Faint mae'n costio i roi estyniad ar gartref?
Yn y canllaw hwn
Cynllunio Estyniad i'ch Cartref
Gall estyniad i'ch cartref fod yn ffordd wych o gael rhagor o le i fyw ynddo. Gall hefyd fod yn ffordd o ychwanegu gwerth at eich cartref.
Ond, mae estyniadau'n ddrud. Felly, faint allwch chi ddisgwyl ei wario?
Cam 1: Cynllunio
Mae Sue a Kevin yn gwpwl priod yn byw yng Nghaerdydd gyda dau o blant sydd yn y brifysgol erbyn hyn. Maent yn mwynhau diddanu ac yn cael partïon gyda'u teulu mawr. Maent yn awyddus i gael mwy o le y gallant ei ddefnyddio yn eu cartref ac am estyn y llawr gwaelod i ychwanegu toiled a chegin fwy o faint.
Mae'n bwysig paratoi cynllun ariannol. O ble y mae'r arian ar gyfer eich estyniad yn dod? A ydych chi'n mynd i ailforgeisio'ch cartref. A fyddech yn cael benthyciad o'r banc? A oes gennych gynilion rydych am eu defnyddio? Neu a fyddech yn defnyddio cyfuniad o'r rhain?
Unwaith y byddwch wedi penderfynu faint y gallwch fforddio ei wario, gallwch ddechrau edrych ar beth hoffech ei gael.
Bydd cost eich estyniad yn dibynnu ar y math o ddeunyddiau a'u hansawdd. Ond bydd newidynnau fel lleoliad, a maint, yn gwneud gwahaniaeth. Gallai estyniad unllawr gostio rhwng £1500 a £3000 fesul m² i chi. Mewn rhai achosion, gallai gostio mwy.
Rydych hefyd am ystyried costau ychwanegol fel plymio, trydan a phibellau. Er enghraifft, os ydych yn ystyried codi estyniad i'r gegin, efallai y bydd angen i chi ail-wneud y pibellau ar gyfer ffwrn nwy, neu os ydych yn gosod ystafell ymolchi newydd, efallai y bydd angen plymiwr arnoch ar gyfer yr holl bibellau a thrydanwr ar gyfer y ffitiadau golau. Bydd hyn yn ychwanegu mwy at y gost.
Cam 2: Penderfynu beth rydych ei eisiau
Ar ôl mesur yr ardal lle hoffent gael eu hestyniad, amcangyfrifodd Sue a Kevin y bydd eu hestyniad yn costio cyfanswm o £60,000. Mae hyn yn cynnwys adeiladu, plymio, trydan a gosodiadau terfynol. Maent wedi penderfynu ailforgeisio eu cartref a defnyddio'u cynilion fel rhwyd achub os bydd angen.
Bydd y math o estyniad rydych yn ei ddewis yn dibynnu ar y math o eiddo rydych yn berchen arno a beth hoffech ei gael ohono. Bydd y math o estyniad rydych yn ei ddewis hefyd yn effeithio ar y gost, felly mae'n bosibl y byddwch am ystyried eich cyllideb hefyd.
Dyma rai o'r ffyrdd mwyaf cyffredin o ymestyn eich cartref:
- estyniadau unllawr
- estyniadau aml-lawr
- estyniadau i'r ochr
- estyniadau i'r gegin
- addasu'r atig
Cam 3: Cael cyngor arbenigol
Mae Sue a Kevin yn gwybod y gallant ond fforddio estyniad unllawr gyda'u cyllideb o £60,000. Maent yn hapus gyda hyn gan mai dim ond toiled i lawr grisiau a chegin fwy y maent eu heisiau. Bydd hyn yn ei galluogi i gael y lle sydd ei angen arnynt heb wneud i'w tŷ deimlo'n rhy fach. Maent yn ystyried codi estyniad o 20m2.
Gall y math o arbenigwr yr hoffech siarad ag ef yn gyntaf ddibynnu ar beth hoffech ei gael o'ch estyniad.
Pensaer a pheiriannydd strwythurol
Efallai y byddwch am siarad â phensaer a pheiriannydd strwythurol cyn gwneud gwelliannau i'ch cartref. Gallant eich helpu i gynllunio'ch prosiect a helpu i sicrhau bod yr estyniad yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu pensaernïol a strwythurol.
Dylai'r dyluniad amlinellu'r prosiect yn glir, gan ddangos sut olwg fydd ar eich estyniad a sut y bydd yn gweithredu. Gallwch ddefnyddio hwn i gael dyfyniad sefydlog gan eich adeiladwr.
