Skip to content

£1 miliwn ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

James Harper Tony Smith and Kate Steele from Principality with a group from Reality Theatre Newport

Yn yr erthygl hon

Cyrraedd carreg filltir o £1 miliwn

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi cyhoeddi gyda balchder bod dros £1 miliwn o roddion bellach wedi’u dosbarthu i 97 o grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, diolch i Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol, a sefydlwyd yn 2022 mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru.

Dewisodd y gronfa, a oedd ar agor yn ddiweddar i’w thrydedd rownd o geisiadau, 18 o ymgeiswyr llwyddiannus i rannu dros £330,000 o gyllid â nhw. Bydd Reality Theatre Casnewydd yn cael £12,500 ar gyfer ei brosiect Llwybrau Creadigol, a fydd yn cefnogi 70 o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn gweithdai drama a chelfyddydol wythnosol, lle byddant yn dysgu sgiliau penodol i'r diwydiant.

Ynglŷn â Chronfa Cenedlaethau'r Dyfodol

Nod Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol yw creu gwaddol parhaus drwy fuddsoddi mewn prosiectau sy’n mynd i’r afael â llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r gronfa hefyd yn galluogi elusennau a grwpiau cymunedol i helpu pobl ifanc i gael mynediad at fwyd iach ac eitemau hanfodol eraill, gan ganolbwyntio ar ddarparu cymorth iechyd meddwl, cymryd camau i adeiladu cydnerthedd ariannol, a datblygu sgiliau i baratoi ar gyfer eu dyfodol a’r byd gwaith.

Ariannu achosion gwerth chweil

Dywedodd Juls Benson, Rheolwr Prosiect Grŵp Buddiannau Cymunedol Reality Theatre: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y grant hwn gan Gymdeithas Adeiladu Principality a fydd yn ein galluogi i barhau a datblygu ein gwaith gyda phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddwn yn cyflwyno rhaglen newydd o sesiynau wythnosol mewn perfformio a drama, gan gefnogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, a mwynhau cyfleoedd nad ydynt yn eu cael fel arfer. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cynnal clwb cymdeithasol wythnosol newydd, i’r bobl ifanc gyfarfod, cael hwyl, ymarfer eu canu a dawnsio, a datblygu eu sgiliau cymdeithasu yn gyffredinol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi rhagori ar y garreg filltir o £1 miliwn a neilltuwyd i Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol.”

"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru i gefnogi gwaith anhygoel grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl heddiw ac am genedlaethau i ddod.” 

Tony Smith, Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality.


Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’r holl dîm yng Nghymdeithas Adeiladu Principality ar Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ddarparu cymorth gwerthfawr i bobl ifanc ledled Cymru.”
 

“Mae Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol eisoes wedi gallu cefnogi ystod amrywiol o brosiectau sy’n mynd i’r afael ag anghenion a dyheadau cymunedau yng Nghymru. Mae’r grantiau hyn wedi helpu i sicrhau y gall grwpiau gwerin gwlad ac elusennau barhau i gefnogi eu cymunedau lleol yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn.” 

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.