Skip to content
Log in

Cau cyfrif ar ôl i rywun farw

Beth sydd angen i chi ei wneud

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi gwybod i ni fod deiliad cyfrif wedi marw.

Yna, os chi yw'r cynrychiolydd personol, byddwch yn gallu cau'r cyfrif. Dyma beth y dylech ei wneud:

  • Llenwch y ffurflen

    Llenwch y ffurflen Profedigaeth - Cais i gau cyfrifon.

  • Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi atom
    Gallwch anfon y ffurflen drwy:
    Ymweld â changen leol
    E-bostio bereavement@principality.co.uk
    Postio i'r Tîm Profedigaeth, Adeiladau Principality, Blwch Post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA
  • Cau'r cyfrif

    Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i gau cyfrif cynilo, ISA, neu forgais yn dibynnu ar amgylchiadau pob cais. Byddwn yn eich diweddaru trwy gydol y broses.

    Ffoniwch ni ar 

    0330 333 4000 os oes gennych unrhyw gwestiynau.



Sut i lenwi'r ffurflen

Yn syml, cwblhewch yr adrannau sy'n berthnasol i'r balans ar y cyfrif:

Cyfanswm balans y cyfrif(on)Adran i'w chwblhau
Dogfennau sydd ei hangen
£19,999 neu laiAdran 1 a 5
Mae Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Personol yn darparu dau fath o ddogfen adnabod (ID) a ffurflen gau wedi'i llofnodi.
£20,000 i £39,999Adran 2, 3 a 5
Mae Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Personol yn darparu dau fath o ddogfen adnabod (ID) a ffurflen gau wedi'i llofnodi a’i thystio gan Gyfreithiwr.
£40,000 neu uwch neu pan gafwyd Profiant eisoesAdran 4 a 5
Mae Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Personol yn darparu dau fath o ddogfen adnabod (ID) a ffurflen gau wedi'i llofnodi a Phrofiant.


Gwybodaeth am gau cyfrifon

Os ydych yn tynnu arian allan neu'n cau cyfrif cynilo fel Cynrychiolydd Personol byddwn ni angen:

•    1 math o brawf adnabod enw

•    1 math o brawf cyfeiriad

Gall y rhain fod yn ddogfen wreiddiol neu gopi. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom mwyach.


Os ydych chi'n aelod o Principality ni fydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod.

Os bydd deiliad cyfrif ISA yn marw, gall ei briod neu bartner sifil etifeddu'r lwfans ISA. 


Mae gwerth y lwfans a etifeddir (a elwir hefyd yn Danysgrifiad Ychwanegol a Ganiateir neu APS) yn gyfwerth â gwerth y cronfeydd ISA yr oedd gan y cwsmer yn ei gyfrif(on) ISA.


Mae’n bosibl bod y rhain gyda nifer o wahanol ddarparwyr ISA.

Os ydych yn tynnu arian allan neu'n cau cyfrif cynilo fel Cynrychiolydd Personol byddwn ni angen:

•    1 math o brawf adnabod enw

•    1 math o brawf cyfeiriad

Gall y rhain fod yn ddogfen wreiddiol neu gopi. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom mwyach.


Os ydych chi'n aelod o Principality ni fydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod.


Rydym yn derbyn y mathau canlynol o ddogfennau adnabod:

•    Pasbort y DU cyfredol wedi'i lofnodi

•    Trwydded yrru lawn y DU gyfredol wedi'i llofnodi (derbynnir hen drwydded yrru bapur hefyd)

•    Pasbort nad yw'n un yr UE a Fisa ddilys.

•    Cerdyn Adnabod aelod-wladwriaeth yr UE/Pasbort yr UE.

•    Hysbysiad Treth Cyllid a Thollau EF (o dan 12 mis oed, nid hunanasesiad)

•    Hysbysiad o bensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cadarnhau'r hawl i fudd-daliadau (o dan 12 mis)

Rydym yn derbyn y dogfennau canlynol fel prawf o gyfeiriad:

•    Bil nwy a thrydan (o dan 3 mis oed)

•    Bil Treth Awdurdod Lleol (o dan 12 mis oed)

•    Llythyr gan Adran y Llywodraeth ynghylch eich materion personol (o dan 12 mis oed)

•    Llythyrau swyddogol oddi wrth gartref gofal neu nyrsio yn cadarnhau preswylfa (o dan 12 mis oed)

•    Datganiad morgais (o dan 12 mis oed)

•    Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau cwblhau prynu tŷ neu gofrestru tir ynghyd â phrawf o gyfeiriad blaenorol (o dan 6 mis oed)

•    Bil dŵr (o dan 12 mis oed)

•    Cytundeb tenantiaeth Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai (o dan 12 mis oed)

•    Cyfriflen Banc, Cymdeithas Adeiladu (cynilion) neu gerdyn credyd (o dan 3 mis oed heb ei argraffu o dudalen ar-lein)

An illustrated headset surrounded by speech bubbles [Welsh]

Rydym yma i’ch cefnogi


Os ydych eisiau gofyn cwestiwn penodol i ni neu os oes angen cymorth arnoch gyda'r camau nesaf, cysylltwch â ni.


E-bost: bereavement@principality.co.uk

Ffôn: 0330 333 4000

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais