Rhyddhau ecwiti o'ch cartref
Yn y canllaw hwn
Beth yw ecwiti cartref?
Ecwiti cartref yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad gyfredol eich cartref a faint sy'n ddyledus ar y morgais. Er enghraifft, os yw gwerth eich cartref yn £200,000 ac mae arnoch £120,000, eich ecwiti fyddai £80,000. Gall ecwiti gynyddu dros amser, wrth i chi ad-dalu balans eich morgais bob mis ac os yw gwerth eich cartref yn tyfu.
Beth yw rhyddhau ecwiti?
Mae rhyddhau ecwiti yn eich galluogi i gael yr arian o werth eich cartref heb orfod ei werthu. Fel arfer, gwneir hyn drwy amryw gynhyrchion ariannol wedi'u dylunio ar gyfer perchenogion cartrefi dros 55 oed. Gallwch gael yr arian naill ai fel cyfandaliad, mewn nifer o daliadau llai, neu gyfuniad o'r ddau. Bydd ad-daliad fel arfer yn digwydd pan fyddwch yn marw neu'n symud i ofal hirdymor.
Beth yw'r opsiynau ar gyfer rhyddhau ecwiti?
Ceir 2 fath o ryddhau ecwiti, morgais gydol oes a dychweliad cartref.
Beth yw morgais gydol oes?
Dyma pan fyddwch yn cymryd benthyciad wedi'i ddiogelu yn erbyn eich prif gartref tra byddwch yn parhau i fod yn berchen arno. Gallwch gadw rhywfaint o werth eich eiddo ar gyfer eich teulu fel etifeddiant.
Gallwch benderfynu a ydych am wneud taliadau neu adael i'r llog gronni.
Mae'r benthyciad a'r llog yn cael eu had-dalu drwy werthu'r tŷ pan fyddwch yn marw neu'n symud i ofal hirdymor.
Beth yw dychweliad cartref?
Dychweliad cartref yw pan fyddwch yn gwerthu'ch holl gartref neu ran ohono i gwmni am gyfandaliad neu daliadau rheolaidd. Gallwch barhau i fyw yno nes y byddwch yn marw, ond rhaid i chi gynnal ac yswirio'r eiddo. Gallwch gadw cyfran o'r cartref ar gyfer etifeddiant.
Pan fyddwch yn marw neu'n symud i ofal hirdymor, caiff y cartref ei werthu a chaiff yr arian ei rhannu'n seiliedig ar gyfrannau perchenogaeth.
Rhesymau y gallech ystyried rhyddhau ecwiti
Mae rhyddhau ecwiti yn benderfyniad personol. Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o bobl yn rhyddhau ecwiti pan fydd angen swm mwy o arian arnynt. Gallai rhai rhesymau gynnwys:
- gwneud gwelliannau neu atgyweiriadau i'r cartref
- talu dyledion
- rhoi arian e.e., cronfa ar gyfer y brifysgol, blaendal ar gyfer cartref cyntaf plentyn
Pethau i'w hystyried cyn penderfynu rhyddhau ecwiti
Y costau uniongyrchol
Ystyriwch y costau ymlaen llaw dan sylw. Gallai'r rhain gynnwys ffioedd a chyfraddau llog. Gallai rhyddhau ecwiti hefyd effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd rydych yn eu cael.
Eich opsiynau amgen
Os hoffech gael gafael ar swm sylweddol o arian, dylech ystyried eich opsiynau i gyd yn ofalus. A oes unrhyw ffynonellau ariannol neu incwm arall y gallech eu defnyddio? Dylech bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un cyn i chi benderfynu.
Yr effaith hirdymor
Ystyriwch sut y gallai rhyddhau ecwiti effeithio ar eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol. Ymhlith y pethau i'w hystyried mae eich gallu i adael etifeddiant, neu gynnal eich safon byw hyd at ymddeoliad.
Sut i ryddhau ecwiti
Os hoffech drafod rhyddhau ecwiti, bydd angen i chi drafod eich opsiynau â'ch benthyciwr yn gyntaf. Bydd ei ymgynghorwyr morgais yn gallu helpu.
- Mortgages
Eisiau trafod eich opsiynau?
Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp