Eich canllaw i gael Penderfyniad o ran Egwyddor
Yn y canllaw hwn
Beth yw Penderfyniad o ran Egwyddor?
Gall cael Penderfyniad o ran Egwyddor cyn i chi ddechrau edrych ar dai eich helpu i weithredu'n gynt, ymddangos fel eich bod o ddifrif i werthwyr, a symud yn ddidrafferth drwy'r broses o wneud cais am forgais.
Penderfyniad o ran Egwyddor yw dogfen gan fenthyciwr sy'n dangos faint y gallech ei fenthyca. Nid yw'n gynnig morgais sicr, ond mae'n rhoi syniad clir o'ch cyllideb.
Gall gwerthwyr a benthycwyr ofyn am weld un i brofi eich bod mewn sefyllfa i brynu.
Dyma rai enwau eraill ar Benderfyniad o ran Egwyddor:
- Cytundeb mewn Egwyddor
- Morgais mewn Egwyddor
- Addewid morgais
Pam mae angen Penderfyniad o ran Egwyddor arnaf?
Gall Penderfyniad o ran Egwyddor roi hyder i chi fel prynwr a helpu eraill i'ch gymryd o ddifrif. Mae'n golygu:
- Byddwch yn gwybod faint y gallech chi ei fenthyca.
- Gall gwerthwyr eiddo argymell cartrefi yn eich ystod pris.
- Bydd gwerthwyr yn eich gweld fel prynwr ymrwymedig.
- Gallwch fod yn barod i symud yn gyflym os hoffech wneud cynnig.
Er nad yw'n gynnig morgais, mae'n gam cyntaf allweddol tuag at berchentyaeth.
Enghraifft: Stori Lisa a Paul
Mae Lisa a Paul yn brynwyr tro cyntaf gyda dau o blant. Mae Lisa yn ennill £25,000, ac mae Paul yn ennill £23,000. Maent wedi gweld cartref y maent yn ei hoffi am £220,000 ac yn mynd i'w weld y penwythnos hwn.
Cyn mynd i weld y cartref, maent yn siarad â Kate - un o ymgynghorwyr morgais Principality. Mae Kate yn ei helpu i gyfrifo y gallant fenthyg hyd at £215,000. Maent yn cael Penderfyniad o ran Egwyddor, yn dangos faint y gallai Principality roi benthyg iddynt. Gan fod ganddynt £15,000 mewn cynilion ar gyfer eu blaendal, mae'r eiddo y maent yn mynd i'w weld yn sicr o fewn eu hystod pris.
Byddant yn dod â'r Penderfyniad o ran Egwyddor gyda nhw i weld y cartref a'i ddangos i'r gwerthwr eiddo, ynghyd â thystiolaeth o swm eu blaendal. Mae hyn yn dangos eu bod o ddifrf, ac yn barod i wneud cynnig os byddant yn hoffi'r eiddo.
Os derbynnir eu cynnig, gallant ddychwelyd i Principality i wneud cais llawn am forgais.
Cael Penderfyniad o ran Egwyddor
Dysgwch faint y gallech ei fenthyca a chael Penderfyniad o ran Egwyddor dros y ffôn mewn tua 30 munud.
- Dechrau arni
Amser i drafod morgeisi?
Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi 0330 333 4002.
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp.