Cytundeb mewn Egwyddor ar gyfer Morgais
Yn y canllaw hwn
Pam mae'n bwysig?
Gall cael Cytundeb mewn Egwyddor ar gyfer Morgais cyn i chi ddechrau edrych ar dai eich helpu i gael eich morgais.
Beth yw Cytundeb mewn Egwyddor ar gyfer Morgais?
Cytundeb mewn Egwyddor ar gyfer Morgais yw dogfen sy'n dangos faint y gallech ei fenthyg ar gyfer morgais. Efallai y bydd gwerthwyr a benthycwyr ofyn am un i brofi y gallwch fforddio'r eiddo.
Dyma rai enwau eraill ar Gytundeb mewn Egwyddor:
- Cytundeb mewn Egwyddor (AIP)
- Penderfyniad "o ran egwyddor"
- Morgais mewn Egwyddor
- Addewid morgais
Pam mae angen un arnaf?
Nid yw cytundeb mewn egwyddor ar gyfer morgais yn gwarantu y byddwch yn cael eich derbyn ar gyfer morgais, ond gall eich helpu i ddeall faint y gallech ei fenthyg. Mae cael un hefyd yn helpu'r gwerthwyr a'r benthycwyr i weld eich bod yn brynwr 'o ddifrif', a gall helpu i hwyluso'r broses o wneud cais ar gyfer morgais.
Yn ogystal â hyn, bydd gwerthwyr eiddo yn deall eich cyllideb yn iawn, felly gallwch weld eiddo mewn ystod pris realistig.
Stori Lisa a Paul
Mae Lisa a Paul yn brynwyr tro cyntaf gyda dau o blant. Mae Lisa yn ennill £25,000, ac mae Paul yn ennill £23,000. Maent wedi gweld cartref y maent yn ei hoffi am £210,000 ac yn mynd i'w weld ddydd Sadwrn.
Maent wedi siarad â Kate, un o Ymgynghorwyr Morgais Principality. Gyda chymorth Kate, maent wedi cyfrifo y gallant fenthyg hyd at £215,000, gyda'u blaendal o £15,000 ar ben hynny. Maent wedi defnyddio'r wybodaeth hon i gael Cytundeb mewn Egwyddor ar gyfer Morgais am £218,000.
Pan fyddant yn ymweld â'r eiddo, byddant yn dangos y gwerthwr eiddo Cytundeb mewn Egwyddor ar gyfer Morgais o Principality. Bydd yn dangos y byddai'r gymdeithas adeiladu yn fodlon cynnig morgais o £218,000 iddynt dros 25 mlynedd. Gallant hefyd darparu copi o'u ISA (Cyfrif Cynilo Unigol) Principality sydd â £15,000 o gynilion ynddo. Byddai'r ddwy ddogfen hyn yn dangos i'r gwerthwr eiddo y gallant symud ymlaen â phrynu'r eiddo. Mae hefyd yn golygu, pe baent yn cystadlu â chynigion eraill ar gyfer yr eiddo, eu bod yn gwybod yr uchafswm y gallant ei fforddio.
Os derbynnir eu cynnig, gallant ymweld â Kate yn Principality unwaith eto, a all symud eu morgais ymlaen yn seiliedig ar y swm y cytunwyd arno rhwng y prynwr a'r gwerthwr.
- Getting started
Amser i drafod morgeisi?
Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi 0330 333 4002.
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp.