Ailforgeisio'ch cartref
Yn y canllaw hwn
Pryd i ystyried ailforgeisio?
Ailforgeisio yw newid eich morgais i fenthyciwr gwahanol. Gallwch ailforgeisio unrhyw bryd, ond efallai y bydd angen i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar os byddwch yn ailforgeisio cyn i gyfnod eich cynnyrch ddod i ben.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis newid eu morgais ychydig cyn i'w cytundeb morgais ddod i ben, er mwyn osgoi cael eu symud i Gyfradd Amrywiadwy Safonol (SVR) y benthyciwr. Yn gyffredinol, mae gan forgeisi SVR gyfradd llog uwch, gyda'r ad-daliadau misol yn fwy tebygol o newid.
Efallai y byddwch yn dewis ailforgeisio os yw gwerth eich tŷ wedi cynyddu a'ch bod eisiau symud i forgais â benthyciad i werth (LTV) is. Mae morgeisi ag LTV is fel arfer yn dueddol o gynnig cyfraddau llog is.
Oshoffech newid y math o forgais, efallai y byddwch hefyd yn ystyried newid, er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu rhentu'ch cartref ac ailforgeisio o gynnyrch preswyl i gynnyrch prynu i osod.
Efallai y byddwch am aros cyn ailforgeisio os oes arnoch fwy ar eich morgais na gwerth yr eiddo (gelwir hyn yn ecwiti negyddol).
Sut i ailforgeisio
Os ydych yn ystyried ailforgeisio, gall ymgynghorydd neu frocer morgeisi eich helpu i benderfynu pa opsiwn a allai fod yn briodol i chi.
Cyn i chi ailforgeisio, bydd angen i chi hefyd wybod:
Gwerth eich cartref
Mae'n bosibl bod gwerth eich cartref wedi newid ers i chi gymryd morgais y tro cyntaf. Mae hyn yn effeithio ar y gymareb rhwng benthyciad a gwerth (LTV), a gall ddylanwadu ar ba gynhyrchion morgais sydd ar gael i chi.
Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch gael syniad o werth eich cartref gan ddefnyddio ein Mynegai Prisiau Tai Cymru
Balans eich morgais
Gallwch ofyn i'ch benthyciwr am ddatganiad adbryniant i ganfod faint sy'n weddill ar eich morgais.
Ffioedd a thaliadau
Ffioedd prisio
Mae'n bosibl y bydd angen i chi dalu i gael prisiad o'ch cartref. Cadarnhewch gyda'ch benthyciwr a yw'n cynnig y gwasanaeth hwn - ac a yw am ddim neu a oes rhaid talu ffi.
Ffioedd cyfreithiol
Er mwyn cwblhau chwiliadau a throsglwyddo arian morgais o un benthyciwr i fenthyciwr arall, bydd angen cymorth cyfreithiol arnoch. Efallai y codir tâl arnoch am y gwasanaeth hwn, neu efallai y caiff ei gynnig am ddim gan fenthyciwr.
Os byddwch yn ailforgeisio gyda Chymdeithas Adeiladu Principality
Os byddwch yn penderfynu ailforgeisio gyda ni, mae'n bosibl y codir ffi cynnyrch arnoch, yn dibynnu ar y cynnyrch rydych yn ei ddewis.
Efallai y bydd angen i chi hefyd gadarnhau gyda'ch benthyciwr a fydd angen i chi dalu unrhyw un o'r canlynol:
- Ffioedd ad-dalu'n gynnar
- Ffioedd ymadael neu adbryniant
Os byddwch yn symud o Gymdeithas Adeiladu Principality i fenthyciwr newydd
Os byddwch yn dewis symud i fenthyciwr newydd cyn i gyfnod eich morgais ddod i ben, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar (ERC). Mae hyn fel arfer rhwng 1% a 5% o falans eich morgais sy'n weddill.
Er mwyn osgoi talu ERC bydd angen i chi aros tan ddiwedd cyfnod eich cynnyrch cyn i chi newid. Sicrhewch eich bod yn dweud wrth y darparwr newydd a'r cyfreithwyr yn ystod y broses o wneud cais eich bod am newid ar ôl i'ch cyfnod cyfredol ddod i ben. Er enghraifft, os yw'ch cynnyrch morgais yn dod i ben ar 31 Ionawr, dylech symud i'r darparwr newydd o 1 Chwefror ymlaen.
- Morgeisi
Amser i drafod ailforgeisio?
Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp