Skip to content
Log in

Ffioedd ad-dalu cynnar

Couple drinking coffee at home living room looking on laptop

Yn y canllaw hwn

Beth yw ffi ad-dalu'n gynnar? 

Pan fyddwch yn cymryd morgais rydych yn cytuno i ad-dalu swm penodol dros gyfnod penodol bob mis. Os byddwch yn penderfynu ad-dalu'r balans llawn neu ad-dalu mwy na'r hyn a ganiateir gan y benthyciwr, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar (ERC).  

Pryd y gallai fod angen i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar?

Efallai y bydd angen i chi dalu ERC: 

  1. Os ydych yn gordalu eich morgais

    Fel arfer, gallwch ordalu hyd at 10% o falans eich morgais. Os byddwch yn dewis talu mwy na hyn, efallai y bydd angen i chi dalu ERC.

  2. Os ydych yn dewis ailforgeisio neu newid eich cytundeb yn gynnar

    Efallai y codir ffi arnoch os hoffech newid i gytundeb newydd cyn i gynnyrch eich morgais ddod i ben, o bosibl i leihau eich ad-daliadau misol.

    Os ydych am newid i fenthyciwr newydd, bydd yr ECR yn ychwanegu at y balans sy'n weddill gennych yn awtomatig. Mae gennych ddewis i ddefnyddio'ch arian eich hun i dalu hyn neu gallwch ei ychwanegu ar y balans pan fyddwch yn trosglwyddo i ddarparwr arall.

    Os ydych am newid eich cytundeb cyn eich cyfle i adnewyddu ond gyda'r un darparwr, mae'n rhaid i chi dalu'r ERC gyda'ch arian eich hun.

  3. Os byddwch yn gwerthu eich cartref

    P'un a ydych yn penderfynu symud cartref neu werthu eich eiddo, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ERC i ddod â'ch cytundeb i ben yn gynnar.

  4. Os ydych am drosglwyddo morgais

    Os hoffech drosglwyddo'ch morgais ond bod eich amgylchiadau wedi newid, efallai y bydd y benthyciwr yn gwrthod eich cais. Efallai y byddwch wedyn am ddod â'ch morgais i ben yn gynnar a thalu unrhyw ffioedd cyn mynd at fenthyciwr arall.

 

Stori Amir

Mae Amir yn berchen ar fflat â dwy ystafell wely. Cafodd gyfandaliad o £50,000 gan ei deulu. Mae am ei roi tuag at ei forgais. Swm y morgais sy'n ddyledus yw £250,000. Gall gordalu hyd at 10% o falans ei forgais bob blwyddyn, sy'n golygu y gall ad-dalu £25,000 am ddim. 
 

Fodd bynnag, rhaid iddo dalu ffi ERC am unrhyw beth dros 10% . Yn yr achos hwn, y swm yw £25,000.   
 

Ei ffi ad-dalu'n gynnar fyddai 5% o'r £25,000 ychwanegol hwnnw, sef £1,250. 
 

Mae hyn yn golygu y byddai'n ad-dalu £48,750 ac yn talu £1,250 fel ffi. Byddai balans ei forgais yn gostwng i £201,250. 

Faint yw ffi ad-dalu cynnar? 

Bydd faint y bydd angen i chi ei ad-dalu'n wahanol yn dibynnu ar gynnyrch a benthyciwr eich morgais. Fel arfer, gallwch ddisgwyl talu rhwng 1 a 5% o'r balans sy'n ddyledus gennych os byddwch yn ad-dalu'n llawn. Os hoffech dalu dros eich lwfans, sef tua 10% fel arfer, byddai rhwng 1 – 5% o'r swm ychwanegol rydych am ei dalu yn cael ei godi arnoch. 
 

Gallwch ganfod faint yw eich ERC ar gyfer eich morgais gyda Principality drwy ddarllen dogfennau eich morgais, gwirio eich proffil ar-lein, neu ffonio aelod o'r tîm morgeisi.  

Camau nesaf

Os hoffech drafod eich opsiynau neu ofyn am dystysgrif adbrynu cysylltwch â ni.