Skip to content

Gwefan newydd, profiad gwell

Dysgwch sut rydym wedi gwella ein gwefan i chi...
Phone screen showing a savings homepage

Yn yr erthygl newyddion hon

Symleiddio pethau i chi

Rydyn ni wedi bod yn gwrando! Dywedoch chi:

1. Bod ein gwefan yn anhrefnus ac yn ddryslyd.
2. Nid oedd yn hawdd dod o hyd i'r hyn yr oeddech ei angen...
3. ...yn enwedig ar eich ffôn symudol. 

Drwy ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch, rydym wedi ailgynllunio ein gwefan, fel y gallwch ddefnyddio a dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch yn haws.

Beth sydd wedi newid?

Beth sydd wedi newid?

Beth sydd wedi'i hepgor?

Mynediad mwy syml a didrafferth at gyfrifon cynilo a chynhyrchion morgais, gan gynnwys hidlyddion gwell i'ch helpu i leihau'r hyn rydych chi'n edrych amdano, a chardiau cynhyrchion, fel y gallwch gymharu cynhyrchion ar un olwg.

Llawer o restrau o gynhyrchion gwahanol, dryslyd sy'n ei gwneud yn anodd dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch. Dywedoch wrthym ei bod hi'n anodd chwilio am gyfrifon cynilo a morgeisi, a'i bod hi'n anodd cymharu'r rhai yr oedd gennych ddiddordeb ynddynt.

Canolfan gymorth newydd gydag atebion i'ch cwestiynau. Mae'n debyg i Gwestiynau Cyffredin defnyddiol gydag atebion i'ch cwestiynau. Hefyd, dros 50 o ganllawiau sydyn i'ch helpu gyda'ch cynilion, morgais, yswiriant a phenderfyniadau am gartref cyntaf.

Gwybodaeth wedi'i gwasgaru dros fil o dudalennau.
Gwnaethom adolygu pob tudalen unigol, cyfuno a symleiddio gwybodaeth, a dileu 75% o'r tudalennau diangen. 

Rydym wedi ad-drefnu ein dewislen yn is-gategorïau i'w gwneud yn haws i chi ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch. Rydym wedi creu silffoedd wedi'u labelu'n glir mewn gofod newydd a threfnus.

Bar llywio anniben a dryslyd.
Dywedoch wrthym fod ein dewislen yn anodd ei deall, gyda gormod o ddewis.

Rydym wedi gwella'r defnydd o liwiau hygyrch i wella cyferbyniad a darllenadwyedd ar gyfer darllenwyr sgrin.

Rydym yn dwlu ar ein lliw ‘draig goch’, ond mae’n gwneud pethau’n anodd i’w darllen ar-lein ac nid oedd yn wych ar gyfer hygyrchedd. Byddwch yn parhau i'w weld yma ac acw.

Iaith syml wedi'i chyfuno ag eiconau a darluniau newydd i symleiddio gwybodaeth ariannol gymhleth.

 

Jargon ariannol dryslyd ar dudalennau plaen, anniddorol.

Collage of new website features

Pam rydym wedi newid pethau

Rydym wedi gweithio'n galed i wneud pethau'n symlach ac yn haws i chi, ac rydym wedi ychwanegu rhai pethau newydd i’n hunaniaeth brand ond heb symud yn rhy bell oddi wrth y gwedd a'r naws rydych yn ei ddisgwyl gennym yn y Principality. Rydym wedi gwrando ar fewnbwn gan ein Haelodau ar bob cam ac rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn eich helpu i ddefnyddio'r wefan.

Rydym yn mynd i barhau i wella pethau wrth fynd ymlaen. Byddwn yn brysur yn deall beth sy'n gweithio, yn addasu ac yn diweddaru pethau, ac yn ychwanegu offer a swyddogaethau newydd i'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich cynilion a morgeisi.