Gwneud cais am forgais – beth ddylwn i ei ddisgwyl?
Yn y canllaw hwn
Pam mae'n bwysig?
Gall bod yn barod wrth wneud cais am forgais eich helpu i hwyluso rheoli'r broses gymaint â phosibl.
Felly, rydych wedi dod o hyd i'ch cartref delfrydol. Llongyfarchiadau! Nawr, mae angen i chi wneud cais ffurfiol. Weithiau gall y cam hwn fod yn ddryslyd, felly rydym wedi dadansoddi rhai o'r pethau y dylech eu disgwyl wrth wneud cais am forgais.
Dyma beth i'w ddisgwyl
-
Dylech ddisgwyl gwneud penderfyniad ynghylch eich morgais
Mae'n amser penderfynu pa forgais sy'n briodol i chi. Beth bynnag fo'ch penderfyniad, sicrhewch eich bod yn deall telerau'r morgais yn llawn. Efallai y byddwch eisiau trafod eich opsiynau gydag ymgynghorydd neu frocer morgeisi.
-
Dylech ddisgwyl mynd i apwyntiadau
Dylech drefnu apwyntiad gyda'ch benthyciwr i drafod eich cais, Fel arfer byddwch yn cael opsiwn ar gyfer apwyntiad wyneb yn wyneb neu alwad ffôn.
-
Dylech ddisgwyl cael gwiriad credyd
Bydd benthycwyr yn cwblhau gwiriad credyd ar eich hanes credyd i benderfynu a ddylid derbyn eich cais am forgais.
-
Dylech ddisgwyl llawer o waith papur
Pan fyddwch yn gwneud cais am eich morgais, gofynnir i chi am sawl dogfen, a bydd yn rhaid i chi lenwi llawer o ffurflenni. Sicrhewch fod eich slipiau cyflog, eich biliau cyfleustodau a'ch prawf hunaniaeth yn barod.
-
Dylech ddisgwyl rhoi trefn ar eich sefyllfa ariannol
Efallai y bydd eich benthyciwr yn gofyn am brawf o'ch blaendal, a bydd angen i chi hefyd sicrhau bod gennych ddigon o arian am gostau eraill, fel cyfreithiwr a syrfëwr.
-
Dylech ddisgwyl gohebiaeth reolaidd
Byddwch yn cael gwaith papur a gohebiaeth gan eich benthyciwr i symud eich cais i gynnig. Cofiwch ymateb i'r rhain yn gywir ac yn effeithlon.
- Getting a mortgage
Amser i drafod morgeisi?
Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi 0330 333 4002.
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp.