Skip to content
Log in

Cymorth gyda’ch ad-daliadau morgais

Gadewch i ni eich rhoi yn ôl mewn rheolaeth

Os ydych chi erioed wedi poeni am wneud eich ad-daliadau morgais, rydym ni yma i chi. Nid oes yn rhaid i chi aros tan i chi fethu taliad i ofyn am ein cymorth.

Byddwn yn esbonio beth yw eich opsiynau, ac yn eich helpu i feddwl am effaith yr atebion hyn. Byddwn yn trafod unrhyw effeithiau tymor hwy gyda chi, fel sut allai eich taliadau newid ar ôl i unrhyw gymorth ddod i ben. A byddwn yn seilio ein sgyrsiau ar eich amgylchiadau unigol. Ein nod yw eich helpu i gymryd rheolaeth, fel y gallwch wneud dewis cytbwys am yr hyn i’w wneud nesaf.

Darganfyddwch fwy am ffyrdd y gallwn helpu gan ddefnyddio ein canolfan gymorth ar-lein.


Pwysig: nid yw siarad â ni am gymorth taliadau morgais yn effeithio ar eich ffeil gredyd.

Gofynnwch am gyngor annibynnol am ddim

Cyn i chi benderfynu ar yr hyn i’w wneud, efallai yr hoffech ofyn am gyfarwyddyd diduedd. Ar unrhyw adeg yn y broses, gallwch gael cyngor am ddim o leoedd fel:

•   Helpwr Arian

•   Elusen Ddyled Stepchange

•   Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth

Sylwer nad ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar wefannau allanol.


Cynlluniwr cyllideb morgais

Mae ein cynlluniwr cyllideb morgais yn ein helpu i ddeall eich sefyllfa ariannol fel y gallwn ddod i hyd i ateb sy’n addas i chi. Gallwch anfon copi wedi’i gwblhau i’r cyfeiriad e-bost isod, neu gallwch ei bostio. Os byddai’n well gennych drafod cwestiynau gyda ni, ffoniwch y rhif isod a byddwn yn cymryd eich atebion dros y ffôn.


Cael cymorth gyda’ch morgais

A ydych chi’n poeni am ad-dalu eich morgais, wedi methu ad-daliad morgais, neu’n meddu ar eiddo prynu i osod? Mae cymorth wedi’i deilwra ar gael.

Ffoniwch ni: 0330 333 4020

E-bost: customersupportteam@principality.co.uk


Oriau agor cymorth i gwsmeriaid: dydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am - 5pm

An illustrated home framed by two drawn trees in the wind [Welsh]

Ffyrdd eraill y gallwn helpu

Newid eich cytundeb

Gallai newid eich cytundeb morgais leihau eich ad-daliadau misol a gwneud eich morgais yn fwy fforddiadwy.

Ffoniwch ni: 0330 333 4030


Cwsmeriaid Nemo

Cysylltwch â’n tîm Nemo yn customersupportteam@nemoloans.co.uk neu ffoniwch 0800 612 9982.

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais