Skip to content
Log in

Dewis rhwng ISA a chyfrif cynilo

Pattern made of household objects.

Yn y canllaw hwn

Sut ydw i'n penderfynu beth sy'n briodol i mi? 

Gall penderfynu a ddylech agor cyfrif cynilo neu Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) fod yn ddryslyd. Drwy ddeall y gwahaniaeth rhwng y ddau, gallwch rymuso'ch hun i benderfynu pa un sydd orau i chi.

Cyfrif Cynilo ISA
Efallai y byddwch yn talu treth ar y llog rydych yn ei ennill, yn dibynnu ar eich enillion. Mae unrhyw log a enillir ar ISA yn ddi-dreth*.
Mae gan wahanol gyfrifon cynilo wahanol derfynau ar faint y gellir ei gynilo ynddynt. Cynilwch hyd at £20,000 yn y flwyddyn dreth bresennol. Mae rhai ISAs yn eich caniatáu i drosglwyddo eich lwfans o flynyddoedd blaenorol hefyd.

Gallwch ddewis rhwng:  

Gallwch ddewis rhwng: 

Mae rhai cyfrifon cynilo yn eich caniatáu i godi neu ychwanegu arian ar unrhyw adeg.

Efallai y bydd gan rai derfyn ar sawl gwaith y gallwch godi arian ohonynt. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn cael codi arian o'ch cyfrif nifer penodol o weithiau bob blwyddyn. 

Mae ISA arian parod hyblyg yn eich caniatáu i godi arian ac amnewid yr arian hwnnw yn yr un flwyddyn dreth. Nid yw pob ISA yn hyblyg, felly yw hynny'n bwysig i chi, sicrhewch eich bod yn gwirio'n ofalus cyn i chi agor un. 

Fel cyfrifon cynilo, efallai y bydd gan rai ISAs derfyn ar sawl gwaith y gallwch godi arian. Mae hyn yn golygu efallai eich bod ond yn cael codi arian o'ch cyfrif nifer penodol o weithiau bob blwyddyn dreth.

Gallwch agor nifer o gyfrifon cynilo, ond bydd rhai ond yn eich caniatáu i agor un cyfrif. Gallwch gynilo mewn nifer o ISAs o'r un math ym mhob blwyddyn dreth (heblaw ISAs gydol oes). Fodd bynnag, efallai y bydd rhai darparwyr ond yn eich caniatáu i gynilo mewn un ISA arian parod gyda nhw.

 

Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.

 

*Mae di-dreth yn golygu nad yw'r llog rydych yn ei ennill yn destun Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae'r ffordd yr ymdrinnir â threth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Gweld yr holl gyfrifon cynilo

Barod i ddechrau cynilo? Cymharwch ein dewis o gyfrifon cynilo a dechrau'r broses o wneud cais.