Skip to content

Canlyniadau pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae ein 165fed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i Aelodau bleidleisio ar benderfyniadau ynghylch Principality.

Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Ngwesty’r Marriott ar 11 Ebrill 2025. Gwahoddwyd aelodau i fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn bersonol, ar-lein a mynychu ar-lein mewn canghennau dethol (Caerffili, Cwmbrân, Henffordd, Llandudno, Llanelli a Wrecsam).


Roedd yn braf cael gweld cynifer ohonoch chi, ein Haelodau, yn cymryd rhan weithredol mewn adeiladu dyfodol ein cymdeithas drwy bleidleisio a mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Roedd y rhai a ymunodd â ni yn gallu clywed am berfformiad y gymdeithas, gofyn cwestiynau i’r Bwrdd a’r Uwch Dîm.


Hoffem ddiolch i’n Haelodau am eu teyrngarwch parhaus a chyflwyno’r canlyniadau pleidleisio isod.

Canlyniadau pleidleisio 2025


Cafodd yr holl bleidleisiau eu cyfrif gan y craffwyr annibynnol Civica, gan sicrhau bod y canlyniadau'n deg ac yn gywir.


Canlyniadau ein penderfyniadau

Penderfyniad
O blaid
Yn erbyn
Gwrthodwyd % o blaid
1. Derbyn Adroddiad y Cyfarwyddwyr, y Datganiad Busnes Blynyddol, y Cyfrifon Blynyddol ac Adroddiad yr Archwilwyr ar gyfer y blwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024.24,068
243
175
99.00
2. Cymeradwyo Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol y Cyfarwyddwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2024, fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.22,324
1,681
482
93.00
3. Ailbenodi Deloitte LLP yn archwilwyr tan ddiwedd y cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.23,315
831
341
96.56

Canlyniadau ethol ac ailethol Cyfarwyddwyr


Etholwyd neu ailetholwyd holl Gyfarwyddwyr y Bwrdd.

Penderfyniad
O blaid
Yn erbyn
Gwrthodwyd% o blaid
a) Ethol Maria Timon Samra
23,279
820
385
96.60
b) Ethol Garry Stran
23,359
713
413
97.04
c) Ethol Karen Maguire
23,441
647
396
97.31
d) Ailethol Jonathan Baum
23,213
851
421
96.46
e) Ailethol Debra Williams 
23,300
821
365
96.60
f) Ailethol Claire Hafner
23,344
758
384
96.86
g) Ailethol Julie-Ann Haines
23,322
795
369
96.70
h) Ailethol Iain Mansfield
23,245
829
413
96.56
i) Ailethol Simon Moore23,262
843
381
96.50
j) Ailethol Shimi Shah23,025
1,019
443
95.76

Dysgwch fwy

Cliciwch y dolenni isod am wybodaeth berthnasol am ein Bwrdd a'n gweithrediadau.

  • Cwrdd â'n Bwrdd

    Dysgwch fwy am ein Bwrdd cyfarwyddwyr a beth maen nhw'n ei wneud i'r gymdeithas.

  • Ein hadroddiadau ariannol

    Darllenwch ein hadroddiadau ariannol diweddaraf i ddeall sut rydym yn perfformio a sut rydym yn creu effaith gadarnhaol ar gymdeithas.