Skip to content
Log in

Canllaw i fenthyca mwy o arian

Couple unpacking. One man holds a glove and the other has his hand on partner's arm.

Yn y canllaw hwn

Beth rydym yn ei olygu wrth fenthyca mwy?

Benthyca mwy yw pan fyddwch yn gofyn i'ch benthyciwr am fwy o arian. Wrth fenthyca mwy oddi wrth Principality gallwch naill ai ailforgeisio neu gynyddu'r swm sy'n ddyledus gennych ar eich morgais cyfredol.  
 

Efallai yr hoffech fenthyca mwy o arian ar gyfer pethau fel: 

  • gwella'r cartref
  • atgyweiriadau brys yn y cartref
  • cyfuno dyled
  • talu am nod neu ddigwyddiad bywyd

Pethau i'w gwybod 

Ni all faint yr hoffech ei fenthyca a faint sy'n ddyledus gennych ar eich morgais cyfredol fod yn fwy na throthwy penodedig y gymhareb rhwng benthyciad a gwerth (LTV).

  • Mae trothwyon 90% LTV ar gyfer eiddo preswyl neu 75% LTV ar gyfer eiddo prynu i osod neu lety gwyliau. 
  • Byddai'r swm ychwanegol y byddwch yn ei fenthyca yn ddyledus yn erbyn eich cartref.
  • Y cyfnod lleiaf yw 2 flynedd a'r cyfnod mwyaf yw 40 mlynedd.
  • Rhaid i chi aros 3 mis ar ôl cymryd morgais gyda ni i wneud cais i fenthyca mwy.
  • Rhaid i chi fod wedi talu'ch ad-daliadau morgais diweddaraf.  
  • Rhaid i chi ddangos hanes o fod yn ddibynadwy gydag ad-daliadau.  
  • Rhaid i chi fodloni ein gofynion benthyca. 
  • Codir ffi arnoch. 

Y gymhareb rhwng benthyciadau a gwerth yw'r ganran rydych yn ei benthyca fel benthyciad i gyfanswm gwerth eich eiddo. 

Pethau i'w hystyried

Dylech bob amser ystyried ceisio cyngor ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniad mawr am eich morgais.  

Y pethau eraill efallai yr hoffech eu hystyried cyn benthyca mwy yw:

  • A fyddai'r ad-daliadau misol ychwanegol yn fforddiadwy? 
  • Faint o ecwiti (arian) sydd yn eich cartref ar hyn o bryd? A yw'r swm rydych am ei fenthyca yn fwy neu'n llai na'r swm hwn? 
  • Os bydd cyfraddau llog yn cynyddu unwaith y daw eich cyfnod sefydlog i ben, a allech ymdopi â chynnydd ychwanegol yn eich ad-daliadau? 

Enghraifft o fenthyca mwy

Enghraifft 1:

Dywedwch eich bod wedi cymryd morgais am gyfnod penodol gwerth £300,000 ar 5.6% am 25 mlynedd. Dros y blynyddoedd bydd eich ecwiti wedi tyfu i £70,000. Mae hyn yn golygu bod £230,000 yn ddyledus gennych. 
 

Rydych am wella'ch cartref ac mae angen £100,000 arnoch. Rydych wedi prisio eich cartref ac rydych yn gwybod ei fod yn werth £420,000.  
 

Mae hyn yn golygu os byddech yn benthyca £100,000 ychwanegol, byddai arnoch £330,000 i'r benthyciwr.  
 

Gan fod eich eiddo yn werth £420,000 ni fyddech mewn ecwiti negyddol drwy fenthyca mwy. 
 

Os byddech yn benthyca mwy am 23 mlynedd ar yr un gyfradd llog, byddai eich taliadau misol yn cynyddu o £1427 i £2130. 
 

Mae hyn yn gynnydd o £703 bob mis. 
 

*Mae hefyd yn bwysig cofio y gall eich taliadau morgais godi a gostwng pan fyddwch yn ailforgeisio yn y dyfodol, felly dylech ystyried a allech fforddio benthyca mwy yn y tymor hir a'r tymor byr.* 

 

Enghraifft 2:

Dywedwch eich bod wedi cymryd morgais gwerth £300,000 10 mlynedd yn ôl.   
 

Drwy wneud eich ad-daliadau misol dros y blynyddoedd, rydych wedi lleihau'r swm sy'n ddyledus gennych i  £236,000, ac rydych wedi cael ailbrisiad o'ch eiddo yn ddiweddar; mae'n werth £420,000 erbyn hyn.   
 

Dychmygwch eich bod am wneud rhai gwelliannau sylweddol i'ch cartref. Hoffech fenthyca £100,000 ychwanegol i wneud rhai adnewyddiadau.  
 

Os gwnaethoch fenthyca £100,000 ychwanegol, byddai arnoch £336,000 i'r benthyciwr yn erbyn eiddo gwerth £420,000. Byddai gennych LTV o 80% a 20% ecwiti
 

*Mae hefyd yn bwysig cofio y gall eich taliadau morgais godi a gostwng pan fyddwch yn ailforgeisio yn y dyfodol, felly dylech ystyried a allech fforddio benthyca mwy yn y tymor hir a'r tymor byr.* 

Borrowing more increases interest over the mortgage term, raises monthly payments, and poses a larger financial risk.

Mae hefyd yn bwysig cofio y gall eich taliadau morgais godi a gostwng oherwydd newidiadau i gyfraddau llog yn y dyfodol, felly dylech ystyried a allech fforddio benthyca mwy yn y tymor hir yn ogystal â'r tymor byr.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich ad-daliadau, mae perygl y bydd y benthyciwr yn adfeddu eich cartref.


Ecwiti: Yn syml, didynnwch balans eich morgais sy'n weddill o werth eich eiddo. Eich ecwiti yw faint sydd ar ôl.
 

Ecwiti negyddol: Os oes arnoch fwy ar eich morgais na gwerth eich cartref, rydych mewn ecwiti negyddol.

Faint yn fwy allwn i ei fenthyca? 

Mae'r swm ychwanegol y gallech ei fenthyca yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
 

Efallai yr hoffech siarad ag ymgynghorydd morgeisi i gyfrifo faint yn fwy y gallech fforddio ei fenthyca.
 

Rydym bob amser yn argymell ceisio cyngor ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad ariannol.

A collective of 3 illustrated sparkle highlights together. (welsh)

Benthyca Ychwanegol

Edrychwch ar eich dewisiadau ar gyfer benthyca mwy ar eich morgais Principality presennol.