Egluro LTV: faint y gallwch ei fenthyg i brynu cartref?
Yn y canllaw hwn
Beth yw LTV?
Mae ‘LTV’ yn golygu'r gymhareb rhwng benthyciad a gwerth. Mae'n ganran y mae benthycwyr yn ei defnyddio i ddisgrifio faint o gyfanswm gwerth eiddo sy'n cael ei fenthyca fel morgais. Er enghraifft, os ydych chi'n prynu cartref gwerth £250,000 ac yn benthyca £225,000, eich LTV yw 90%. Y £25,000 (10%) sy'n weddill yw eich blaendal.
Yn gyffredinol, po isaf yw eich LTV, y gorau yw'r cyfraddau morgais y byddwch yn debygol o gael eu cynnig. Dyna pam y gall arbed blaendal mwy dalu ar ei ganfed.
Sut mae LTV yn gweithio?
Po fwyaf y byddwch chi'n ei roi ymlaen llaw, y lleiaf y bydd angen i chi ei fenthyca. Felly gall eich blaendal leihau eich LTV. Po fwyaf yw eich blaendal, yr isaf fydd eich LTV.
Pris yr eiddo | Blaendal | Morgais | LTV |
---|---|---|---|
£250,000 | £25,000 (10%) | £225,000 | 90% |
£250,000 | £31,250 (12.5%) | £218,750 | 87.5% |
£250,000 | £37,500 (15%) | £212,500 | 85% |
Faint y dylech ei gynilo ar gyfer blaendal?
Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am flaendal sydd o leiaf 10% er mwyn gallu cal morgais. Fodd bynnag, mae rhai cynlluniau a benthycwyr yn derbyn blaendaliadau is, yn enwedig ar gyfer prynwyr tro cyntaf.
Wedi dweud hynny, gall cynilo blaendal mwy fod o'ch plaid. Gyda LTV is efallai y byddwch:
- Yn fwy tebygol o gael eich cymeradwyo ar gyfer morgais.
-
Cael mynediad at gytundebau gyda chyfraddau llog is.
-
Talu llai yn gyffredinol dros oes eich morgais.
Os gallwch gynilo blaendal sy'n fwy na 10% o werth yr eiddo, byddai eich LTV yn is. A gallai hyn eich helpu i gael mynediad at gytundebau morgais gwell. Gallwch ostwng eich LTV drwy wneud y canlynol:
- Cynilo blaendal mwy
- Dewis eiddo rhatach
Pam mae LTV yn bwysig pan fyddwch yn ailforgeisio
Nid yw LTV yn effeithio ar eich morgais cyntaf yn unig. Mae hefyd yn allweddol pan fyddwch yn ailforgeisio yn ddiweddarach. Yn y dyfodol, bydd eich LTV yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar werth eich eiddo ar yr adeg y byddwch yn ailforgeisio.
- Os bydd gwerth eich cartref yn cynyddu, bydd eich LTV yn gostwng. Gall hyn eich helpu i gael cytundebau morgais gwell o bosibl.
- Os bydd gwerth eich cartref yn gostwng, bydd eich LTV yn codi. Mewn rhai achosion efallai y byddwch yn syrthio i ecwiti negyddol (lle rydych yn ddyledus mwy na gwerth eich cartref).
Gall cadw llygad ar eich LTV dros amser eich helpu i wneud penderfyniadau morgais call yn ddiweddarach.
- Dechrau arni
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.