Prynu ail gartref
Yn y canllaw hwn
A allaf gael ail gartref?
Gallwch, gallwch brynu ail gartref a chael morgais. Pan fyddwch yn prynu ail gartref i'w rentu yn lle morgais preswyl, bydd angen i chi wneud cais am forgais Prynu i Osod.
Sut mae morgais prynu i osod yn gweithio?
Yn aml, ystyrir bod morgeisi prynu i osod yn fwy o risg i fenthycwyr. Mae hyn yn golygu:
- y gall ffioedd a chyfraddau llog fod yn uwch
- y bydd angen blaendaliad uwch (fel arfer o leiaf 25%)
- y bydd rhai morgeisi yn rhai llog yn unig
- efallai na chaiff y morgais ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Mae faint y gallwch ei fenthyca hefyd yn cael ei gyfrifo'n wahanol i forgeisi preswyl sydd fel arfer yn ôl eich incwm. Mae faint y gallwch ei fenthyca am forgais prynu i osod yn dibynnu ar yr incwm rhenti rydych yn disgwyl ei gael gan denant. Bydd y benthyciwr am i'ch incwm rhenti fod tua 25% - 30% yn uwch na'ch taliad morgais.
Gan nad yw'r morgais wedi'i reoleiddio, ni all ein Hymgynghorwyr Ariannol roi cyngor i chi ynghylch y morgais fwyaf addas.
Enghraifft o sut mae hyn yn gweithio
Mae Gill eisiau prynu tŷ i'w rentu. Mae'r tŷ yn costio £150,000. Mae ganddi flaendal o £37,500 felly mae angen morgais prynu i osod o £112,500 arni. Mae hyn yn golygu bod ei LTV yn £75%.
Mae'n bwriadu cael morgais am 20 mlynedd gyda chyfradd llog o 4.7%. Ei thaliadau morgais bob mis fyddai £724, sef cyfanswm o £8,688 y flwyddyn. Mae Gill yn disgwyl ennill £900 bob mis o rentu'r tŷ, sef cyfanswm o £10,800 y flwyddyn.
Cyfanswm ei buddsoddiad fyddai'r blaendal a thaliadau morgais y flwyddyn gyntaf:
£37,500+ £8,688 = £48,168.
Mae Gill am gyfrifo ei chynnyrch blynyddol, sef yr elw ar y buddsoddiad mewn eiddo drwy rent.
Mae'n defnyddio'r cyfrifiad isod:
Y cynnyrch blynyddol yw 7.2%, ac ystyrir bod hyn yn gynnyrch rhent gros da. Mae hyn yn ei helpu i benderfynu a fyddai werth prynu ail eiddo o safbwynt ariannol.
A oes rhaid i mi fodloni meini prawf benthyca penodol?
Yn ei hanfod, meini prawf benthyca yw rhestr o bethau y mae angen i chi eu bodloni i gael morgais gan fenthyciwr.
Er enghraifft, gofynnwn eich bod yn bodloni'r canlynol:
- rydych dros 21 oed
- yn berchen ar 3 chartref prynu i osod ar y mwyaf
- am brynu cartref gyda pherfformiad ynni o E neu'n uwch
- dim mwy na 4 o ymgeiswyr ar y morgais
- yn ystyried benthyca hyd at 75% o werth y cartref
- incwm rhenti lleiaf
A fyddaf yn talu treth stamp?
Bydd yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Yn Lloegr, byddwch yn talu 3% o dreth stamp ychwanegol ar ben y gyfradd arferol, a elwir yn ordal.
Yng Nghymru, codir Treth Trafodiadau Tir arnoch. Gallwch fynd i Llyw.Cymru i gyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu pan fyddwch yn prynu ail gartref.
A fyddaf yn talu treth?
Bydd angen i chi dalu treth ar yr elw rydych yn ei wneud ar eich morgais prynu i osod. Bydd y swm y bydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar y gyfradd dreth rydych yn ei dalu.
Treth enillion cyfalaf
Bydd angen i chi dalu canran o'ch elw rhenti mewn treth enillion cyfalaf (CGT). Os byddwch yn gwerthu'r eiddo am elw bydd angen i chi dalu CGT hefyd.
Dosbarth treth |
Treth Enillion Cyfalaf a godir arnoch ar elw |
---|---|
Talwr cyfradd treth sylfaenol |
18% o'r elw |
Trethdalwr uwch neu ychwanegol |
28% o'r elw |
Treth incwm
Bydd yr incwm a gewch o rent yn drethadwy. Mae faint o dreth a godir arnoch yn dibynnu ar eich Band Treth Incwm.
Ewch i Gov.UK i gael rhagor o wybodaeth am dalu treth.
Beth ddylwn i ei ystyried cyn prynu ail gartref i'w rentu?
Dylech ystyried a chynllunio ar gyfer y sefyllfaoedd canlynol er mwyn sicrhau y gallwch barhau â'ch ad-daliadau morgais:
- pan nad oes unrhyw rent yn dod i mewn
- os bydd angen i chi atgyweirio'r eiddo (atgyweiriadau eang neu atgyweiriadau bach)
- os yw gwerth y cartref yn lleihau ac yn werth llai na'ch cartref morgais
A allaf gael morgais prynu i osod ar gyfer cartref gwyliau?
Os ydych am brynu cartref i'w ddefnyddio fel llety gwyliau, bydd angen i chi gael morgais Llety Gwyliau. Mae hyn oherwydd bod tenantiaeth llety gwyliau naill ai'n ddiwrnodau neu'n wythnosau, tra bod Prynu i Osod ar gyfer preswyliad parhaol. Mae CThEF hefyd yn gosod rheolau penodol ar gyfer llety gwyliau sy'n wahanol i Brynu i Osod.
- Mortgages