Skip to content
Log in

Cymorth gyda chyfraddau morgais sy’n cynyddu

Rydym yn cefnogi Siarter Morgeisi’r Llywodraeth. Dyma’r hyn y mae’r siarter yn ei olygu i chi.

Rydym yn cefnogi’r Siarter Morgeisi

Rydym yn cefnogi Siarter Morgeisio’r Llywodraeth yn llawn. Mae hyn yn golygu bod gennym opsiynau i’ch cynorthwyo os oes gennych forgais preswyl a’ch bod yn cael trafferth yn cyflawni eich ad-daliadau morgais.

Cysylltwch â’n tîm morgeisi a fydd yn gallu rhoi cymorth a chyfarwyddyd i chi, heb effeithio ar eich sgôr credyd. Neu dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gallwn helpu gyda’ch ad-daliadau morgais.


Os oes gennych forgeisi Prynu i Osod neu Nemo, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y Siarter Morgeisi.

Yr hyn y mae’r siarter yn ei olygu i ddeiliaid morgeisi Principality

  1. Os yw eich cytundeb morgais yn dod i ben o fewn 6 mis, gallwch newid i gytundeb newydd heb wiriad fforddiadwyedd.
  2. Byddwch yn gallu gofyn am gytundeb cyfatebol gwell, tan yr 20fed o’r mis cyn i’ch cytundeb morgais newydd ddechrau.
  3. Os nad ydych wedi methu unrhyw daliadau morgais, gallwn eich newid i daliadau llog yn unig am hyd at 6 mis, heb unrhyw asesiad fforddiadwyedd.
  4. Gallwch wneud cais am estyniad i’ch tymor morgais, heb unrhyw asesiad fforddiadwyedd a dychwelyd i’ch tymor blaenorol o fewn 6 mis.


Gwybodaeth bwysig

  • Ni fyddwn yn adfeddiannu eich cartref o fewn 12 mis i’ch methiant cyntaf i dalu.
  • Mae’r newidiadau hyn ar sail Darafael yn Unig, sy’n golygu nad ydym yn cynnig cyngor, yn asesu fforddiadwyedd nac yn asesu’r addasrwydd o wneud y newidiadau hyn i’ch morgais.
  • Os ydych yn gallu talu eich ad-daliadau presennol, dylech barhau i wneud hynny. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn talu llai o log na phe baech yn newid eich cyfnod neu’n newid i ad-daliadau llog yn unig.

Cysylltwch â ni

Dyma ein horiau agor ar gyfer ymholiadau cyffredinol: dydd Llun i ddydd Gwener 9:30am - 5pm neu ddydd Sadwrn 9am - 1pm.

  • Cymorth wedi’i deilwra

    A ydych chi’n poeni am ad-dalu eich morgais, wedi methu ad-daliad morgais, neu’n meddu ar eiddo Prynu i Osod? Mae cymorth wedi’i deilwra ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am - 5pm. Ffoniwch ni: 0330 333 4020

  • Trafodwch eich opsiynau

    Os nad ydych wedi methu unrhyw daliadau ac yr hoffech drafod eich opsiynau, gallwch gysylltu â’n Tîm Morgeisi ddydd Llun i ddydd Gwener 9:30am - 5pm a dydd Sadwrn 9am - 1pm. Ffoniwch ni: 0330 333 4030

  • Cwsmeriaid Nemo

    I gael cymorth wedi’i deilwra, ffoniwch ein tîm Nemo. Dydd Llun i ddydd Gwener 9:30am - 5pm yw’r oriau agor. Ffoniwch Nemo: 0800 612 9982

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais