Skip to content

Prynu eiddo i'w rentu: yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Couple admiring the view from the living room of their house.

Yn y canllaw hwn

A oes angen morgais prynu i osod arnaf?

Pan fyddwch yn prynu ail gartref i'w rentu, bydd angen i chi wneud cais am forgais prynu i osod. Mae morgeisi prynu i osod yn cyflwyno mwy o risg i fenthycwyr, sy'n golygu:

  • Gall benthycwyr godi ffioedd a chyfraddau llog uwch. 
  • Fel arfer, bydd angen i chi dalu blaendal uwch (fel arfer o leiaf 25%). 
  • Mae rhai benthycwyr yn cynnig morgeisi llog yn unig.  
  • Efallai na chaiff y morgais ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Mae faint y gallwch ei fenthyca hefyd yn cael ei gyfrifo'n wahanol i forgeisi preswyl - sydd fel arfer yn seiliedig ar eich incwm. Mae faint y gallwch ei fenthyca am forgais prynu i osod yn dibynnu ar yr incwm rhenti rydych yn disgwyl ei gael gan denant. Bydd y benthyciwr am i'ch incwm rhenti fod tua 25% - 30% yn uwch na'ch taliad morgais. 

Gan na chaiff y morgais ei reoleiddio, ni all ein hymgynghorwyr morgais roi cyngor ar y morgais mwyaf addas.

Sut mae morgais prynu i osod yn gweithio? 

Mae Gill eisiau prynu tŷ i'w rentu. Mae'r tŷ yn costio £150,000. Mae ganddi flaendal o £37,500 felly mae angen morgais prynu i osod o £112,500 arni. Mae hyn yn golygu bod ei LTV yn £75%. 

Mae'n bwriadu cael morgais am 20 mlynedd gyda chyfradd llog o 4.70%. Ei thaliadau morgais bob mis fyddai £724, sef cyfanswm o £8,688 y flwyddyn. Mae Gill yn disgwyl ennill £900 bob mis o rentu'r tŷ, sef cyfanswm o £10,800 y flwyddyn. 

Cyfanswm ei buddsoddiad fyddai'r blaendal a thaliadau morgais y flwyddyn gyntaf: 
£37,500+ £8,688 = £48,168. 
 
Mae Gill am gyfrifo ei chynnyrch blynyddol - sef yr elw ar y buddsoddiad mewn eiddo drwy rent. 
 
Mae'n defnyddio'r cyfrifiad isod: 

Annual rental income + total investment (10,800 - £150,000) x 100 = 7.2% annual yield


Y cynnyrch blynyddol yw 7.2%, ac ystyrir bod hyn yn gynnyrch rhent gros da. Mae hyn yn ei helpu i benderfynu a fyddai werth prynu ail eiddo o safbwynt ariannol.

A oes rhaid i mi fodloni meini prawf benthyca penodol? 

Meini prawf benthyca yw'r gofynion y mae angen i chi eu bodloni i gael morgais gan fenthyciwr.
 

Er enghraifft, gofynnwn eich bod:

  • Dros 21 oed
  • Yn berchen ar 3 chartref prynu i osod ar y mwyaf
  • Am brynu cartref gyda pherfformiad ynni o E neu'n uwch
  • Yn sicrhau bod dim mwy na 4 o ymgeiswyr ar y morgais
  • Yn ystyried benthyca hyd at 75% o werth y cartref
  • Yn sicrhau bod gennych incwm rhenti lleiaf

A fyddaf yn talu treth stamp? 

Mae p'un a ydych chi'n talu treth stamp ai peidio yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Yn Lloegr, byddwch yn talu 3% o dreth stamp ychwanegol ar ben y gyfradd arferol, a elwir yn ordal. 

Yng Nghymru, codir Treth Trafodiadau Tir arnoch. Gallwch fynd i Llyw.Cymru i gyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu pan fyddwch yn prynu ail gartref.  

A fyddaf yn talu treth? 

Bydd angen i chi dalu treth ar yr elw rydych yn ei wneud ar eich morgais prynu i osod. Bydd y swm y bydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar y gyfradd dreth rydych yn ei dalu.

 

Treth enillion cyfalaf

Bydd angen i chi dalu canran o'ch elw rhenti mewn treth enillion cyfalaf (CGT). Os byddwch yn gwerthu'r eiddo am elw, bydd angen i chi dalu CGT hefyd. 

Dosbarth treth

Treth Enillion Cyfalaf a godir arnoch ar elw

Talwr cyfradd treth sylfaenol

18% o'r elw

Trethdalwr uwch neu ychwanegol

28% o'r elw

Treth incwm

Bydd yr incwm a gewch o rent yn drethadwy. Mae faint o dreth a godir arnoch yn dibynnu ar eich Band Treth Incwm. 
 

Ewch i Gov.UK i gael rhagor o wybodaeth am dalu treth. 

Beth ddylwn i ei ystyried cyn cael morgais prynu i osod? 

Cyn prynu eiddo i'w rentu, dylech ddeall yn llawn eich cyfrifoldebau fel landlord. Gwefannau'r Llywodraeth yw'r mannau gorau i ymgyfarwyddo â phethau.

O ran eich sefyllfa ariannol, mae'n bwysig cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd a allai effeithio ar eich gallu i fforddio taliadau morgais. Pethau fel: 

  • Cyfnodau pan nad oes unrhyw rent yn dod i mewn.
  • Costau cynnal a chadw neu atgyweirio'r eiddo.
  • Os yw gwerth y cartref yn gostwng, sy'n olygu ei fod yn werth llai na'ch morgais.

A allaf gael morgais prynu i osod ar gyfer cartref gwyliau?

Os ydych am brynu cartref i'w ddefnyddio fel llety gwyliau, bydd angen i chi gael morgais llety gwyliau. Mae hyn oherwydd bod tenantiaeth llety gwyliau naill ai'n ddiwrnodau neu'n wythnosau, tra bod prynu i osod ar gyfer preswyliad parhaol. Mae CThEF hefyd yn gosod rheolau penodol ar gyfer llety gwyliau sy'n wahanol i Brynu i Osod.

An illustrated arrow, facing right and within a circle. (Welsh)

Camau Nesaf

Dysgwch fwy am ein morgeisi prynu i osod a morgeisi llety gwyliau