Skip to content
Log in

Egluro treth etifeddiant

Canllaw i Dreth Etifeddiant sy’n esbonio sut mae’n gweithio, y trothwyon treth, ac enghreifftiau o sut mae treth yn cael ei chyfrifo.
Grandmother points while granddaughter looks on, while holding flower pot in a garden

Yn y canllaw hwn

Beth yw Treth Etifeddiant?

Mae hyn yn cynnwys yr holl eiddo, meddiannau ac arian.

 

Mae gwerth ystad yn cynnwys:

  • cynilion
  • cronfeydd pensiwn
  • meddiannau gan gynnwys eiddo

Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio?

Codir Treth Etifeddiant ar gyfradd o 40%.  Mae ond yn gymwys pan fydd yr ystad yn fwy na'r trothwy di-dreth o £325,000. Gelwir y trothwy di-dreth hefyd yn Fand Cyfradd Dim (NRB). 

 

Nid oes angen i chi dalu treth os:

  • yw gwerth eich ystad islaw'r trothwy
  • rydych yn gadael popeth uwchlaw'r trothwy i'ch priod neu bartner sifil
  • rydych yn gadael popeth uwchlaw'r trothwy i fuddiolwr esempt fel elusen neu grŵp cymunedol

 

Enghraifft o sut mae hyn yn gweithio

Mae ystad Kate gwerth £625,000. Trothwy Treth Etifeddiant: £325,000. Y swm sy'n drethadwy: £300,000. 40% treth = £120,000. Y swm a etifeddwyd o ystad Kate: £505,000.

Sut mae'n gweithio os bydd fy mhlant yn etifeddu fy nghartref?

Os byddwch yn gadael eich cartref i'ch plant (gan gynnwys plant wedi'u mabwysiadu, plant wedi'u maethu neu lysblant) neu wyrion/wyresau, mae dau lwfans di-dreth:

  • Lwfans sylfaenol IHT: £325,000  
  • Lwfans prif breswylfa: £175,000 - lwfans ychwanegol a gewch ochr yn ochr â'r lwfans IHT sylfaenol os byddwch yn trosglwyddo eich prif breswylfa i'ch plant, neu wyrion/wyresau. 

Mae'r lwfansau di-dreth cyfun yn codi'r trothwy i £500,000. 

Dim ond os bydd yw eich ystad yn werth llai na £2 miliwn y mae lwfans prif breswylfa yn berthnasol.  
 

Enghraifft

Mae Jane wedi penderfynu gadael ei chartref i'w plant, Josh a Fred. Gwerth ei hystad yw £525,000. Drwy adael ei chartref i'w plant, nid oes unrhyw IHT yn berthnasol i £500,000 o'r ystad (lwfans sylfaenol + lwfans prif breswylfa). Codir IHT ar y £25,000 sy'n weddill ar gyfradd o 40%. 

Sut mae'n gweithio os na ddefnyddiodd fy mhriod/partner sifil ei drothwy/ei throthwy?

Gellir trosglwyddo unrhyw drothwy nas defnyddiwyd i'ch partner pan fyddwch yn marw. Gall hyn dyblu trothwy di-dreth y partner sy'n goroesi hyd at £650,000.

 

Gallwch hefyd drosglwyddo unrhyw lwfans prif breswylfa nas defnyddiwyd i'ch partner.

 

Drwy gyfuno'r ddau lwfans, efallai y bydd gennych hawl i lwfans o £1 miliwn. mae hyn ar yr amod na chafodd y ddau lwfans eu defnyddio pan fu farw eich partner.

 

Enghraifft

Bu farw John, gan adael ystad gwerth £600,000. Mae John yn gadael £100,000 i'w blant, ac mae ei weddw, Sarah, yn etifeddu £500,000.  

 

Mae'r £100,000 y mae John yn ei adael i'w blant yn defnyddio 40% o'r trothwy £325,000. 

 

Pan fydd Sarah yn marw, mae'r trothwy sydd ar gael yn codi gan y 60% nas defnyddiwyd i £550,000. 

 

Os nad yw ystad Sarah gwerth mwy na £550,000, ni fydd unrhyw Dreth Etifeddiaeth i'w talu pan fydd yn marw.

Pwy sy'n talu Treth Etifeddiaeth?

Y person sy'n trefnu talu'r Dreth Etifeddiaeth yw:

  • ysgutor yr ewyllys neu;
  • gweinyddwr yr ystad (os nad oes ewyllys)  

Gellir talu IHT o arian o fewn yr ystad neu o werthu asedau.  

 

Gan amlaf, telir IHT drwy'r Cynllun Taliad Uniongyrchol (DPS). Os oedd gan y person a fu farw arian yn ei gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch ofyn i'r holl IHT, neu ran ohoni, gael ei thalu o'r cyfrifon hyn. 

Pryd y mae'n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiaeth?

Rhaid talu IHT 6 mis ar ôl i'r person farw. Ar ôl  6 mis, bydd CThEF yn dechrau codi llog.  

 

Gallwch dalu treth ar asedau penodol, fel eiddo, fesul rhandal dros 10 mlynedd. Codir llog ar y swm o dreth sy'n weddill o hyd.

 

Os gwerthir yr ased, rhaid i'r holl randaliadau (a llog) gael eu talu tan hynny.

 

Ewch i CThEF i ddysgu mwy am dalu Treth Etifeddiaeth.

 

Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.

A collective of 3 illustrated sparkle highlights together. (welsh)

Edrychwch ar ein canllawiau cynilo

Cyfres o ganllawiau y gellir eu darllen yn gyflym i'ch helpu i ddeall cynilion.