Sut i ddewis cyfrif cynilo
Yn y canllaw hwn
Cyfrif Cynilo neu ISA?
Felly, rydych am ddechrau cynilo, ac mae angen i chi ddewis math o gyfrif cynilo.
Cyn i chi benderfynu pa un sy'n briodol i chi, efallai yr hoffech ystyried rhai pethau.
Mae cyfrif cynilo a Chyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn cynnig nifer o fuddion. Fodd bynnag, gallai un fod yn fwy addas ar gyfer eich amgylchiadau na'r llall. Efallai yr hoffech gymharu'r gwahaniaethau cyn dewis. Rydym wedi crynhoi rhai o'r gwahaniaethau yma:
Cyfrif Cynilo |
ISAs |
---|---|
Efallai y byddwch yn talu treth ar eich llog, yn dibynnu ar y swm o log a enillir a'ch enillion. |
Mae unrhyw log a enillir ar ISA yn ddi-dreth*. |
Mae gan wahanol gynilion wahanol derfynau ar faint y gellir ei gynilo ynddynt. |
Cynilwch hyd at £20,000 yn y flwyddyn dreth bresennol. Mae rhai ISAs yn caniatáu trosglwyddiadau o lwfansau ISA mewn blynyddoedd blaenorol hefyd. |
Gallwch ddewis rhwng: |
Gallwch ddewis rhwng
|
Gallwch agor nifer o gyfrifon cynilo, ond bydd rhai ond yn caniatáu i chi agor un cyfrif. |
Gallwch gynilo mewn nifer o ISAs o'r un math ym mhob blwyddyn dreth (heblaw ISAs gydol oes). Fodd bynnag, efallai y bydd rhai darparwyr ond yn caniatáu i chi gynilo mewn un ISA arian parod gyda nhw. |
Am ba hyd yr hoffech gynilo?
Bydd meddwl am ba hyd yr hoffech gynilo yn helpu chi i benderfynu pa gyfrif sydd fwyaf addas.
A oes angen i chi gael mynediad i'ch arian?
Nid yw rhai cyfrifon cynilo yn eich caniatáu i godi arian ohonynt, neu efallai y byddant yn cyfyngu ar sawl gwaith y gallwch godi arian o'ch cyfrif. Efallai yr hoffech ystyried a hoffech gael mynediad i'ch cynilion cyn penderfynu ar ba gyfrif i'w agor.
Beth yw'r gyfradd llog?
Y gyfradd llog yw'r swm rydych yn ei ennill o'ch cynilion ac yn dibynnu ar y cyfrif rydych yn ei ddewis, gellid talu hyn yn fisol, yn flynyddol neu ar ddiwedd y cyfnod. Gan y gall amrywio, efallai yr hoffech ymchwilio i ba opsiwn sy'n diwallu'ch anghenion.
Adlog
A fydd angen i chi dalu treth?
Mae unrhyw log a enillir ar ISA yn ddi-dreth*. Fodd bynnag, os oes gennych gyfrif cynilo nad yw'n ISA, efallai y bydd angen i chi dalu treth ar y llog rydych yn ei ennill. Mae Llywodraeth y DU yn gosod lwfansau ar gyfer pob blwyddyn ariannol a fydd yn penderfynu a oes angen i chi dalu treth. Mae hyn yn seiliedig ar faint o log rydych yn ei ennill a'ch incwm.
Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.
*Mae di-dreth yn golygu nad yw'r llog rydych yn ei ennill yn destun Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae'r ffordd yr ymdrinnir â threth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.
- Everyday finance
Gweld yr holl gyfrifon cynilo
Barod i ddechrau cynilo? Cymharwch ein dewis o gyfrifon cynilo a dechrau'r broses o wneud cais.