedd yr elw statudol cyn treth yn £19.6 miliwn (Mehefin 2025: £21.9 miliwn); mae'r gwahaniaeth rhyngddo a'r elw sylfaenol cyn treth yn adlewyrchu symudiadau gwerth teg ar asedau a rhwymedigaethau penodol mewn ymateb i newidiadau yng nghyfraddau'r farchnad.

Gwelwyd cynnydd yn ein cyfanswm asedau, sydd bellach yn £14.1 biliwn (Rhagfyr 2025: £13.9 biliwn). Mae ein morgeisi manwerthu wedi tyfu 2.1% ers mis Rhagfyr 2025, er gwaethaf amgylchedd masnachu anodd (Mehefin 2025: 3.9%, Rhagfyr 2025: 5.1%).

Rwyf yn falch o rannu ein bod wedi cynnal sefyllfa gref o ran cyfalaf ac hylifedd yn ystod hanner cyntaf 2026, gyda chymhareb cyfalaf o 19.2% (Rhagfyr 2025: 18.7%) a chymhareb hylifedd o 13.6% (Rhagfyr 2025: 13.6%).”

Benthyca: cartrefi o fewn cyrraedd

Mae Iain yn parhau: “I lawer, mae perchnogaeth cartref yn teimlo ymhellach allan o gyrraedd nag ar unrhyw adeg mewn cenhedlaeth; mae blaendaliadau uchel, pwysau ar fforddiadwyedd, a chostau tai cynyddol – ynghyd â materion hygyrchedd – yn ei gwneud hi'n anoddach cael yr allwedd i'ch cartref cyntaf.

Yn wyneb marchnad heriol, rydym wedi gwrando ar adborth ein broceriaid a’n cwsmeriaid ac wedi ymateb iddo; mae hyn wedi ein galluogi i fabwysiadu dull mwy penodol a nodedig o ran ein gweithgareddau benthyca, gan helpu mwy o bobl i gael mynediad at gyllid mewn modd cyfrifol.

Rydym wedi diwygio ein meini prawf benthyca a'r ffordd rydym yn asesu fforddiadwyedd, gan ychwanegu mwy o hyblygrwydd ac arwain at enillion gwell i'r busnes. Mae hyn yn golygu y gallwn gefnogi mwy o gwsmeriaid sydd ag ystod ehangach o anghenion, gan gynnwys y rhai a allai fod yn cael eu tanwasanaethu neu eu hanwybyddu gan ddarparwyr eraill. Arhosodd profiad y broceriaid yn gryf ar 83.6, gan adlewyrchu ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn i bartneriaid canolraddol a chryfder ein cynnig mewn marchnad gystadleuol (Rhagfyr 2025: 84.1).

Yn ystod hanner cyntaf 2026, cynyddodd ein balansau morgeisi o £0.2 biliwn i £11.3 biliwn (Rhagfyr 2025: £11.1 biliwn), ac rydym bellach yn cefnogi 89,867 o berchnogion tai (Rhagfyr 2025: 88,941).

Er bod y twf wedi bod yn fwy cymedrol nag yn y blynyddoedd blaenorol, mae hyn yn adlewyrchu'r amgylchedd masnachu heriol yn ogystal â'n ffocws bwriadol ar dwf cynaliadwy a chefnogi cwsmeriaid mewn modd cyfrifol.

Ar adeg pan mae oedran cyfartalog prynwr tro cyntaf yn parhau i godi ac mae fforddiadwyedd yn parhau i fod yn heriol, gwnaethom hefyd helpu 3,195 o bobl i brynu tŷ am y tro cyntaf yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn (Mehefin 2025: 4,033).

Er bod y ffigwr hwn yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol – gan adlewyrchu pwysau ehangach o ran fforddiadwyedd ym marchnad dai – rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu ffyrdd benthyca cynaliadwy sy'n helpu pobl i brynu cartref, gan gynnal gwerth hirdymor i'r Gymdeithas a'i haelodau.

Fel enillwyr balch Gwobr What Mortgages 2026 am y Gwasanaeth Cwsmeriaid Gorau gan Gymdeithas Adeiladu, mae ein gwasanaeth benthyca yn mynd cam ymhellach; gan ychwanegu elfen ddynol at un o'r penderfyniadau mwyaf y gall rhywun ei wneud: prynu cartref.”

Benthyca masnachol

Mae Iain yn parhau: “Ers dros 20 mlynedd, mae ein tîm Benthyca Masnachol wedi cefnogi darparu tai fforddiadwy ledled Cymru drwy ariannu'r rhan fwyaf o gymdeithasau tai Cymru. Rydym bellach yn ehangu ein cyrhaeddiad drwy gynyddu ein cyllid i gymdeithasau tai sydd wedi'u lleoli yn Lloegr.

Ar hyn o bryd, mae ein portffolio benthyca masnachol yn £864 miliwn, ynghyd ag ymrwymiadau pellach o bron i £300 miliwn y disgwylir iddynt gael eu codi o fewn y 24 mis nesaf. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, gwnaethom ymrwymo £73 miliwn mewn benthyciadau newydd i gymdeithasau tai (Mehefin 2025: £15m) a chytuno ar gyllid i ddatblygwyr eiddo a fydd yn ariannu datblygu 352 o gartrefi newydd (Mehefin 2025: 55).

Er bod yr amgylchedd marchnad heriol wedi arwain at lyfr benthyciadau masnachol sydd wedi aros yn weddol sefydlog ers dechrau 2026, mae ein piblinell yn parhau i ddangos momentwm sylweddol ar draws Lloegr a Chymru. Mae hyn yn adlewyrchu gwerth ein perthnasoedd hirsefydlog a’n model sy’n seiliedig ar berthnasoedd, sy’n parhau i gefnogi cyfleoedd cryf er gwaethaf heriau ehangach y farchnad.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd ein partneriaeth gwerth £30 miliwn gyda Plus Dane Housing, sydd wedi'i lleoli yn y Gogledd-orllewin. Dyma ein hail bartneriaeth â chymdeithas dai yn Lloegr, ac mae'n cadarnhau benthyca masnachol fel maes twf strategol pwysig i'r Gymdeithas. Mae ein busnes benthyca masnachol yn parhau i ennill gwobrau, gan gipio'r wobr 'Benthyciwr y Flwyddyn' yng Ngwobrau Insider Media.”

Cynilion: wedi'u symleiddio

Mae Iain yn parhau: “Darparu gwerth i Aelodau yw'r hyn sy'n gwahaniaethu'r sector cydfuddiannol. Mae'n rhan sylfaenol o'n model gweithredu ac yn mynd law yn llaw â'n gallu i fenthyca. Yn ystod pum mis cyntaf 2026, rydym wedi talu 3.52% i gynilwyr o'i gymharu â chyfartaledd y farchnad o 2.82%, gan arwain at £33 miliwn o log ychwanegol yn cael ei dalu i'n Haelodau. Yn yr un cyfnod y llynedd, talwyd swm sy'n cyfateb i £37m1

Ar ôl tymor ISA Arian Parod prysur arall, a ysgogwyd gan farchnad gystadleuol ac yn sgil newidiadau i’r lwfans o fis Ebrill nesaf, rwyf wrth fy modd yn rhannu’r ffaith bod cwsmeriaid yn parhau i ymddiried ynom gyda’u cynilion hirdymor.

Yn gyffredinol, mae ein haelodau’n ymddiried £11.5 biliwn o gynilion i ni (yn ôl y sefyllfa ym mis Mehefin 2026; £11.6 biliwn ym mis Rhagfyr 2025), ac mewn marchnad hynod gystadleuol, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddenu a chadw cyllid sy’n cefnogi cryfder hirdymor y Gymdeithas, yn hytrach na mynd ar drywydd twf y fantolen yn unig. Rydym yn parhau i gynnig cyfraddau cystadleuol i’n haelodau. Ar yr un pryd, rhoddodd ein hymrwymiad i farchnad y bondiau â gwarant (covered bonds) £500 miliwn o hylifedd i’r busnes ar ddechrau’r flwyddyn; rhoddodd hyn ddewisiadau i ni o ran sut rydym yn rheoli ein harian, gan ein galluogi i gydbwyso ein hylifedd ag opsiynau cyfanwerthu a buddsoddi yn nyfodol hirdymor y busnes.

Yn wyneb y pwysau cynyddol ar gyllid aelwydydd, mae ei gwneud hi'n syml i bobl gynilo yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Boed ar-lein, ar ddyfais symudol neu yn un o'n canghennau sydd wedi'u gwasgaru ar draws cymunedau yng Nghymru ac ar y ffiniau, rydym am i Aelodau allu rhyngweithio â ni yn y ffordd sy'n gweddu orau iddynt.

Dyna pam, yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Ebrill, yr oeddwn yn falch iawn o gyhoeddi ein bwriad i lansio ap cynilo digidol newydd yn y dyfodol. Fel y darparwr gwasanaethau ariannol sydd â’r nifer mwyaf o ganghennau yng Nghymru, bydd ein hap newydd yn cael ei gynllunio i gydbwyso ein gwasanaethau ffisegol ac ar-lein fel Cymdeithas ddigidol y gellir ymddiried ynddi, gan roi’r gallu i ni gynnig dewis i Aelodau ynghylch sut maent yn rheoli eu harian.

Cododd ein sgôr profiad cwsmer i 73.8 (Rhagfyr 2025: 70.8), gan atgyfnerthu'r gwerth y mae ein Haelodau'n ei roi ar ein dull dynol. Mae ein buddugoliaeth yng nghategori 'Darparwr Cynilion Cymdeithas Adeiladu Gorau' yng Ngwobrau Moneyfacts, a'n gwobrau aur dwbl ar gyfer cynilo a benthyca yng Ngwobrau Fairer Finance, yn dystiolaeth bellach o'r gwerth rydym yn parhau i'w ddarparu i'n Haelodau.

Ein helw yn ysgogi ein diben

Mae Iain yn parhau: “Mae'r elw y mae ein busnes yn ei wneud yn golygu y gallwn gael effaith ystyrlon a pharhaol yn y cymunedau lle rydym yn gweithredu. Gyda'r nifer mwyaf o ganghennau o unrhyw ddarparwr gwasanaethau ariannol yng Nghymru, mae ein presenoldeb yn bwysig.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, dosbarthwyd bron i £0.5 miliwn i achosion sy'n gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru (Mehefin 2025: £0.4 miliwn). Ar yr un pryd, mae ein partneriaeth â Barnardo’s Cymru yn parhau i ddangos y gwaith ar y cyd â’n cydweithwyr, ein Haelodau a’n cymunedau, sydd wedi codi dros £127,000 hyd yma i gefnogi’r gwaith mae'n ei wneud dros blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Bydd y Gymdeithas yn parhau â'r gwaith hwn, gyda rhagor o fentrau codi arian wedi'u cynllunio ar gyfer ail hanner 2026 – gan gyfateb rhoddion hyd at £150,000 bob blwyddyn ariannol, a thrwy hynny helpu i gynyddu effaith pob punt a godir.”

Edrych tua'r dyfodol

Parhaodd Iain: “Diolch am eich cefnogaeth barhaus a'r ymddiriedaeth rydych chi'n ei rhoi yn Principality. Ein gwaith ni yw sicrhau bod y busnes hwn yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn berthnasol – i chi heddiw ac i'r genhedlaeth nesaf o Aelodau.

Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i'ch Cymdeithas. Mae hanner cyntaf 2026 wedi canolbwyntio ar roi cynlluniau ar waith ar gyfer y dyfodol, gan gryfhau ein sylfeini hefyd i alluogi'r trawsnewid sydd ei angen i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn berthnasol mewn byd sy'n newid yn gyflym. Wrth edrych ymlaen at y 18 mis nesaf, mae'n anoddach rhagweld yr amgylchedd macro-economaidd; fodd bynnag, byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn cadw'n gadarn wrth gyflawni ein diben – sef creu cymdeithas o gynilwyr lle mae gan bawb le i'w alw'n gartref.”

Iain Mansfield

Prif Swyddog Gweithredol

6 Awst 2026

 

1Ffynhonnell: CSDB CACI, Stoc, Ionawr–Mai 2026. Ionawr–Mehefin 2025 (3.98% yn erbyn 3.17%) oherwydd yr amgylchedd cyfraddau llog uwch.