Gall ffioedd pensaer gostio hyd at 10% o'r gost adeiladu. Yn gyffredinol mae peirianwyr strwythurol yn costio tua £400 am brosiect domestig sylfaenol.
Nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogi pensaer neu beiriannydd strwythurol. Argymhellir cyflogi peiriannydd strwythurol ar gyfer prosiectau lle gwneir newidiadau strwythurol i'ch cartref.
Adeiladwr
Fel arfer, gall adeiladwyr ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, dangos i chi yr hyn y gallant ei wneud a'r hyn sy'n bosibl ar gyfer eich cartref.
Mae bob amser yn syniad da cael sawl dyfynbris gwahanol, edrych ar y gwaith a wnaed yn y gorffennol a chleientiaid blaenorol cyn penderfynu pwy yr hoffech weithio gyda nhw.
Weithiau, gall dyfynbrisiau gan adeiladwyr fod uwchlaw'r gyllideb. Os oes gennych gyllideb gaeth, efallai yr hoffech ystyried ffyrdd o leihau'r gost.
- Ydych chi'n gallu gwneud rhannau o'r gwaith adeiladu eich hun?
- Allech chi ddefnyddio deunyddiau eraill fel cael rheiddiaduron yn lle gwresogi tanlawr?
- Gallwch hefyd leihau cwmpas eich prosiect ac addasu'ch cynllun dylunio gwreiddiol?
- Bydd lleihau maint eich estyniad yn lleihau'r gost.
Caniatâd cynllunio
Efallai yr hoffech wirio gyda'ch Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA) i weld a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich estyniad. Gallwch wneud cais ar-lein. Mae costau fel arfer tua £462.
Os caiff eich cynlluniau eu gwrthod, efallai y bydd angen i chi ystyried eu newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r terfyn a ganiateir.
Cam 4: Cyllidebu!
Mae Sue a Kevin yn penderfynu yr hoffent siarad â phensaer i lunio cynlluniau o sut olwg y gall fod ar yr estyniad. Mae hyn yn costio £3000 iddynt. Maent yn siarad â 3 adeiladwr ac yn dangos y cynlluniau hyn iddynt. Ar ôl edrych ar waith a gwnaed ar eiddo eu cymydog gan un adeiladwr, maent yn penderfynu gweithio gyda Jones Construction. Maent yn cael dyfynbris o £43,000 ac yn cael yr holl ddogfennaeth berthnasol gan y cwmni adeiladu cyn i'r gwaith ddechrau.
Yng ngham 1 rydych yn nodi cyllideb fras, ac yna rydych yn gweithio gydag amryw fasnachwyr i gael dyfynbris ar gyfer y gwaith i gyd. Unwaith y cytunir ar bopeth, bydd angen i chi reoli eich prosiect adeiladu a'ch cyllideb.
Gall cyfanswm cost eich estyniad amrywio'n fawr yn dibynnu ar y gwaith a wnaed ac ansawdd y deunyddiau.
Yr hyn y dylech gyllidebu amdano:
- yswiriant: mae'n bwysig dweud wrth eich cwmni yswiriant eich bod wedi cynllunio gwaith adeiladu cyn iddo ddechrau. Mae'n debygol y bydd eich premiwm yn cynyddu, ond bydd hyn yn sicrhau eich bod wedi'ch yswirio yn ystod yr adeiladu a bod eich estyniad wedi'i gynnwys ar ôl ei gwblhau.
- addurniadau a gorffeniadau: ar ôl adeiladu estyniad, bydd angen ei gaboli gyda phaent, lloriau, drysau a ffenestri. Ystyriwch beth fydd ei angen arnoch a'i gynnwys yn eich cyllideb.
- llety dros dro: yn dibynnu ar eich estyniad, efallai na fyddwch yn gallu byw yn eich cartref yn ystod cyfnodau o'r gwaith adeiladu. Bydd angen i chi ystyried rhywle diogel i aros ynddo yn ystod y cyfnodau hyn. Er mwyn arbed arian, ystyriwch ofyn i aelod o'r teulu neu ffrindiau a allwch aros gyda nhw.
Mae Which? yn argymell y dylech glustnodi 10% yn ychwanegol am gostau ychwanegol annisgwyl.
- Eiddo
Benthyca Ychwanegol
Edrychwch ar eich dewisiadau ar gyfer benthyca mwy ar eich morgais Principality presennol.