Skip to content

Newid eich cytundeb morgais

Young couple using digital tablet together at home

Yn y canllaw hwn

Egluro newid morgais

Newid eich morgais yw pan fyddwch yn newid cynnyrch eich morgais. Gallwch naill ai symud eich morgais i fenthyciwr newydd - a elwir yn ailforgeisio. Neu gallwch newid eich morgais o un cynnyrch i gynnyrch arall, gyda'r un benthyciwr. Gelwir hyn yn trosglwyddo cynnyrch.  
 

Pryd y gallwch newid eich morgais?

Gallwch newid eich morgais ar unrhyw adeg. Ond, er mwyn osgoi talu ffioedd ad-dalu'n gynnar (ERC), mae'r rhan fwyaf o bobl yn newid ychydig cyn i'w cytundeb morgais cyfredol yn dod i ben.  

Mae newid ychydig cyn i'ch cytundeb morgais ddod i ben yn golygu y byddwch yn osgoi cael eich symud i Gyfradd Amrywiadwy Safonol (SVR) eich benthyciwr. Yn gyffredinol, mae'n well gan bobl ddewis cytundeb newydd yn hytrach na newid i SVR eu benthyciwr yn ddiofyn. Mae hyn oherwydd bod gan forgeisi SVR gyfraddau llog uwch, ac mae eich ad-daliadau misol yn fwy tebygol o newid.  
 

Ffyrdd o newid eich morgais

Ceisio cyngor gan fenthyciwr

Gallwch geisio cyngor gan eich benthyciwr, a elwir yn newid gyda chyngor, a bydd ymgynghorydd morgeisi yn edrych ar eich sefyllfa ariannol, balans eich morgais a gwerth eich eiddo i awgrymu'r cynnyrch mwyaf addas i chi.
 

Dewis morgais newydd eich hun

Gallwch ddewis cytundeb eich hun heb drafod eich sefyllfa ariannol â'ch benthyciwr, a elwir yn newid heb gyngor. Yn aml gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddod o hyd i gytundeb a dilyn proses y benthyciwr o wneud cais.
 

Os byddwch yn dewis morgais newydd eich hun, mae gennych yr hawl o hyd i gwyno neu gael iawndal os aiff unrhyw beth arall o'i le gyda'ch morgais. Fodd bynnag, byddwch yn colli rhai amddiffyniadau. Mae dewis newid heb gyngor yn golygu: 

  • Na fyddwch yn cael eich diogelu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol am asesu addasrwydd y newid.
  • Ni fyddwch yn gallu cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am yr agwedd hon ar eich cytundeb morgais.
  • Ni fyddwch yn gallu hawlio dan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol am yr agwedd hon ar eich cytundeb morgais. 
An illustrated arrow, facing right and within a circle. (Welsh)

Amser trafod newid?

Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi 0330 333 4030

dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp