Costau ychwanegol y dylai prynwyr tro cyntaf gynilo ar eu cyfer
Yn y canllaw hwn
Costau ychwanegol y dylai prynwyr tro cyntaf gynilo ar eu cyfer
Os ydych yn bwriadu prynu eich cartref cyntaf, mae'n bosibl y byddwch eisoes yn gwybod bod angen i chi wneud y canlynol
- cynilo ar gyfer blaendal ac
- ymrwymo i ad-daliadau morgais bob mis
Ond mae costau eraill i baratoi ar eu cyfer hefyd. Gadewch i ni ddadansoddi'n union beth i gynilo ar ei gyfer.
Treth Dir y Dreth Stamp
Cyfeirir ato'n gyffredin fel Treth Stamp, ac fe'i gelwir yn bethau gwahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Yng Nghymru, fe'i gelwir yn 'Treth Trafodiadau Tir', yn Lloegr, fe'i gelwir yn 'Treth Dir y Dreth Stamp' (SDLT), ac yn yr Alban fe'i gelwir yn ‘Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau’.
Dim ond os yw cost yr eiddo rydych chi'n ei brynu dros swm penodol y bydd angen i chi ei dalu – mae'r rheolau a'r symiau'n amrywio ledled y DU.
Ffioedd cyfreithiol
Y ffioedd rydych yn eu talu i cyfreithiwr neu drawsgludwr am ymdrin â'r holl gyfreithlondebau, fel llunio contractau, cynnal chwiliadau lleol a chofrestru'r eiddo.
Bydd y swm rydych yn ei dalu yn amrywio yn dibynnu ar leoliad a chost yr eiddo.
Arolwg Tai
Bydd eich benthyciwr morgais yn cynnal prisiad i sicrhau bod yr eiddo y mae'n rhoi benthyg arian i chi ar ei gyfer yn werth yr hyn rydych yn bwriadu talu amdano.
Mae'n bwysig gwybod nad arolwg yw prisiad morgais. Er bod prisiad er budd y benthyciwr, gall arolwg roi gwybodaeth ychwanegol i chi am gyflwr yr eiddo gan weithiwr proffesiynol. Os bydd unrhyw broblem, gallwch bob amser fynd yn ôl at y gwerthiwr eiddo ac aildrafod eich cynnig.
Ceir tri phrif fath i ddewis ohonynt:
- adroddiad i bobl sy'n prynu tai
- arolwg strwythurol llawn
- arolwg o fân broblemau
Maent yn amrywio o ran cwmpas a chost, yn dibynnu ar faint, lleoliad a gwerth eich eiddo, felly bydd angen i chi bwyso a mesur eich opsiynau i gyd a phenderfynu beth sydd orau ar gyfer eich sefyllfa.
Ydych chi'n prynu yn yr Alban? Mae pethau ychydig yn wahanol i chi, gan fod yn rhaid i'r gwerthwr ddarparu Adroddiad o'r Cartref i chi ond efallai yr hoffech ystyried talu am eich arolwg eich hun hefyd i roi tawelwch meddwl i chi.
Chwiliadau lleol
Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cynnal chwiliadau i wirio pethau fel:
- a yw'r eiddo wedi'i chysylltu â charthffosydd
- a yw'r tir y mae wedi'i adeiladu arno yn halogedig
- a oes unrhyw beth y mae angen i chi ei wybod amdano (fel cynlluniau ffyrdd cyfagos neu gamau gorfodi).
Cofrestru tir ac eiddo
Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cofrestru'ch manylion â'r Gofrestrfa Tir er mwyn cofrestru eich perchenogaeth o'r tŷ. Mae'r gost yn dibynnu ar faint yw gwerth yr eiddo.
Ymdrinnir â thir ac eiddo gan Gofrestrfa Tir EF yng Nghymru a Lloegr, Cofrestrau'r Alban yn yr Alban, a Gwasanaethau Tir ac Eiddo yng Ngogledd Iwerddon.
Costau morgais
Gallwch ddisgwyl talu rhai ffioedd ychwanegol i'ch benthyciwr ar ben eich ad-daliadau morgais. Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel ffi archebu, ffi trefnu, ffi prisiad, a ffi trosglwyddiad electronig. Mae costau'n amrywio rhwng benthycwyr.
Costau symud
Bydd y gost o symud o un cartref i un newydd yn amrywio yn dibynnu a allwch wneud y rhan fwyaf o'r gwaith eich hun neu a ydych yn bwriadu hurio fan neu gwmni symud.
Wedi'ch llethu?
Gall hyn deimlo fel llawer i feddwl amdano. Cadwch drefn ar y cyfan gyda'r ap am ddim i brynwyr tro cyntaf. Gallwch greu nod cynilo i dalu'r holl gostau hyn a chadw reolaeth ar eich cynilion.
- Saving your deposit
Gall prynu eich cartref cyntaf deimlo'n llethol
Mae ein ap am ddim wedi ei gynllunio i'ch tywys drwy'r broses o brynu cartref cyntaf. Dilynwch y camau i ddeall y jargon a gwybod beth i'w wneud a phryd i baratoi ar gyfer morgais.