Skip to content
Log in

Eich cefnogi pan fydd rhywun yn marw

Rydym ni yma i’ch cynorthwyo i reoli’r cyllid yn dilyn profedigaeth. 

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Gall colli rhywun sy’n annwyl i chi fod yn ysgytwol. Yn ogystal â’r straen emosiynol, mae’n rhaid hefyd i chi ymdopi â materion ymarferol fel cyllid.

Dyma’r hyn y mae angen i chi ei wneud i reoli eu cyllid gyda Principality.

Cysylltwch â ni

Rhowch wybod i ni os ydych yn gyfrifol am ymdrin ag ystâd rhywun sydd â morgais, cyfrif cynilo neu ISA Principality. 

Bydd angen i chi gadarnhau enw a manylion y sawl sy’n gyfrifol am ystâd y person ymadawedig. 

Byddwn yn defnyddio’r manylion hyn i gyfathrebu â’r Cynrychiolydd Personol.


Byddwn angen:

Gallwch anfon y dogfennau atom drwy

  • Ymweld â changen leol

    Os byddai’n well gennych ei drafod yn bersonol, gallwch ymweld ag un o’n canghennau. Cofiwch ddod â chopi o’r dystysgrif farwolaeth.

  • Anfonwch y ffurflen atom mewn e-bost

    Gallwch roi gwybod i ni am brofedigaeth drwy anfon e-bost atom gyda’ch dogfennau wedi’u hatodi. Anfonwch e-bost i bereavement@principality.co.uk

  • Ysgrifennu atom

    Gallwch bostio i’n Tîm Profedigaeth yn Adeiladau Principality Blwch Post 89, Heol y Frenhines Caerdydd CF10 1UA

Cyfrif cynilo: Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ein hysbysu?


Ar ôl i chi roi gwybod i ni, byddwn yn rhewi’r cyfrif cynilo. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dal i allu codi arian o’r cyfrif i dalu am dreuliau fel taliadau angladd, Treth Etifeddiaeth, a ffioedd profiant ac ardystiad cyfreithiwr. Gallwch gau’r cyfrif pan fyddwch yn barod. 


Opsiwn 1: Mynediad at y cyfrif
Opsiwn 2: Cau’r cyfrif


Rhagor o wybodaeth am gau cyfrif

Dogfennau a chanllawiau

Atebion i’ch cwestiynau

Rheoli cyllid gan gynnwys:

  • Anfon copïau gwreiddiol neu swyddogol o'r dystysgrif farwolaeth i sefydliadau sydd ag arian y person sydd wedi marw.
  • Paratoi ac anfon y dogfennau sy'n ofynnol gan y Gofrestrfa Brofiant a Chyllid a Thollau EF.

Gofyn am fanylion i reoli'r ystad:

  • Gofyn am fanylion y balans a'r llog a enillwyd gan yr ymadawedig yn y flwyddyn dreth gyfredol hyd at ddyddiad y farwolaeth, a bod cyfrifon wedi'u cyfyngu fel na all unrhyw un dynnu arian heb yr awdurdod cyfreithiol cywir.
  • Gofyn am fanylion unrhyw arian sy'n ddyledus i'r ystad.

Rheoli'r ystad:

  • Rhannu'r ystad fel y nodir yn yr ewyllys neu yn unol â rheolau diewyllys.
  •  Cyfrifo a oes treth etifeddiaeth yn ddyledus a threfnu ei thalu.
  • Pan roddir Grant Profiant neu Lythyrau Gweinyddu, mae'r Cynrychiolydd Personol yn casglu arian sy'n perthyn i'r ystad gan fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a chronfeydd pensiwn. 
  • Talu dyledion

Rheoli treth a budd-daliadau:

Mae'n bwysig sicrhau bod treth, budd-daliadau ac Yswiriant Gwladol yr ymadawedig yn gyfredol. Efallai y bydd treth yn ddyledus, neu efallai y bydd rhywfaint o dreth yn ddyledus i'w ystad.

Os ydych yn tynnu arian neu'n cau cyfrif cynilo fel Cynrychiolydd Personol bydd angen:

  • 1 math o brawf adnabod enw
  • 1 math o brawf adnabod cyfeiriad

Gall y rhain fod yn ddogfennau gwreiddiol neu yn gopïau. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom erbyn hyn.


Os ydych chi'n aelod o Principality, ni fydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod.

Rydym yn derbyn y dogfennau enwau canlynol:

  • Pasbort cyfredol y DU wedi'i lofnodi
  • Trwydded yrru lawn gyfredol y DU wedi'i llofnodi* (derbynnir hen drwyddedi math papur hefyd)
  • Pasbort nad yw o’r UE a Fisa dilys°
  • Cerdyn Adnabod aelod-wladwriaeth yr UE/Pasbort yr UE
  • Hysbysiadau Treth Cyllid a Thollau EF (llai na 12 mis oed, nid hunan-asesiad)
  • Hysbysiad o ddogfen pensiwn neu fudd-daliadau'r wladwriaeth gan yr Adran Gwaith a
  • Phensiynau (DWP) yn cadarnhau'r hawl i fudd-daliadau* (llai na 12 mis yn ôl)

Rydym yn derbyn y dogfennau cyfeiriad canlynol:

Bil nwy a thrydan (llai na 3 mis yn ôl) Bil Treth yr Awdurdod Lleol (llai na 12 mis yn ôl) 

  • Llythyr gan Adran y Llywodraeth am eich materion personol (llai na 12 mis yn ôl) 
  • Llythyrau swyddogol gan gartrefi gofal neu nyrsio yn cadarnhau preswyliad (llai na 12 mis yn ôl)
  • Datganiad morgais (llai na 12 mis yn ôl) 
  • Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau cwblhau prynu tŷ neu gofrestru tir ynghyd â phrawf o gyfeiriad blaenorol (llai na 6 mis yn ôl) Bil dŵr (llai na 12 mis yn ôl) 
  • Cytundeb tenantiaeth Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Dai (llai na 12 mis yn ôl) 
  • Cyfriflen Banc, Cymdeithas Adeiladu (cynilion) neu gerdyn credyd (llai na 3 mis yn ôl ac nid copi ar-lein wedi’i argraffu)

Pan fydd marwolaeth deiliad y cyfrif morgais wedi'i chofrestru, byddwn yn ysgrifennu at y Cynrychiolydd Personol i esbonio'r camau nesaf wrth ymdrin â'r morgais.


Bydd llog yn parhau i gronni yn erbyn unrhyw forgeisi sydd ar ôl ar yr eiddo hyd nes y caiff ei ad-dalu'n llawn.


Gallwn helpu drwy atal taliadau neu ffioedd dros dro mewn rhai amgylchiadau. Rhowch wybod i ni:

  • os oes, neu os bydd, unrhyw anhawster o ran gwneud y taliadau morgais misol arferol.
  • os yw'r eiddo sydd wedi’i forgeisi yn mynd i gael ei werthu.
  •  os oes unrhyw aelodau o'r teulu yn bwriadu aros yn yr eiddo.
  • os oes unrhyw bolisi yswiriant bywyd yn bodoli.

Beth fydd yn digwydd nesaf:

  • Ar ôl i farwolaeth gael ei chofrestru, bydd yr amser y mae'n ei gymryd i brosesu cau'r cyfrif yn dibynnu ar amgylchiadau pob deiliad y morgais a sut y daliwyd y cyfrif morgais.
  • Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf. Os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â ni.

Os oes gan yr eiddo gydberchnogion: Byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro eich camau nesaf pan fyddwn yn cael y gwaith papur gennych. Mae hyn oherwydd bod dwy ffordd wahanol o fod yn berchen ar eiddo ar y cyd; cyd-denantiaid neu denantiaid yn gyffredin.

An illustrated headset surrounded by speech bubbles [Welsh]

Rydym yma i’ch cefnogi


Os ydych eisiau gofyn cwestiwn penodol i ni neu os oes angen cymorth arnoch gyda'r camau nesaf, cysylltwch â ni.


E-bost: bereavement@principality.co.uk

Ffôn: 0330 333 4000

Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais