Skip to content

Siarter Menywod mewn Cyllid

Yn 2016, gwnaethom ymuno â'r Siarter Menywod mewn Cyllid ac rydym wedi ymrwymo i wella presenoldeb pob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein swyddi arwain uwch. Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Julie-Ann Haines, a gweddill ein tîm Gweithredol yn allweddol wrth ddangos esiampl a noddi menywod mewn swyddi arwain o'r brig i lawr, sef un o'n hymrwymiadau allweddol fel llofnodwyr. 

Yn wreiddiol, gwnaethom osod targed o 33% o fenywod mewn swyddi uwch erbyn 2021 a gwnaethom gynnydd da tuag at gyflawni'r targed hwn. Un o'n nodau strategol yw bod yn rhan o "Gymdeithas decach", gydag amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n ffyrdd o weithio yma yn Principality. Mae'r Siarter Menywod mewn Cyllid yn hanfodol wrth roi pwyslais a mesur ein cynnydd. Gyda hynny mewn golwg, penderfynwyd y byddem yn ymestyn ein nod a rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais a brwdfrydedd wrth gyflawni'r hyn rydyn ni'n credu'n gryf yw'r peth iawn i'w wneud. O ganlyniad, rydym wedi ymestyn ein targed i fod ag o leiaf 40% o fenywod mewn rolau uwch, gydag ymrwymiad pellach i isafswm o 40% o'r naill ryw neu'r llall erbyn 2030.

Pan wnaethom lofnodi'r Siarter ym mis Gorffennaf 2016, roedd gennym 23% o gynrychiolaeth o fenywod. Ym mis Medi 2025, roedd gennym 49.09% o gynrychiolaeth o fenywod mewn uwch swyddi arweinyddiaeth sy'n cyflawni ein targed ar gyfer 2030 o flaen yr amserlen. Rydym yn cydnabod bod gennym waith i'w wneud o hyd, i gynnal y ganran hon, i sicrhau bod hyn yn dod yn fwy croestoriadol, ac yn cael ei ddosbarthu ar draws gwahanol raddau ein huwch arweinwyr. Byddwn yn parhau i adolygu ac esblygu'r camau rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith ac rydym yn hyderus y byddwn yn eu cyflawni.


2025 ymlaen


Rydym wedi cymryd nifer o gamau gweithredu, sy'n cynnwys ehangu cyrhaeddiad ein ceisiadau i ddenu'r dalent orau sydd ar gael, gwella ein Polisi Absenoldeb Rhieni â Thâl, a cheisio cymorth datblygiadol allanol arbenigol i'n cydweithwyr. Mae'r camau hyn yn rhan o'n strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ehangach a gynlluniwyd ac a gymerwyd i gyflymu a gwella ein pwyslais ar dangynrychiolaeth ym mhob rhan o’n sefydliad. Rydym yn hyderus y byddant yn cyfrannu at barhau i wella ein Hadroddiadau Menywod mewn Cyllid dros y blynyddoedd nesaf. Rydym yn datblygu ein rhwydweithiau allanol i ddysgu gan eraill, a rhannu arferion gorau. Mae ein cynnydd o ran dod yn lle mwy cynhwysol i weithio yn dechrau cael ei gydnabod, a byddwn yn parhau i ymdrechu tuag at ein huchelgais o gael effaith y tu hwnt i'n graddfa.   

 


Ewch i'n hadroddiad bwlch cyflog rhywedd