Egluro Atwrneiaeth
Yn y canllaw hwn
Beth yw Atwrneiaeth?
Atwrneiaeth yw dogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i rywun (yr atwrnai) weithredu ar ran person arall (y rhoddwr). Gall y rhoddwr ofyn i'w atwrnai wneud penderfyniadau am ei:
- iechyd
- lles
- sefyllfa ariannol
- eiddo
Gellid ond caniatáu Atwrneiaeth pan fydd gan y rhoddwr alluedd meddyliol i gytuno. Os na all y rhoddwr wneud hyn, efallai y bydd angen i chi gael Gorchymyn gan y Llys Gwarchod.
Beth yw'r Llys Gwarchod?
Beth sy'n digwydd os oes angen i chi reoli sefyllfa ariannol rhywun arall, ond nad oes ganddo'r alluedd meddylion i gydsynio?
Yn yr achosion hyn, bydd angen gorchymyn llys i roi'r awdurdod i chi roi trefn ar ei bethau.
Bydd angen i chi wneud cais drwy'r Llys Gwarchod (COP) i ddod yn ‘ddirprwy’. Dysgwch fwy am fod yn ddirprwy.
Pryd allech chi ystyried Atwrneiaeth?
Efallai y byddwch yn penderfynu yr hoffech i rywun reoli eich arian a'ch cartref ar eich rhan. Gallai hyn fod yn barhaol, neu am gyfnod byr.
Dyma rai o'r rhesymau y mae pobl yn dewis defnyddio Atwrneiaeth:
- salwch
- anabledd
- byw dramor
Pwy all fod yn Atwrnai?
Gall y rhoddwr ddewis unrhyw un i weithredu ar ei ran os ydynt yn 18 oed neu'n hŷn a gall wneud penderfyniadau drostoch chi a throsto'i hun.
Gallwch ddewis rhywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i weithredu er eich budd pennaf. Neu, os byddai'n well gennych, gallwch ddewis atwrnai proffesiynol, fel cyfreithiwr neu gyfrifydd.
Gallwch ddewis unrhyw nifer o atwrneiod, er bod y rhan fwyaf o bobl yn dewis rhwng un a phedwar. Os byddwch yn dewis mwy nag un atwrnai, bydd angen i chi nodi sut y dylent wneud penderfyniadau. Gallai hyn fod drwy 'weithredu ar y cyd' lle gwneir pob penderfyniad ar y cyd. Neu gallai pob atwrnai weithredu ar ei ben ei hun, a elwir yn 'weithredu ar y cyd ac yn unigol'.
Beth all atwrnai ei wneud?
Gallwch benderfynu beth all atwrnai ei wneud a beth na all ei wneud. Bydd y person/au a ddewisoch i fod yn atwrnai i chi yn cytuno i weithredu er eich rhan er eich budd pennaf yn unig ac yn y ffyrdd a nodi gennych yn eich dogfen.
Efallai y byddwch yn ystyried gofyn i'ch atwrnai gadw cofnod o unrhyw arian y mae'n ei wario, er mwyn rhoi diogelwch ariannol ychwanegol i chi.
Beth all atwrnai ei wneud gyda fy nghyfrif Principality?
Os oes gennych forgais |
Os oes gennych gyfrif cynilo |
---|---|
Rheoli eich eiddo |
Rheoli trosglwyddiadau |
Gwerthu eich cartref neu eiddo |
Rheoli taliadau i'r cyfrif cyfredol |
Gwahanol fathau o Atwrnaeiaeth
Atwrneiaeth Gyffredinol (GPA)
Dogfen gyfreithiol yw GPA sy'n caniatáu i rywun wneud penderfyniadau am eich arian neu eiddo ar eich rhan.
Gallwch ddewis am ba hyd y mae eich GPA yn para, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fodd bynnag, mae GPA is fel arfer am gymorth yn y tymor byr, er enghraifft, os byddwch yn sâl neu os hoffech gymorth gyda thasg benodol.
Atwrneiaeth Arhosol (LPA)
Dogfen gyfreithiol yw LPA. Mae'n caniatáu i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan os na allwch wneud hynny mwyach. Gall hefyd eich helpu i gadw rheolaeth ar eich arian, gan eich bod yn gwybod yn union sut y caiff ei reoli os na fyddwch byth yn gallu cadw trefn ar eich pethau eich hun.
Mae 2 gwahanol fath:
- iechyd a lles: gan gynnwys gofal meddygol, trefniadau byw a phwy all gysylltu â chi
- materion o ran eiddo ac arian: gan gynnwys rheoli eich arian a phrynu neu werthu eich cartref neu eiddo
Dyluniwyd LPA i ddarparu cymorth hirdymor cyn gynted ag y bydd wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu dim ond os byddwch yn colli galluedd meddyliol..
Rhaid i chi gofrestru eich LPA â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gall cyfreithiwr eich cefnogi.
Atwrneiaeth Barhaus (EPA)
Disodlwyd Atwrneiaeth Barhaus (EPA) gan Atwrneiaeth Arhosol ym mis Hydref 2007.
Mae'n ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i rywun wneud penderfyniadau am eich arian a'ch cartref ar eich rhan.
Efallai y bydd EPA yn cael ei dderbyn gan ddarparwyr ariannol o hyd, os oes gennych alluedd meddyliol o hyd. Efallai yr hoffech ystyried cofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
Faint mae'n ei gostio?
Mae costau'n amrywio, yn dibynnu ar yr Atwrneiaeth rydych yn ei dewis ac a ydych yn cael help gan gyfreithiwr.
Os hoffech gofrestru ar gyfer LPA gallwch ddisgwyl talu tua £80 - £150 am bob dogfen.
Sut i drefnu Atwrneiaeth
Ewch i'n canolfan gymorth i ddysgu sut i gofrestru Atwrneiaeth â ni.
Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.
- Everyday finance
Edrychwch ar ein canllawiau cynilo
Cyfres o ganllawiau y gellir eu darllen yn gyflym i'ch helpu i ddeall cynilion.